Mae atal yn well na gwella

Mae digwyddiadau diweddar yn y DU wedi tynnu sylw at sut gall radicaleiddio ac eithafiaeth gael effaith ddofn ar ein cymunedau. Ond sut mae hyn yn effeithio ar fusnesau, cyflogwyr a gweithwyr yng Nghymru a sut gallant gymryd rhan yn y gwaith o’u hatal?

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb – dyletswydd gofal – i ofalu am ein gweithwyr a’n cymunedau ehangach, gan gynnwys unigolion, teulu a ffrindiau.

Boed hynny yn Llundain, Caerdydd, Y Drenewydd, Caerfyrddin, Wrecsam neu Gaernarfon. Mae’r un fath i bawb.

Byrdwn menter Llywodraeth y DU o’r enw Prevent yw diogelu pobl a chymunedau rhag bygythiad pob math o eithafiaeth a radicaleiddio, gan gynnwys terfysgaeth. Ac mae wedi’i anelu at bobl fel chi sy’n cyflogi pobl a allai fod yn agored i niwed.

Efallai nad ydym yn meddwl bod eithafiaeth yn gyffredin yng Nghymru. Ond mae dal angen bod yn ymwybodol o’r potensial, beth yw’n cyfrifoldebau a sut gallwn ddelio â’r peth, gyda help amryw asiantaethau, yr heddlu a phobl eraill.

Dyna lle mae bod yn ymwybodol o fentrau fel Prevent yn bwysig, p’un a ydych ch’n meddwl ei fod yn broblem ai peidio.

Felly beth mae Prevent yn bwriadu ei wneud?
Ei nod yw stopio pobl rhag cymryd rhan mewn eithafiaeth dreisgar neu gefnogi terfysgaeth, yn ei holl ffurfiau, trwy:

  • Gefnogi diwydiant lleol, ysgolion ac asiantaethau partner trwy ymgysylltiad, cyngor a hyfforddiant
  • Gweithio gydag a chefnogi grwpiau cymunedol a phrosiectau menter sy’n gweithio gyda phobl agored i niwed
  • Gweithio gyda grwpiau a sefydliadau ffydd
  • Cefnogi pobl mewn perygl

Rhan o’r fenter hon yw rhaglen o’r enw Channel. Mae’n darparu cefnogaeth i bobl y dynodwyd eu bod yn agored i gael eu tynnu i mewn i derfysgaeth neu eithafiaeth.

Ond beth allwch chi ei wneud fel cyflogwr?
Nid oes ots a ydych chi’n credu bod eithafiaeth neu radicaliaeth yn bodoli yn eich cymuned neu hyd yn oed yn eich busnes. Mae’n rhywbeth y dylech fod yn ymwybodol ohono.

  • Mae gennych gyfrifoldeb i rannu unrhyw bryderon mewn perthynas â’ch staff ac i alluogi’r staff priodol i archwilio beth allai’r cam gweithredu fod
  • Os ydych chi’n poeni y gallai rhywun rydych chi’n ei adnabod fod mewn perygl o radicaleiddio, gallwch ffonio’r heddlu ar 101 neu ffonio’r llinell gymorth gwrthderfysgaeth gyfrinachol ar 0800 789321
  • Rhoi cyfleoedd i weithwyr drafod eu pryderon eu hunain am eithafiaeth, digwyddiadau yn y newyddion ac am werthoedd Prydeinig
  • Byddwch yn effro i unrhyw newidiadau yn ymddygiad eich gweithwyr sydd, yn eich barn broffesiynol chi, yn rhoi achos i boeni.

Yn aml iawn, nid oes arwyddion amlwg ond mae yna wybodaeth a all helpu. Ewch i’r wefan hon i gael rhagor o wybodaeth https://www.gov.uk/government/publications/prevent-duty-guidance