Diweddar ŵr Lee yn ei hysbrydoli i ddod yn Brentis Uwch y Flwyddyn

Picture caption: Lee Price (chwith) yn derbyn Gwobr Prentis Uwch y Flwyddyn gan Hilary Clifford, cadeirydd y Bartneriaeth Sgiliau Galwedigaethol, noddwr y wobr.

Anrhydeddwyd Lee Price â gwobr genedlaethol am ymroi i ddysgu ar ôl i’w diweddar ŵr ei hysbrydoli i gwblhau prentisiaeth uwch naw mis cyn pryd.

Enillodd Lee, 59 oed, o Raeadr Gwy wobr Prentis Uwch y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru, sef y dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol mewn hyfforddeiaethau a phrentisiaethau a gynhaliwyd yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, Casnewydd.

Roedd Lee, sy’n Uwch Swyddog Ansawdd a Safonau Amgylcheddol Cyngor Sir Powys, yn emosiynol wrth ddweud ei bod yn derbyn y wobr er cof am ei diweddar ŵr, Rob, a’i diweddar fam, a fu farw yn gynharach eleni.

“Does gen i ddim geiriau,” meddai. “Doeddwn i ddim yn credu am funud y byddwn i’n ennill y wobr gan fod safon y gystadleuaeth mor uchel. Ro’n i’n hapus i fod yn y rownd derfynol. Diolch i Hyfforddiant Cambrian ac i fy nghyn-bennaeth Ian Harris am eu cefnogaeth.”

Bwriad y gwobrau yw tynnu sylw at lwyddiant dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr gorau Cymru sydd wedi rhagori wrth gyfrannu at ddatblygiad rhaglenni Llywodraeth Cymru ym maes Hyfforddeiaethau a Phrentisiaethau.

Eleni, Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig, oedd prif noddwr Gwobrau Prentisiaethau Cymru a drefnwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW). Caiff y Rhaglen Brentisiaethau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Cafodd Lee gefnogaeth gan ei chydweithwyr, ei chyflogwr, ei darparwr hyfforddiant a’i theulu i barhau â’r hyfforddiant ar ôl iddi golli Rob, ei gŵr ers 36 o flynyddoedd, ddim ond mis ar ôl iddi gychwyn ar y brentisiaeth uwch.
.
“Roedd colli fy ngŵr yn dorcalonnus ac roedd yn anodd i mi ddod i’r gwaith weithiau,” meddai Lee. “Ond ro’n i’n cadw i fynd trwy’r adegau anoddaf achos ei fod ef mor gefnogol i’r hyn roeddwn i’n ei wneud ac mor falch mod i’n fy ngwthio fy hunan i ennill cymwysterau newydd. Rhoddodd hynny nod newydd a phwrpas newydd mewn bywyd i mi.”

Mae Lee yn cydweithio’n agos â thîm gwastraff ac ailgylchu Powys a thîm trosglwyddo gwastraff Ceredigion, gan sicrhau bod yr holl wasanaethau’n rhedeg yn esmwyth ac yn gweithredu’n ddiogel ac yn gyfreithlon.

Cwblhaodd ei Phrentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli Systemau a Gweithrediadau trwy’r darparwr dysgu Hyfforddiant Cambrian ar ôl cwblhau cymwysterau ILM Lefel 5 Arwain a Rheoli, Rheoli’n Ddiogel IOSH, a Chynllun Hyfforddi Rheoli Safleoedd yn Ddiogel gan y CITB.

Yn ogystal, hi oedd yr Archwilydd Arweiniol wrth gyrraedd safonau ISO 9001, ISO 14001 a BS OHSAS 18001.

“Mae cwblhau’r Brentisiaeth Uwch wedi bod yn hwb enfawr i fy hyder a’m hunan-gred ac wedi dysgu llawer i mi am y diwydiant ailgylchu fel y gallaf wneud fy ngwaith yn fwy hyderus,” meddai Lee, sy’n awyddus i barhau i ddysgu.

“Rwy’n credu’n gryf mewn prentisiaethau ac yn eu gallu i wella’ch gwybodaeth, eich medrusrwydd, eich sgiliau a’ch golwg ar fywyd. ”

Wrth longyfarch Lee, dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates: “Mae rhaglenni Prentisiaethau a Hyfforddeiaethau Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn datblygu’r sgiliau, y wybodaeth a’r profiad y gwyddom fod ar fusnesau eu hangen ym mhob sector o’r economi yng Nghymru.

“Mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru’n gyfle gwych i ddathlu ac arddangos llwyddiant pawb sy’n ymwneud â’r rhaglenni hyn, o brentisiaid a chyflogwyr, i ddarparwyr dysgu a hyfforddeion. Mae pob un ohonynt wedi chwarae rhan hanfodol yn pennu’r safon ar gyfer hyfforddiant galwedigaethol ac maent yn haeddu eu cymeradwyo.

“Ni fu erioed yn bwysicach cynyddu sgiliau lefel uwch a datblygu llwybrau sgiliau er budd Cymru gyfan.”

Cewch wybod rhagor trwy gysylltu â Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bostio: duncan@duncanfoulkespr.co.uk.