Chwech o’r goreuon yn y rownd derfynol i ganfod cigydd mwyaf medrus y DU

Capsiynau’r lluniau: Codie-Jo Carr yn derbyn ei thystysgrif oddi wrth y beirniaid Roger Kelsey a Viv Harvey yn y rhagbrawf rhanbarthol, Craig Holly yn dangos ei sgiliau cigyddiaeth yn y gystadleuaeth, Liam Lewis ar waith yn y rhagbrofion rhanbarthol, Elizabeth James wrthi’n cystadlu, Jason Edwards â’i arddangosfa gig yn y rhagbrawf rhanbarthol, Stefan Rice yn edrych ymlaen at y rownd derfynol.

Mae chwe chigydd o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon wedi sicrhau llefydd nodedig yn rownd derfynol Cystadleuaeth Cigyddiaeth WorldSkills UK eleni.

Dyma’r cigyddion a gafodd y sgôr uchaf yn y rowndiau rhanbarthol ledled y DU a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Yn y rownd derfynol yn WorldSkills UK LIVE, a gynhelir yn NEC Birmingham o fis Tachwedd 21-23, byddant yn cwblhau pum tasg dros ddau ddiwrnod o flaen cynulleidfa fyw, a fydd yn profi eu sgiliau i’r eithaf.

Yn gobeithio gwneud un safle’n well eleni, ar ôl dod yn ail yn 2018, y mae Cigydd y Flwyddyn Cymru Craig Holly, 30, o Bont-y-pŵl, sy’n gweithio i Chris Hayman Butchers, Maesycymer, Hengoed ac mae’n aelod o Dîm Crefft Cigyddiaeth Cymru.

I ychwanegu sbeis ychwanegol at y rownd derfynol, bydd un o gyd-aelodau Craig yn nhîm Cymru, Liam Lewis, 31, o Winsford, sy’n gweithio i Siop Fferm Hollies, Little Budworth, ger Tarporley, hefyd yn cystadlu am wobr anrhydeddus cigydd gorau’r DU.

Y rhai eraill sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw Stefan Rice, 35, o Cannock, sy’n gweithio i A. Hindle a’i Fab, Stafford; Elizabeth James, 17, sy’n gweithio i fusnes ei theulu, sef Cigyddion W. James, Stoke-on-Trent, Jason Edwards, 25, o Siop Fferm Hollies, Lower Stretton, ger Warrington a Codie-Jo Carr, 17, sy’n byw yn Swydd Armagh ac sy’n gweithio i Gigyddion Teulu Fred Elliott, Banbridge, Gogledd Iwerddon.

Y darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd wedi ennill gwobrau, sydd wedi trefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth â chefnogaeth Grŵp Llywio’r Diwydiant. Y noddwyr yw’r Institute of Meat, National Craft Butchers, Cwmni Anrhydeddus y Cigyddion a Hybu Cig Cymru.

Mae Chris Jones, pennaeth uned busnes bwyd a diod Cambrian Training, yn rhagweld y bydd y rownd derfynol yn un agos ac mae’n falch iawn bod y nifer uchaf erioed o gigyddion benywaidd wedi ymuno â’r gystadleuaeth eleni.

“Mae’n wych gweld dwy gigydd benywaidd dawnus a medrus yn y rownd derfynol a fydd, gobeithio, yn codi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant ac yn annog merched ifanc eraill i ddilyn eu hesiampl a chystadlu ar y lefel uchaf yn y DU,” ychwanegodd.

Mae’r gystadleuaeth yn canolbwyntio ar yr holl sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer gyrfa lwyddiannus fel cigydd aml-sgil yn y diwydiant gweithgynhyrchu bwyd. Caiff y cigyddion eu profi ar sgiliau cyffredinol, arloesi, creadigrwydd, cyflwyniad, etheg gwaith, dull a dull o ymdrin â thasgau, defnyddio carcas a thoriadau cychwynnol, gwastraff, ac ymarferion gweithio diogel a hylan.

I gystadlu, mae’n rhaid i gigyddion feddu ar sgiliau cyllell a chigyddiaeth sylfaenol ac eilaidd da, gan gynnwys cigyddiaeth torri, â lleiafswm o chwe mis o brofiad ymarferol, sgiliau clymu a llinynnu da, profiad o wneud selsig a’r gallu i weithio dan bwysau o flaen cynulleidfa.

