Author: Alison Gill

Gwobrau VQ 2017 Gwnaeth diswyddiad agor y drws i yrfa newydd gwerth chweil ar gyfer Julie Mundy sydd wedi dathlu llwyddiant ei siwrnai ddysgu â Gwobr Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) ar gyfer Cymru. Enwyd Julie Mundy, 52, mam i dri o Finffordd, ger Porthmadog, yn Ddysgwr y Flwyddyn VQ (Uwch) yn y seremoni wobrwyo flynyddol a… Read more »

Enwyd Jake Laidlaw o Andrews Quality Meats yn Swindon yn enillydd rownd Cymru cystadleuaeth cigyddiaeth Worldskills. Dywedodd y cigydd 25 oed (yn y llun) ei fod yn falch iawn o ddod yn gyntaf, o ystyried mai dyma oedd ei flwyddyn gyntaf yn cystadlu yn yr her. Trechodd gystadleuaeth ar ffurf Sam Hughes, 22 oed o… Read more »

Mae Dylan Gillespie wedi ennill rownd Gogledd Iwerddon cystadleuaeth cigyddiaeth Worldskills. Mae’r cigydd ifanc o Clogher Valley Meats yn Swydd Tyrone yn gyfarwydd â’r gystadleuaeth hon ac yn gobeithio gwella ar ei ganlyniad llynedd pan gyrhaeddodd y rownd derfynol a chyrraedd yr ail safle. Daeth James Gracey, o Quails yn Dromore, Swydd Down yn ail… Read more »

Mae Jamie Farrell wedi cael ei dystysgrif PC3 wrth weithio fel prif gogydd yng nghartref gofal y Quarry Hall yn Llaneirwg. Mae bellach yn ymgymryd â phrentisiaeth Lefel 4 mewn Rheoli Lletygarwch! Cysylltwch â Ni Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflogi prentis, neu ddechrau rhaglen Brentisiaeth, cysylltwch â ni i drafod eich dewisiadau a sut… Read more »

Mae prentisiaethau yn rhan bwysig o ddatblygu sgiliau a hyfforddiant yn y gweithle yng Nghymru, ni waeth pa sector rydych ynddo neu ba mor fawr neu fach yw’ch busnes. O fis Ebrill 2017, bydd newidiadau i’r ffordd y caiff prentisiaethau eu hariannu, â Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Ardoll Brentisiaethau, a fydd hefyd yn effeithio… Read more »

Mae digwyddiadau diweddar yn y DU wedi tynnu sylw at sut gall radicaleiddio ac eithafiaeth gael effaith ddofn ar ein cymunedau. Ond sut mae hyn yn effeithio ar fusnesau, cyflogwyr a gweithwyr yng Nghymru a sut gallant gymryd rhan yn y gwaith o’u hatal? Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb – dyletswydd gofal – i… Read more »

Mae penderfyniad gyrfa Peter Rushforth i ddewis prentisiaeth yn hytrach na pharhau â’i astudiaethau academaidd yn y brifysgol yn talu ar ei ganfed i’r seren cigyddiaeth 21 mlwydd oed. Mae’r cigydd sydd â sawl gwobr i’w enw o Goed-llai, Gogledd Cymru newydd ddychwelyd o’r Unol Daleithiau ar ôl sicrhau ysgoloriaeth Hybu Cig Cymru i astudio’r… Read more »

Cafodd unigolion a chyflogwyr sydd wedi rhagori mewn rhaglenni dysgu a hyfforddi galwedigaethol y mae un o ddarparwyr hyfforddiant arweiniol Cymru wedi’u darparu eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo neithiwr (nos Iau). Cafodd pedwar ar hugain o unigolion o ledled Cymru sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau 2017 newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian… Read more »

Mae pedwar ar hugain o unigolion sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Prentisiaeth, Cyflogaeth a Sgiliau 2017 newydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi’u cynnwys ar y rhestr fer. Caiff y gwobrau eu cyflwyno mewn seremoni ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ar 8 Mawrth i gyd-ddigwydd ag Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau, ac maent wedi’u dylunio i ddathlu… Read more »

Unwaith eto rydym yn chwilio am gigydd mwyaf medrus y wlad. Mae cystadleuaeth cigyddiaeth WorldSkills yn cynnig cyfle cyffrous i gigyddion o bob oed hogi eu sgiliau cigyddiaeth a dangos pam y nhw yw goreuon y genedl. Bellach yn ei thrydedd blwyddyn, mae’r gystadleuaeth yn ddigwyddiad ledled y diwydiant. Nid oes yn rhaid i chi… Read more »