Mae penderfyniad gyrfa Peter Rushforth i ddewis prentisiaeth yn hytrach na pharhau â’i astudiaethau academaidd yn y brifysgol yn talu ar ei ganfed i’r seren cigyddiaeth 21 mlwydd oed. Mae’r cigydd sydd â sawl gwobr i’w enw o Goed-llai, Gogledd Cymru newydd ddychwelyd o’r Unol Daleithiau ar ôl sicrhau ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru i astudio’r… Read more »

Cafodd unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni dysgu a hyfforddi galwedigaethol y mae un o ddarparwyr hyfforddiant arweiniol Cymru wedi’u darparu eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo neithiwr (nos Iau). Cafodd pedwar ar hugain o unigolion o ledled Cymru sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau 2017 newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian… Read more »

Mae pedwar ar hugain o unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau 2017 newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi’u cynnwys ar y rhestr fer. Caiff y gwobrau eu cyflwyno mewn seremoni ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ar 8 Mawrth i gyd-ddigwydd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, ac maent wedi’u dylunio i ddathlu… Read more »

Unwaith eto rydym yn chwilio am gigydd mwyaf medrus y wlad. Mae cystadleuaeth cigyddiaeth WorldSkills yn cynnig cyfle cyffrous i gigyddion o bob oed hogi eu sgiliau cigyddiaeth a dangos pam y nhw yw goreuon y genedl. Bellach yn ei thrydedd blwyddyn, mae’r gystadleuaeth yn ddigwyddiad ledled y diwydiant. Nid oes yn rhaid i chi… Read more »

Dychwelodd prentis arobryn o Goed-llai, sy’n dal teitl cigydd ifanc y flwyddyn y DU ar hyn o bryd, i’w hen ysgol er mwyn ysbrydoli’r myfyrwyr i ystyried llwybr amgen i’w gyrfa yn y dyfodol. Mae Peter Rushforth, 21 oed, yn rhan o dîm o ‘Lysgenhadon Prentisiaethau’ a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru i hyrwyddo manteision ymgymryd… Read more »

Yma yn Hyfforddiant Cambrian rydym yn gweithio â chyflogwyr a dysgwyr gwych ledled Cymru yn darparu amrywiaeth o raglenni hyfforddiant, prentisiaethau, a hyfforddiant cyflogaeth a sgiliau ar ran Llywodraeth Cymru. Mae gan bob un busnes, prentis neu ddysgwr ei stori a’i gyflawniad ei hun i adrodd arno. Ac i ddathlu hyn rydym wedi penderfynu lansio… Read more »

Gall tyfu eich busnes fod yn heriol ac yn werth chweil ar yr un pryd. Weithiau mae angen help ychwanegol arnoch i gyflawni’r twf hwnnw. Dyna le y gall Hyfforddiant Cambrian a Thwf Swyddi Cymru eich helpu chi a’ch busnes. Yn fach neu’n fawr, mae rhaglen Twf Swyddi Cymru yn helpu busnesau mewn rhannau o… Read more »

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu ei rhaglen ar gyfer llywodraeth dros y pum mlynedd nesaf ac mae Hyfforddiant Cambrian yn falch o weld yr ymrwymiad i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau fel rhan ohoni. Cyhoeddwyd cynllun Symud Cymru Ymlaen y mis hwn ag ymgyrch i wella economi Cymru rhwng 2016 a 2021. Yn y cynllun, a… Read more »

Mae myfyrwyr celfyddydau perfformio a adawodd y brifysgol i gychwyn ar yrfa fel cigydd wedi bod o dan y llifoleuadau yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair ym Muallt ddydd Llun. Gwnaeth Sam Hughes, 22, o Gigyddion Brian Crane, Maesycwmer, Caerffili, brofi mai ef yw’r gorau gan iddo ennill cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru ar y… Read more »