Cyhoeddi canlyniadau rownd Gogledd Iwerddon Worldskills

Mae Dylan Gillespie wedi ennill rownd Gogledd Iwerddon cystadleuaeth cigyddiaeth Worldskills.

Mae’r cigydd ifanc o Clogher Valley Meats yn Swydd Tyrone yn gyfarwydd â’r gystadleuaeth hon ac yn gobeithio gwella ar ei ganlyniad llynedd pan gyrhaeddodd y rownd derfynol a chyrraedd yr ail safle.

Daeth James Gracey, o Quails yn Dromore, Swydd Down yn ail yn y rownd ragbrofol, a Martin Naan o Irvine’s Family Butchers yn Swydd Fermanagh yn drydydd. Ymunodd y ddau gigydd â Gillespie yn y rownd derfynol y llynedd, lle cafodd Gracey ganmoliaeth uchel. Fodd bynnag, nid yw eu lle yn y rownd ragbrofol yn golygu y byddant yn cyrraedd rownd derfynol y Sioe Sgiliau o reidrwydd. Mae’r fraint honno’n mynd i’r chwe chigydd uchaf eu sgôr ar draws pob un o’r pedair rownd ragbrofol genedlaethol.

Cafodd y cigyddion y dasg o dorri rhan uchaf cig eidion ar hyd y cyhyr yn gyhyrau unigol mewn 45 munud, wedi’i ddilyn gan her barbeciw, a ofynnodd iddyn nhw greu arddangosfa ddymunol i’r llygaid allan o un cyw iâr gyfan, rhan uchaf cig eidion, ysgwydd o gig oen Cymru a lwyn o borc heb esgyrn mewn 1 awr 30 munud.

“Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i’n cynhalwyr hyfryd am y rownd ragbrofol hon yn y Southern Regional College,” meddai Katy Godsell, rheolwr marchnata’r darparwr hyfforddiant Cwmni Hyfforddiant Cambrian, sy’n trefnu’r digwyddiad. “Dywedodd y beirniaid ei bod hi’n gystadleuaeth dynn iawn a roddodd lwyfan i sgiliau gwych.”

Bydd y rowndiau terfynol yn digwydd yn nes ymlaen yn y flwyddyn yn yr NEC yn Birmingham. Mae Peter Rushforth, enillydd y llynedd o Swans Farm Shop yn yr Wyddgrug yng Nghymru, wedi mynd ymlaen i gynrychioli diwydiant cig Cymru ar lefel ryngwladol.

Y Meat Trades Journal yw partner cyfryngau unigryw’r gystadleuaeth ac ymhlith y noddwyr mae Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd; y Sefydliad Cig; y Cyngor Hyfforddiant ac Addysg Bwyd a Diod; Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales ac ymgynghorydd y diwydiant, Viv Harvey.