Mae pump o ddysgwyr sy’n gweithio yn y sectorau trin gwastraff a gwasanaethau amaethyddol wedi graddio gyda Phrentisiaethau mewn Rheoli a ddarperir gan un o brif ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith y wlad.
Rhys Phillips, uwch gemegydd ac Emyr Bassett, Rheolwr sifft, yw’r gweithwyr cyntaf yng nghanolfan trin a throsglwyddo gwastraff Tradebe yng Nghasnewydd i gwblhau prentisiaethau gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian.
Bethan Harris, Jessica Davies, a Ffion Dart hefyd yw’r gweithwyr cyntaf yng nghwmni cynhyrchion a gwasanaethau amaethyddol, Wynnstay, yn Sir Gaerfyrddin i gyflawni eu prentisiaethau gyda’r darparwr.
Mae Jessica yn gweithio yn siop Pensarn y cwmni yng Nghaerfyrddin, ac mae Bethan bellach yn gweithio’n rhan amser yn siop Cross Hands, ac mae Ffion wedi gadael y busnes ers hynny i weithio i gyfrifydd.
Roedden nhw ymhlith mwy na 100 o raddedigion a fynychodd seremoni raddio prentisiaethau Cwmni Hyfforddiant Cambrian a gynhaliwyd ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd.
Yn rhan o fenter fyd-eang, mae Tradebe, Casnewydd, yn chwarae rhan allweddol yn yr economi gylchol trwy brosesu, ailgylchu a gwaredu gwastraff diwydiannol yn ddiogel. Mae’r cwmni hefyd yn rheoli canolfan didoli a chasglu lle mae deunyddiau yn cael eu prosesu cyn cael eu hanfon i’w hailgylchu, eu hadfer ynni, neu eu gwaredu’n ddiogel.
Pwysleisiodd Sam Dawes, rheolwr datblygu talent ac ymgysylltu Tradebe Envrionmental Services UK, bod prentisiaethau yn rhan allweddol o raglen datblygu talent y cwmni. Mae mwy na 50 o gydweithwyr wedi cymryd rhan yn y rhaglen ledled y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Mae defnyddio cyllid prentisiaethau i gynnig cymwysterau achrededig allanol yn helpu cefnogi datblygiad proffesiynol ein timau, gan fwydo i mewn i’n llif o dalent ar gyfer y dyfodol,” meddai.
“Mae’r dull prentisiaeth yn sicrhau bod cydweithwyr yn gallu dangos dysgu ar waith trwy gymhwyso yn y gweithle ac asesu ffurfiol. Mae mynediad at syniadau newydd trwy ein darparwyr hyfforddiant a staff sy’n gweithio ar draws sefydliadau eraill, yn dod â safbwyntiau newydd ac amrywiol i’n busnes.
“Rydym yn falch o ddathlu graddio ein prentisiaid diweddaraf sy’n gweithio yn ein timau yng Ngwent – mae’n dyst i’w gwaith caled a’u hymrwymiad personol i ddatblygiad proffesiynol.”
Dywedodd Donna Heath, arweinydd y sector arwain a rheoli:
“Mae gweld dysgwyr o Tradebe yn cyflawni eu prentisiaethau rheoli yn dyst go iawn i’w penderfyniad a’u proffesiynoldeb. Mae’r rhaglenni hyn yn gofyn am ymrwymiad, yn enwedig mewn amgylcheddau gweithredol prysur, ac mae pob un o’r graddedigion hyn wedi dangos gwydnwch a thwf trawiadol. Rydym yn falch o gefnogi cyflogwyr sy’n buddsoddi mewn datblygu eu pobl ac i weld y dysgwyr yn ennill y sgiliau a’r hyder i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.”
Mae Wynnstay yn cynnig pecyn llawn o wasanaethau i gwsmeriaid, i ffermwyr yn arbennig, gan gymhwyso adrannau porthiant, amaethu âr a siopau gweledig.
Yn ogystal â’r graddedigion, mae Katie Reynolds, sydd wedi’i lleoli yn siop Cross Inn y cwmni, yn gweithio tuag at ei Phrentisiaeth mewn Rheoli, wrth i Olivia Elliot, swyddog gweithredol a chydlynydd swyddfa sydd wedi’i lleoli yn y brif swyddfa yn Llansanffraid, yn gweithio tuag at ei Phrentisiaeth Sylfaen AAT.
Esboniodd Lowri Jones, swyddog recriwtio a hyfforddiant Wynnstay, bod prentisiaethau yn rhan allweddol o Strategaeth Genesis Wynnstay, dull hirdymor y cwmni i adeiladu dyfodol cryf, cynaliadwy ar gyfer y busnes.
“Mae prentisiaethau yn darparu llwybrau gwerthfawr ac ymarferol i ddatblygu talent, gan gyfuno profiad ymarferol gyda dysgu strwythuredig a chefnogi cryfder parhaol y sector amaethyddol.
“I’r busnes, mae prentisiaethau yn ein helpu ni i ddatblygu gweithlu medrus wedi’i alinio i’n hanghenion sy’n esblygu, cryfhau cynllunio olyniaeth a mynd i’r afael â bylchau sgiliau allweddol. Maen nhw’n chwarae rôl bwysig wrth sicrhau bod gennym y galluoedd cywir yn y lle cywir i gyflawni ein strategaeth hirdymor.
“I’n cydweithwyr, mae prentisiaethau yn cynnig y cyfle i adeiladu sgiliau, ennill cymwysterau cydnabyddedig a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd o fewn Wynnstay, wedi’u cefnogi gan brofiad go iawn mewn amgylchedd gwaith.”
Datgelodd bod Wynnstay yn bwriadu parhau i ehangu ei gynnig prentisiaethau yn unol â blaenoriaethau’r busnes. Mae disgwyl i gyfleoedd yn y dyfodol i ganolbwyntio’n arbennig ar ardaloedd megis cyllid, cymorth busnes, peirianneg a gweithgynhyrchu.
Canmolodd Lowri Gwmni Hyfforddiant Cambrian am alinio dysgu gyda blaenoriaethau’r busnes ac anghenion dysgwyr unigol fel ei gilydd.
“Mae eu dull hyblyg yn sicrhau bod prentisiaid yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi a’u gwerthfawrogi, wrth alluogi hyfforddiant i gael ei deilwra i ddulliau dysgu a gofynion datblygu gwahanol,” meddai.
Canmolodd Jane Gammon, swyddog hyfforddi rheoli Cwmni Hyfforddiant Cambrian, y tri graddedig Wynnstay am gyfuno eu prentisiaethau gyda gweithio mewn siopau prysur.
“Mae Wynnstay yn dda iawn wrth wasanaethu’r boblogaeth leol ac mae’r siopau’n brysur iawn,” meddai. “Roedd y tri phrentis wedi ymrwymo i gwblhau eu prentisiaethau er bod mor brysur yn y gwaith a gorfod addasu i amgylchiadau heriol, megis llifogydd mawr. Mae’n gyflawniad gwirioneddol.”
Trwy ei rwydwaith o bum swyddfa ledled Cymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw’r prif ddarparwr annibynnol o brentisiaethau i’r diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.
Mae’r cwmni a’i bartneriaid hefyd yn darparu prentisiaethau arwain a rheoli, manwerthu, gweinyddu busnes, gwasanaeth cwsmeriaid, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egnïol.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555893, neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818
