Author: Katie George

Dydi becws a siop goffi Daneg poblogaidd yng Nghaerdydd, Brød, ddim wedi edrych yn ôl ers iddynt gyflogi eu prentisiaid cyntaf yn fuan ar ôl agor y busnes bedair blynedd yn ôl. Sefydlwyd Brød (The Danish Bakery Ltd), ar Wyndham Crescent yn ardal Pontcanna, gan Betina Skovbro. Ar hyn o bryd mae gan y busnes… Read more »

Mae dyfodiad prentisiaid i gwmni dŵr ffynnon a diodydd meddal Radnor Hills o Bowys yn 2017 wedi cael “effaith wirioneddol drawsnewidiol” ar y gweithwyr a thwf y busnes. Mae’r cwmni, sy’n cyflogi 181 o bobl yn Heartsease, ger Trefyclo, wedi gweld twf o 20 y cant yn y busnes yn y ddwy flynedd ddiwethaf, yn cynnwys… Read more »

Mae Andrew Bennett, sydd yn rownd derfynol y Gwobrau, yn benderfynol o beidio â gadael i ddyslecsia na’r ffaith ei fod wedi colli ei olwg mewn un llygad ei rwystro rhag cael gyrfa lwyddiannus. Mae’r Cynghorydd Ailgylchu 51 oed o Abergele wedi cwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gweithgareddau Ailgylchu Cynaliadwy, mae’n gweithio ar Brentisiaeth ac mae… Read more »

Trwy ymrwymo i brentisiaethau, mae gwesty, bar a bwyty annibynnol ar lannau Bae Ceredigion yn llwyddo i gynnal gweithlu o 40 o weithwyr medrus a brwd. Nod Gwesty’r Harbourmaster yn Aberaeron, sydd â 13 o ystafelloedd gwely moethus, boutique, yw cynnig gofal ardderchog i’w gwsmeriaid a phrofiad rhagorol i ymwelwyr er mwyn cynnal yr enw… Read more »

NUS Apprentice Extra yw’r cerdyn gostyngiadau i Brentisiaid y DU, gan helpu’ch arian anodd ei ennill i ymestyn ychydig ymhellach! Mae NUS Apprentice Extra yn rhoi gostyngiad ar rai o’ch hoff frandiau, yn y siopau ac ar-lein. Crëwyd y cerdyn gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr (NUS) ac felly mae’r arian a godwyd yn gwerthu’r cerdyn… Read more »

Mae staff o un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru wedi rhedeg, cerdded a beicio 1,225 o filltiroedd ers dechrau’r flwyddyn i godi arian at Ymchwil Canser. Mae’r cwmni sydd wedi ennill gwobrau, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn wedi rhagori ar ei darged o deithio 1,000 o filltiroedd ond… Read more »

Bydd Tom Cave yn teithio ychydig filltiroedd i lawr yr arfordir o’i dref enedigol Aberdyfi y penwythnos hwn i dref glan môr fwy deheuol Aberystwyth ar gyfer Rali Bae Ceredigion Get Connected cyntaf ar ddydd Sul (Medi 8). Y digwyddiad hwn yw’r rali gyntaf erioed i’w chynnal ar ffyrdd cyhoeddus caeedig yng Nghymru ac felly,… Read more »

Mae dysgwyr, cyflogwyr, tiwtoriaid ac aseswyr disglair o bob rhan o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, sef dathliad blynyddol o lwyddiant eithriadol ym maes hyfforddiant a phrentisiaethau. Mae tri deg pedwar o unigolion a sefydliadau, mewn dwsin o gategorïau, ar y rhestrau byrion ar gyfer y gwobrau a gyflwynir mewn seremoni… Read more »