Dathlu Cyflawniadau dros 100 o brentisiaid mewn seremoni raddio

Prentisiaid CHC yn eu Seremni Raddio

Dathlwyd cyflawniadau ac ymroddiad mwy na 100 o brentisiaid o bob cwr o Gymru gan ddarparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw mewn seremoni raddio yng Nghanolbarth Cymru heddiw (dydd Mawrth).

Cyfunodd Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng seremoni yn Llanelwedd gyda chynnal cam Ganolbarth Cymru o Ras Gyfnewid y Ffagl Tîm Cymru Taith tuag at Ragoriaeth. Mae’r ras yn dathlu Cymru yn cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol cystadleuaeth prentisiaeth WorldSkills UK am y tro cyntaf rhwng Tachwedd 25 a 28.

Llongyfarchodd Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian arobryn, y graddedigion, gan ddweud: “Nid ydych chi’n adeiladu eich gyrfaoedd yn unig, rydych chi’n llunio dyfodol Cymru.

“Mae’r sgiliau rydych wedi’u hennill yn offer. Y ffordd rydych yn eu defnyddio, eu haddasu, ac adeiladu gyda nhw yw eich pennod nesaf. Parhewch i ddysgu, parhewch i dyfu, a chofiwch: mae pob her yn gyfle i siapio’ch dyfodol.”

Datgelodd fod dros 500 o brentisiaid wedi cwblhau eu fframweithiau yn ystod y chwe mis diwethaf, gan eu disgrifio fel “straeon o dwf, gwydnwch, ac uchelgais”.

Roedd pum prentis sydd wedi cwblhau eu prentisiaethau fel rhan o raglen prentisiaethau a rennir â chymorth Hyfforddiant Cambrian yn bresennol yn y seremoni yn Llanelwedd i raddio. Roeddent yn Holly Curtis a gyflawnodd Sgiliau Glanhau a Gwasanaethau Cymorth lefel 2; Alaw Williams a gyflawnodd Diploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Lletygarwch; a Dion Dimitrakis, Matthew Ball, a Malachi De Jesus a gyflawnodd Diploma Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes.

Mae’r rhaglen prentisiaethau a rennir â chymorth yn fenter gydweithredol mewn partneriaeth ag Elite ac Agoriad. Mae’n rhoi profiad gwaith am dâl a’r cyfle i weithio tuag at gyflawni cymhwyster ffurfiol i unigolion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Cafodd Dion argraff dda iawn ar ei reolwr llinell, Rachel Edwards, am ei etheg gwaith ar y rhaglen.

“Mae Dion wedi dod yn rhan bwysig iawn o’r tîm yn Ysbyty Nevill Hall, y Fenni. Dros amser ar y rhaglen, rydym wedi gweld Dion yn tyfu yn ei hyder i ymgymryd â chyfrifoldebau newydd gan gynnwys bod yn fentor i’n interniaethau newydd,” meddai.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn un o brif ddarparwyr prentisiaethau ar gyfer Medr. Mae’r cwmni a’i bartneriaid yn darparu prentisiaethau ym meysydd lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd a diod, gweinyddu busnes, arwain a rheoli, gwasanaeth cwsmeriaid a sgiliau manwerthu, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egnïol.

Cyhoeddodd Faith O’Brien hefyd y bydd Gwobrau Prentisiaethau Cwmni Hyfforddiant Cambrian y flwyddyn nesaf ar agor yn fuan ar gyfer enwebiadau gan brentisiaid, cyflogwyr, hyfforddwyr, a thiwtoriaid.

“Mae’r gwobrau hyn yn ymwneud â dathlu rhagoriaeth, ac rydyn ni’n gwybod ei bod ym mhobman. Gadewch i ni sicrhau ei bod yn cael ei gweld,” meddai.

“Mae prentisiaethau yn agor drysau. Maent yn gynnig llwybrau i unigolion i’w gyrfa ddewisol ac yn helpu busnesau i adeiladu’r timau medrus sydd eu hangen arnynt. Maent yn ein hatgoffa ni nad yw dysgu yn digwydd mewn ystafelloedd dosbarth yn unig – mae’n digwydd mewn ceginau, gweithdai, salonau, ffermydd, a swyddfeydd.”

Mynegodd ei diolch i hyfforddwyr, mentoriaid, partneriaid isgontractwyr, cyflogwyr, a theuluoedd a ffrindiau’r cwmni am eu cyfraniadau allweddol tuag at lwyddiant y prentisiaid.