Ap wedi’i lansio i hyrwyddo Cymraeg

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi lansio ap newydd ar ddydd Mawrth 23 o Fehefin, sef  Diwrnod Gwasanaethau Cyhoeddus y Cenhedloedd Unedig,  i gefnogi gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus ac argyfwng megis swyddogion yr heddlu, y gwasanaeth tân a pharafeddygon i gyfathrebu’n Gymraeg gyda’r cyhoedd.

Mae’r ap, Gwasanaethu drwy’r Gymraeg, yn cynnwys geirfa a brawddegau ar gyfer sefyllfaoedd cyffredinol a sefyllfaoedd penodol, sain ar gyfer pob un, y gallu i recordio ac ymarfer ynganu yn ogystal â chwisiau i brofi gwybodaeth.

Rwyf wedi lawrlwytho’r ap ac wedi gweld y manteision o wneud hynny ar gyfer ein dysgwyr sydd yn awyddus i ddysgu’r Gymraeg.

Gweler Lowri Morgans o’r Coleg Cymraeg yn trafod yr a par Prynhawn Da – https://www.facebook.com/265895480144299/posts/3086779268055892/

Mae’r Ap Gwasanaethu trwy’r Gymraeg ar gael am ddim drwy Apple App Store a Google Play Store

 

Ffynhonnell: https://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/amdanomni/newyddion/pennawd-11805-cy.aspx