Os ydych chi’n gyflogwr yng Nghymru, ewch i ymhél â Phrentisiaethau i greu gweithlu mwy uchel ei gymhelliant, hynod fedrus, cymwys ac ymatebol gyda’r sgiliau a’r profiad y mae arnoch eu hangen i wneud eich busnes yn llwyddiannus heddiw ac yn y dyfodol.

Trwy roi cyfle i brentisiaid hyfforddi yn y gwaith, rydych chi’n rhoi cyfle iddynt dyfu, datblygu ac uwchsgilio wrth ennill profiad gwerthfawr. Gwna brentisiaid gwir wahaniaeth a gallant gael effaith gadarnhaol ar eich busnes.

Mae busnesau sy’n rhan o raglenni prentisiaeth yn eu hystyried yn elfen hollbwysig i wella sgiliau ac yn ateb hyfforddiant tymor hir i ddatblygu eu gweithlu. Darganfyddwch…Beth yw prentisiaeth? >>

 

Manteision Busnes

  • Cyflwynir safonau cenedlaethol a chymwysterau galwedigaethol gyda hyfforddiant a datblygiad sgiliau ymarferol
  • Mae’r prentisiaid eu hyfforddi’n dda, yn gynhyrchiol ac yn uchel eu cymhelliant gyda sgiliau trosglwyddadwy
  • Mae cyflogwyr prentisiaid wedi rhoi gwybod am fanteision megis; gwell morâl ymhlith staff a gwell cyfraddau cadw staff ar draws y busnes
  • Daw prentisiaid ag enillion sylweddol ar y buddsoddiad ac yn aml symudant ymlaen i hyfforddiant pellach a rolau uwch

Prentisiaethau a Gwasanaethau Hyfforddiant

Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw un o’r prif ddarparwyr hyfforddiant yng Nghymru ac arbenigwn mewn cyflwyno prentisiaethau yn y meysydd galwedigaethol canlynol i fusnesau o bob maint ledled Cymru;

Caiff ein holl raglenni prentisiaeth eu hachredu a’u hardystio gan Gyrff Dyfarnu ac fe’u cyflwynir gan ein tîm hyfforddi hynod fedrus i sicrhau eich bod yn cael dim ond hyfforddiant o’r safon orau. Ymfalchïwn ar ein hyblygrwydd wrth ymateb i’n cwsmeriaid. Peidiwch â chymryd ein gair ni, edrychwch ar yr hyn y mae’n cyflogwyr yn ei ddweud amdanom >>

Gwasanaeth Cyfateb Prentisiaeth
Mae’r gwasanaeth cyfateb prentisiaeth yn rhoi platfform ar-lein RHAD AC AM DDIM i hysbysebu a hyrwyddo’ch cyfleoedd am swyddi prentisiaeth o safon. Galluoga hyn i filoedd o ddarpar brentisiaid ar draws y wlad i edrych ar eich swyddi gwag a gwneud cais amdanynt. Cynigia hyn y dewis i chi hidlo ac astudio ceisiadau’n hawdd a rhoi ymgeiswyr ar restr fer a’u gwahodd am gyfweliad, y cyfan o’ch ardal bersonol chi o’r system. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Er mwyn hysbysebu’ch cyfle am brentis ar-lein, e-bostio: info@cambriantraining.com

Cyllid sydd Ar Gael

Mae Llywodraeth Cymru’n ariannu’r rhan fwyaf o gostau hyfforddi’r prentis, sy’n golygu mai dim ond eu cyflog sydd ar ôl i chi ei dalu.

Mae nifer o raglenni a ariennir ar gael hefyd i gyflogwyr yng Nghymru i helpu cefnogi a thyfu’ch busnes ar y cyd â hyfforddi’ch gweithlu.

Cysylltwch â Ni

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, neu ddechrau rhaglen Brentisiaeth, cysylltwch â ni i drafod eich dewisiadau a sut gallwn eich cefnogi chi;
E-bost: info@cambriantraining.com neu Ffôn: 01938 555893