10 gair i gall ar gyfer ysgrifennu CV

Ydych chi’n gwneud cais am swydd newydd, neu efallai dim ond eisiau adnewyddu eich CV? Dyma rai awgrymiadau ar gyfer ysgrifennu’r CV gorau…

1. Crëwch fformat taclus a phroffesiynol. O’i weld ar ddesg ymysg rhai eraill, rydych eisiau i’ch tudalen A4 edrych yn daclus, yn drefnus, heb ormod o eiriau… a sefyll allan!

2. Osgowch luniau, clipluniau, borderi a baneri. Yn gyffredinol, mae’r mathau hyn o nodweddion yn gwneud i’r CV edrych yn llai proffesiynol.

3. Mae llai yn fwy. Dylai eich CV fod un neu ddwy dudalen o hyd yn unig… Mae mwy na dwy dudalen yn golygu bod eich CV yn llai tebygol o gael ei ystyried. Gall fod yn annymunol i gyflogwr os yw’n gweld eich CV fel nofel!

4. Peidiwch â chynnwys eich oedran na’ch dyddiad geni. Byth!

5. Byddwch yn ymwybodol bod CV yn cael ei weld yn feirniadol. Dylech osgoi datganiadau y gellir eu camddehongli, er enghraifft, “yn mwynhau mynd allan efo ffrindiau”, gellir ei ddarllen fel “anifail parti a fydd â gormod o ben mawr i weithio”.

6. Gwiriwch, a’i wirio eto. Os oes gennych chi sgiliau sillafu gwael, dylech gael rhywun arall i edrych drosto. Nid yw camgymeriadau sillafu yn golygu y byddech o reidrwydd yn weithiwr gwael, ond mae’n awgrymu nad ydych wedi trafferthu i wirio eich gwaith. Os byddwch yn disgrifio’ch hun fel rhywun diwyd neu sy’n rhoi sylw da i fanylion, bydd pobl yn dwyn sylw at eich camgymeriadau.

7. Rhowch hwb i ddisgrifiadau. Yn hytrach na disgrifio eich dyletswyddau yn unig, ceisiwch gynnwys geiriau sy’n gwneud i chi swnio fel ymgeisydd da. Mae “wedi fy nghyflogi fel cynorthwyydd mewn siop” yn newid i “YMDDIRIEDWYD ynof i gynghori cwsmeriaid.”

8. Nodwch sgiliau meddal. Peidiwch â phoeni os oes gennych addysg neu gymwysterau cyfyngedig. Mae cyflogwyr angen sgiliau bywyd fel cadw amser da a phobl sydd wedi dangos cyfrifoldeb. Os ydych wedi mynychu’n rheolaidd i hyfforddi tîm pêl-droed plant, mae hynny’n dangos ymroddiad ac ymdrech – cofiwch ei gynnwys.

9. Cynhwyswch lythyr eglurhaol pan allwch. Mae CV da yn tueddu i gynnwys rhestrau o bethau rydych chi wedi’u gwneud, mae llythyr eglurhaol yn caniatáu i ychydig mwy o angerdd ymddangos. Mae hefyd yn rhoi cyfle i chi esbonio seibiannau gyrfa fel nad yw’ch CV yn cael ei ddiystyru ar unwaith.

10. Ceisiwch gael adborth bob amser, p’un a ydych yn cael cyfweliad ai peidio. Yna GWRANDEWCH arno.