Prentis Gweinyddol gyda H-Pack yn Wrecsam
H-Pack Packaging UK Ltd, Ystâd Ddiwydiannol Llai, Wrecsam, LL12 0PG
Amdanom ni
Mae H-Pack Packaging UK Ltd yn gwmni deunyddiau pacio bwyd enwog a sefydlwyd yn 2016, sy’n gwasanaethu’r Deyrnas Unedig ac Ewrop. Fel rhan o Hotpack Packaging Industries, a deilliodd o Dubai ym 1995, rydym yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu, dosbarthu, a marchnata deunyddiau pacio bwyd a chynhyrchion cysylltiedig. H-Pack yw’r gwneuthurwr mwyaf o ddeunyddiau pacio bwyd. Rydym yn arbenigo mewn pacio bwyd gan ddefnyddio deunyddiau crai ardystiedig, gan sicrhau ein bod yn cynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel. Mae ein ffatrïoedd gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf yn meddu ar y gallu i gynhyrchu niferoedd mawr o ddeunyddiau pacio bwyd, gan ddiwallu gofynion ein cwsmeriaid.
Y rôl
Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a frwdfrydig i ymuno â’n tîm fel Prentis Gweinyddol. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i ennill profiad ymarferol mewn gweinyddu swyddfa wrth weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.
Cyfrifoldebau Allweddol
- Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol i’r tîm.
- Helpu i fewnbynnu data, ffeilio, a rheoli dogfennau.
- Cefnogi eraill wrth greu amserlennu, rheoli calendrau, a pharatoi cyfarfodydd.
- Helpu i baratoi adroddiadau a chyflwyniadau yn ôl yr angen.
- Cyfathrebu â thimau mewnol a chysylltiadau allanol yn broffesiynol.
- Cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant a chwblhau aseiniadau prentisiaeth.
Amdanoch chi
- Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da.
- Trefnus, dibynadwy, ac yn fanwl gywir.
- Gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
- Parodrwydd i ddysgu systemau a phrosesau newydd
Manteisiol (nid yn hanfodol):
- Sgiliau TG sylfaenol, gan gynnwys MS Office (Word, Excel, Outlook).
- Profiad swyddfa flaenorol neu fod yn gyfarwydd â thasgau gweinyddol.
Gwybodaeth ychwanegol
Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig:
- Rhaglen prentisiaeth strwythuredig gyda mentora a hyfforddiant.
- Profiad ymarferol mewn amgylchedd swyddfa ddeinamig.
- Cyfle i symud ymlaen i rôl weinyddol barhaol ar ôl cwblhau’r brentisiaeth.
- Parcio ar y safle.
- Diodydd am ddim pob sifft.
Cymwysterau gofynnol: Safon dda o addysg gyffredinol. Mae TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu gyfwerth yn ddymunol.
Gofynion y Gymraeg: Dim
Cwrs Prentisiaeth: Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes
Cyflog: Cyfraddau Prentisiaethau
Oriau: 09:00 – 17:30, 40 awr yr wythnos
Trefniadau cyfweliad: Cyfweliad wyneb yn wyneb yn H-Pack
Gwnewch gais: Anfonwch e-bost eglurhaol a’ch CV at hr@h-packglobal.com
| Job Category | H-Pack Packaging UK Ltd |
