Sut i bigo cyw iâr

Sut i bigo cyw iâr gan Chris Jones, ein Pennaeth Prentisiaethau Bwyd a Diod

Mae cyw wedi’i hollti’n coginio’n gynt ac yn fwy cyfartal. Mae modd i’r cynnydd yn arwynebedd yr wyneb ddargludo gwres yn llawer cynt na’r aderyn cyfan.

Mae hollti’r cyw hefyd yn amlygu mwy o’r croen i’r gwres, sy’n arwain at groen crimpach. Ac mae pob un ohonom yn hoffi croen crimp.

Mae’r natur o sgwario’r aderyn yn rhoi llawer mwy o arwynebedd i ni weithio ag ef. Dim rhagor o ymladd gyda’r ceudod. Ystyriwch yr arwynebedd ychwanegol hwn fel palet ehangach ar gyfer eich campwaith blasus. Mwy o arwynebedd ar gyfer rhwbiadau, sawsiau a sesnadau eraill.

Mae cyw cyfan yn arbed arian. Mae’n llawer rhatach prynu cyw cyfan na chyfanswm ei rannau.

Cam 1:

Rinsiwch y cyw i gyd, y tu mewn a’r tu allan. Patiwch yn sych gyda thywelion papur. Rhowch y cyw, gydag ochr y frest i lawr, ar fwrdd torri cadarn. Bydd angen siswrn cegin neu gyllell finiog arnoch. Os ydych chi’n defnyddio cyllell, gwnewch yn siŵr ei bod hi’n finiog! Bydd cyllell heb fin yn brwydro yn eich erbyn chi ac mae’n bosibl iawn y cewch chi’ch torri.

Cam 2:

Dechreuwch drwy dorri ar hyd ochr dde’r asgwrn cefn o’r gwddf i’r gynffon.

Cam 3:

Nesaf, torrwch ar hyd ochr chwith yr asgwrn cefn , yn union fel y gwnaethoch ar yr ochr dde

Cam 4:

Trowch yr aderyn drosodd a’i orfodi i agor fel llyfr. Yn ôl y traddodiad, tynnir asgwrn y fron trwy dorri i lawr bob ochr iddi gyda chyllell wadn finiog.

Dewis arall fan hyn yw tynnu asgwrn y fron bron yn gyfan gyda chyllell neu siswrn yn yr un ffordd ag y gwnaethoch gyda’r asgwrn cefn. Bydd hyn yn rhoi dau hanner cyw i chi, neu “cyw wedi’i hollti’n ddau”.

Cam 5:

Trowch y cyw yn ôl drosodd a’i wthio i lawr yn y canol.

Cyw wedi’i Hollti Clasurol gan Chris Bason, ein Pennaeth Prentisiaethau Lletygarwch

  • 1 cyw cyfan
  • Pupur Cayenne
  • Sudd lemon
  • 55g Menyn
  • 15g caws parmesan
  • Halen a phupur

Ar ôl coginio, brwsiwch y cyw gyda menyn wedi toddi, ysgeintiwch parmesan drosto a’i grilio er mwyn crimpio.

Cyw wedi’i Hollti gyda marinâd piri-piri gan Chris Bason, ein Pennaeth Prentisiaethau Lletygarwch

  • 1 cyw cyfan
  • 4 tsili coch, wedi’u torri (tynnwch yr hadau allan os nad ydych chi’n ei hoffi’n rhy sbeislyd)
  • 2 lwy de paprica melys
  • 3 clof garlleg wedi’u malu
  • 2 lwy fwrdd o bersli wedi’i dorri
  • 2 lwy fwrdd o finegr gwin coch
  • Neu jar o saws marinâd piri-piri parod
  • 3 llwy fwrdd olew’r olewydd
  • Darnau lemon a saws Tabasco (dewisol), i weini

Rhowch y tsilis a’r garlleg mewn prosesydd bwyd gyda phinsiad da o halen. Cyfunwch tan ei fod yn bâst, ychwanegwch y paprica, finegr, persli ac olew’r olewydd. Cymysgwch yn dda a marinadu’r cyw, gan rwbio i mewn yn dda. Gadewch i farinadu am o leiaf 1 awr neu dros nos os yn bosibl.

Er mwyn ei goginio yn y popty, cynheswch y popty i 200°C/180°C ffan/nwy 6 a’i goginio am 35-40 munud ar badell pobi. Er mwyn llosgi’r croen, griliwch am 5-10 munud arall. Gweinwch gyda darnau o lemon a saws Tabasco os ydych chi’n ei hoffi’n boeth.

Gwiriwch dymheredd y rhan fwyaf trwchus o’r darn i gyflawni tymheredd craidd o 75°C i sicrhau diogelwch bwyd.

Garnisiwch gyda sbrigau o ferwr dŵr ffres.

Paratoi cyw iâr a choginio gan ddatblygu sgiliau a ddysgwyd gan brentisiaid wrth weithio tuag at Brentisiaethau Gweithgynhyrchu Bwyd a Diod a Phrentisiaethau Lletygarwch. I gael mwy o wybodaeth am Brentisiaethau cysylltwch â Chwmni Hyfforddi Cambrian yn cambriantraining.com neu Ffôn: 01938 555893.