
I’r cogydd Cymreig Gabrielle Wilson, sy’n 20 mlwydd oed, mae 2025 yn siapio i fod yn flwyddyn na fydd hi byth yn ei anghofio. O raddio gyda Phrentisiaeth mewn Coginio Proffesiynol i gael ei dewis i gynrychioli Tîm y DU yn EuroSkills Herning 2025, mae taith Gabi yn dyst i dalent, cadernid, a phŵer dysgu wrth weithio.
Dechreuodd stori goginio Gabi yn Lanidloes, lle camodd i mewn i’r gegin broffesiynol yn Chartists 1770 yn y Trewythen, bwyty hyfforddi boutique sy’n cael ei redeg gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian. Yno daeth o hyd i’w rhythm – a’i hangerdd am goginio cynaliadwy. Ym mis Ionawr 2024, gwnaeth hi a’i chyd-prentis Rose Koffer cyrraedd y newyddion trwy ennill aur yn Her y Cogydd Gwyrdd gyntaf ym Mhencampwriaethau Coginiol Rhyngwladol Cymru. Roedd eu bwydlen lysieuol tri chwrs yn syfrdanu’r beirniaid ac enillodd Gabi’r teitl o bencampwr cyntaf y gystadleuaeth.
Pan gaeodd Chartists 1770 ei ddrysau, symudodd Gabi i Chapters, bwyty Seren Michelin Gwyrdd yn y Gelli Gandryll, lle mae hi bellach yn gweithio o dan y prif gogydd Mark McHugo. “Mae’n mynd yn dda iawn ac rwy’n dysgu llawer,” meddai. “Rydym newydd ddod trwy Ŵyl y Gelli – roedd yn hynod o brysur, ond yn brofiad mor wych.”
Mae ei phrentisiaeth Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol, a ddarperir gan Hyfforddiant Cambrian, wedi bod yn gonglfaen o’i datblygiad. “Mae gweithio mewn cegin broffesiynol yn wahanol iawn i fod yn fyfyriwr coleg,” esboniodd Gabi. “Mae’r brentisiaeth wedi fy helpu yn fawr – rydych chi’n dysgu gan weithwyr proffesiynol medrus pob dydd. Mae’n rysáit ar gyfer llwyddiant.”
Dathlwyd y llwyddiant hwnnw yn Seremoni Raddio Prentisiaethau Hyfforddiant Cambrian ar Faes y Sioe Frenhinol, lle’r oedd Gabi yn sefyll yn falch ymhlith mwy na 100 o brentisiaid o bob cwr o Gymru. “Roedd graddio yn foment falch i mi,” meddai. “Roedd fy mam a dad yno, ac roedd staff Cambrian more cefnogol.”
Yr wythnos hon, yn EuroSkills Herning 2025, mae Gabi wedi bod yn cystadlu yn erbyn y prentis cogyddion gorau o bob cwr o Ewrop. Mae Gabi hefyd wedi symud ymlaen i astudio cymhwyster Patisserie Lefel 3 City & Guilds yng Ngrŵp Colegau NPTC yn y Drenewydd – cam tuag at ei breuddwyd o arbenigo mewn patisserie.
Wrth edrych ymlaen, mae Gabi yn gobeithio ennill lle yn Nhîm y DU ar gyfer WorldSkills Shanghai 2026 a gyda chefnogaeth Hyfforddiant Cambrian yn bwriadu gwneud secondiadau mewn bwytai eraill i ehangu ei phrofiad. Ei chyngor i gogyddion uchelgeisiol? “Ewch am brentisiaeth rhywle gyda gweithwyr proffesiynol medrus. Byddwch yn dysgu gan y gorau – ac mae hynny’n gwneud gwahaniaeth mawr.”
O dref fach yng Nghanolbarth Cymru i’r llwyfan rhyngwladol, mae Gabi Wilson yn profi bod unrhyw beth yn bosibl gydag angerdd, cefnogaeth, a bach o ddewrder.