
Mae 2025 yn ymddangos i fod yn flwyddyn gofiadwy i gogydd talentog o Gymru, Gabi Wilson, sy’n edrych ymlaen at gynrychioli’r DU yn Nenmarc.
Mae’r cogydd 20 oed o Chapters, bwyty seren Michelin Gwyrdd yn y Gelli Gandryll wedi cael ei dewis gan Dîm y DU i gystadlu yn EuroSkills Herning 2025 ym mis Medi, yn dilyn ei llwyddiant mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol.
Mae hi hefyd yn gobeithio cystadlu am le yn Nhîm y DU ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026.
Gan nodi carreg filltir arwyddocaol ar ei thaith yrfa, graddiodd Gabi yn ddiweddar gyda Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol yn Seremoni Graddio Prentisiaethau chwe-misol y darparwr dysgu seiliedig ar waith Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Mynychodd dros 100 o brentisiaid o bob cwr o Gymru’r seremoni ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd yr wythnos diwethaf.
Symudodd Gabi, sy’n byw yn Rhaeadr Gwy, i Chapters ar ôl i Chartists 1770 yn y Trewythen, Llanidloes gau’r llynedd. Hi oedd enillydd cyntaf Her y Cogydd Gwyrdd ym Mhencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol Cymru yn 2024.
Er mwyn helpu i berffeithio ei sgiliau ar gyfer EuroSkills Herning 2025, bydd swyddogion hyfforddi Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Andrew Addis-Fuller a Craig Holly, yn darparu cymorth un-i-un ar brydau pysgod a chigyddiaeth, yn y drefn honno.
Mae Gabi hefyd yn y broses o gwblhau cymhwyster Patisserie Lefel 3 City & Guilds yng Ngrŵp Colegau NPTC yn y Drenewydd.
“Mae’r brentisiaeth wedi fy helpu i lawer oherwydd mae gweithio mewn cegin broffesiynol yn wahanol iawn i fod yn fyfyriwr coleg,” meddai.
“Fy nghyngor i unrhyw un sy’n dymuno dod yn gogydd yw dewis prentisiaeth mewn man lle mae gweithwyr proffesiynol medrus oherwydd byddwch bob amser yn dysgu gan y goreuon. Mae’n rysáit ar gyfer llwyddiant.
“Roedd graddio yn foment falch i mi oherwydd bod fy mam a dad yn mynychu’r seremoni ac roedd staff Hyfforddiant Cambrian yn fy nghanmol.”
Dechreuodd Gabi weithio yn Chapters ym mis Chwefror ac mae’n mwynhau gweithio gyda’i chyd-gogyddion, dan arweiniad y prif gogydd Mark McHugo, sy’n berchen ar y bwyty gyda’i wraig, Charmaine.
“Mae’n mynd yn dda iawn ac rwy’n dysgu llawer,” ychwanegodd. “Rydyn ni newydd orffen Gŵyl y Gelli a oedd yn hynod brysur am 10 diwrnod.”
“Rwyf am ddysgu ystod eang o sgiliau cyn arbenigo mewn patisserie. Yn y dyfodol, hoffwn hefyd wneud cyfnodau mewn gwahanol fwytai i ddysgu gan gogyddion eraill.”