Darparwr hyfforddiant yn cynnal Ras Gyfnewid y Ffagl Sgiliau Tîm Cymru ar ddiwrnod raddio prentisiaid

Ras Gyfnewid y Ffagl WorldSkills UK gyda Faith a Mia

Ddoe (dydd Mawrth) cynhaliodd un o ddarparwyr hyfforddiant mwyaf blaenllaw yng Nghymru, Cwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC) cam o Ras Gyfnewid y Ffagl Sgiliau Tîm Cymru Llywodraeth Cymru.

Roedd y digwyddiad ar Faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd yn cyd-ddigwydd â seremoni i ddathlu graddio mwy na 100 o brentisiaid Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Mae Ras Gyfnewid y Ffagl Taith tuag at Ragoriaeth yn dathlu Cymru yn cynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK am y tro cyntaf rhwng 25ain a 28ain o Dachwedd.

Mae’r ras gyfnewid yn teithio o amgylch Cymru i ddathlu prentisiaid gorau Cymru, yn enwedig y rhai sy’n cystadlu yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK, cyflogwyr ac addysgwyr. Ar bob cam o’r ffordd, mae’r ffagl yn cael ei chroesawu gyda dathliad cymunedol.

Ymhlith yr uchafbwyntiau oedd Mia Haf Rees, Cogydd Commis yn y Grove, Arberth, a gwblhaodd ei Phrentisiaeth Coginio Broffesiynol Level 3 mewn 14 mis yn hytrach na’r 22 mis arferol.

Wedi’i dewis gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian fel Cludwr y Ffagl i gynrychioli prentisiaid lletygarwch ledled Cymru, dywedodd Mai: “Rwy’n dysgu orau trwy wneud. Mae fy mhrofiad prentisiaeth wedi rhoi’r hyder a’r sgiliau i mi dyfu yn fy swydd.”

Mae Mia yn gobeithio y bydd ei thaith yn ysbrydoli eraill i ystyried prentisiaethau.

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol Llywodraeth Cymru, Jack Sargeant, AS:

“Mae dathliad Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn enghraifft ddisglair o bŵer prentisiaethau i drawsnewid bywydau a chryfhau ein heconomi.

“Mae Ras Gyfnewid y Ffagl Tîm Cymru yn arddangos y gorau o dalent Cymru, ac rwy’n cael fy ysbrydoli’n arbennig gan brentisiaid fel Mia, y mae eu hymroddiad a’u rhagoriaeth yn adlewyrchu dyfodol ein gweithlu.

“Wrth i Gymru baratoi i gynnal Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK am y tro cyntaf, rydym yn dathlu nid yn unig ein cystadleuwyr, ond y cyflogwyr a’r addysgwyr sy’n eu helpu i ffynnu.”

Dywedodd Faith O’Brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, bod yn anrhydedd i’r cwmni cynnal Ffagl Tîm Cymru ar ddiwrnod mor bwysig i’r prentisiaid sy’n graddio.

“Mae’n bwysig iawn dathlu ein prentisiaid a thaflu goleuni ar y sgiliau maen nhw wedi’u datblygu wrth iddynt symud ymlaen yn eu gyrfaoedd,” ychwanegodd. “Roeddwn i’n arbennig o falch bod rhai o’n cyflogwyr, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi a meithrin eu prentisiaid, wedi gallu ymuno â ni i ddathlu eu cyflawniadau.

“Rwy’n gobeithio y bydd Cymru yn cynnal Rowndiau Terfynol WorldSkills UK am y tro cyntaf a Ras Gyfnewid y Ffagl Tîm Cymru yn helpu i godi ymwybyddiaeth o fanteision prentisiaethau ac addysg alwedigaethol, fel y gallwn gyflawni parch cydradd rhwng llwybrau addysg alwedigaethol ac academaidd.”

Anogodd ddysgwyr y cwmni i gymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2026, y mae cofrestru ar ei chyfer ar agor rhwng Tachwedd 24 a Rhagfyr 5.

Mae Rowndiau Terfynol WorldSkills UK yn dwyn ynghyd gannoedd o brentisiaid a dysgwyr talentog ar draws 45 o ddisgyblaethau – o beirianneg, digidol ac iechyd i letygarwch, adeiladwaith a’r diwydiannau creadigol.

Dilynwch daith y ffagl o amgylch Cymru trwy Tîm Cymru / Team Wales ar gyfryngau cymdeithasol. I gael rhagor o wybodaeth ar Gystadleuaeth Sgiliau Cymru a WorldSkills UK, ewch i https://inspiringskills.gov.wales/.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian a’i bartneriaid yn darparu prentisiaethau ar ran Llywodraeth Cymru ym meysydd lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd a diod, rheoli adnoddau cynaliadwy, gweinyddu busnes a rheoli, gwasanaeth cwsmeriaid a sgiliau manwerthu, iechyd, gofal cymdeithasol a blynyddoedd cynnar, gwaith barbwr a thrin gwallt, a hamdden egnïol.