Gall cigyddion sy’n dymuno cystadlu i fod yn gigydd gorau’r DU yn 2020 gofrestru yn https://www.worldskillsuk.org/champions/national-skills-competitions/express-your-interest-in-worldskills-uk-competitions-2020

Dywedodd Craig: “Fe wnes i gystadlu yn rownd derfynol y llynedd a dod yn ail, felly dwi’n gwybod beth i’w ddisgwyl ac yn edrych ymlaen at y gystadleuaeth. Gobeithio y bydda i’n gwneud yn dda ond allwch chi ddim bod yn rhy hyderus oherwydd nid ydych chi byth yn gwybod beth sy’n mynd i ddigwydd.

“Gyda Liam hefyd yn cyrraedd y rownd derfynol, bydd gen i gystadleuaeth gyfeillgar. Rwyf eisoes wedi dechrau ymarfer trwy greu cynnyrch sy’n barod i’w fwyta yn hytrach na gwneud arddangosfa.”

Dywedodd Liam, sy’n hanu o Wrecsam yn wreiddiol: “Bydd y rownd derfynol yn gam da ymlaen ac rwy’n siŵr y bydd gan Craig a minnau ychydig o herian cyfeillgar. Mae’n ddyn neis iawn ac wedi fy helpu ag ychydig o syniadau heb roi gormod i ffwrdd!

“Mae’n dda cael rhywun rwy’n ei adnabod yn y rownd derfynol ac rwy’n mynd yno i fod ymhlith y tri uchaf. Dyma un o gystadlaethau mwyaf y DU a byddai’n anrhydedd mawr pe bawn i’n ennill.”

Dywedodd Stefan: “Rwy’n llawn cyffro, yn edrych ymlaen at y rownd derfynol a hoffwn feddwl y gallwn i wneud yn eithaf da. Ar ôl darllen y brîff, rwy’n weddol hyderus bod gen i’r holl sgiliau i ymdrin â’r tasgau.

“Byddai’n wych ennill y gystadleuaeth hon. Fe wnes i gystadlu yng nghystadleuaeth Cigydd Ifanc y BBC pan oeddwn yn 25 oed ond heb gyrraedd y rownd derfynol.”

Mae Jason ac Elizabeth ill dau yn brentisiaid cigyddiaeth wedi eu hyfforddi gan Goleg Reaseheath, Nantwich, lle cynhaliwyd un o’r rhagbrofion yn y gystadleuaeth.

“Dyma’r tro cyntaf i mi ymuno â chystadleuaeth fawr fel hyn,” meddai Jason. “Mae wedi bod yn brofiad dysgu da ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y rownd derfynol. Mae cigyddiaeth yn yrfa wych i bobl ifanc, yn enwedig os ydych chi’n hoffi bod yn egnïol a chreu pethau â’ch dwylo.”

Dywedodd Elizabeth, cigydd pumed genhedlaeth sy’n gweithio â’i thad a pherthnasau eraill: “Roeddwn i’n falch iawn o gael fy newis ac rydw i’n teimlo’n gyffrous ac yn edrych ymlaen yn fawr at y rownd derfynol. Mae cyrraedd y rownd derfynol yn unig yn gamp fawr.”

Mae teulu Codie-Jo yn rhedeg busnes bach yn manwerthu a cyfanwerthu cig, a’i huchelgais yw parhau â’r traddodiad teuluol trwy agor ei siop gigydd ei hun.

Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol trwy ragbrawf Glasgow, dywedodd: “Dyma fy nghystadleuaeth fawr gyntaf. Gwnaf fy ngorau yn y rownd derfynol a gobeithio y bydd hynny’n ddigon da i ennill y gystadleuaeth. Byddai’n gyflawniad gwirioneddol i’w hennill.”

Mae cigyddiaeth yn un o fwy na 60 o sgiliau i’w cynnwys yn WorldSkills UK LIVE. Mae arbenigwyr yn y diwydiant wedi dylunio’r gystadleuaeth ac maent yn canolbwyntio ar safonau uchaf y DU a rhyngwladol.

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant, ar Ffôn: 01938 555893 e-bost:katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818.