Ddatblygwr Meddalwedd Raddedig

Posted 3 days ago

Mae CWMNI HYFFORDDIANT CAMBRIAN yn chwilio am Ddatblygwr Meddalwedd Raddedig i’w leoli yn ein prif swyddfa yn y Trallwng.

(Llawn Amser 37 awr yr wythnos)

Ystod Gyflog: £28,500.00 y flwyddyn – £30,000.00 y flwyddyn yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a chymwysterau

Ein Stori

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn Ddarparwr Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith blaenllaw sydd wedi darparu prentisiaethau o ansawdd uchel ledled Cymru ers dros 30 mlynedd. Rydym wedi dod yn Gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr yn ddiweddar, sy’n golygu bod gan y gweithwyr gyfran yn llwyddiant y busnes. Ein nod yw ymgysylltu â holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwr trwy ddatblygu sgiliau unigolion trwy ddysgu a ffynnu trwy hyfforddiant a datblygu. Rydym wedi ennill enw da ledled Cymru am ddarparu rhaglenni hyfforddiant a datblygu o ansawdd uchel.

YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO:

Rydym yn awyddus i recriwtio Datblygwr Meddalwedd Graddedig i’w leoli yn ein Prif Swyddfa yn y Trallwng i gefnogi gweithrediadau technoleg a gofynion data cytundebol. Byddwch yn helpu i yrru gwelliant parhaus ac ansawdd mewn gweithrediadau dyddiol a gweithio ar draws amrywiaeth o brosiectau datblygu mewnol mewn amgylchedd cydweithredol a chyflym. Bydd eich cyfraniadau yn helpu adeiladu cymwysiadau effeithlon a gweledol sy’n ddeniadol sy’n cefnogi gweithrediadau mewnol a phrofiad cwsmeriaid. Byddwch yn gyfrifol am gynhyrchu adroddiadau gwybodaeth busnes SSRS o’n data MIS.

Prif gyfrifoldebau:

  • Cyflawni gwaith datblygu i’r fanyleb a dyddiadau cau.
  • Cynorthwyo i ddatblygu cymwysiadau PHP/MySQL pwrpasol neu gymwysiadau tebyg.
  • Creu a chynnal adroddiadau SSRS.
  • Cynorthwyo gyda gwiriadau ansawdd data SQL wythnosol ac adolygu gwallau data gan sicrhau cywirdeb data yn ein system MIS.
  • Cefnogi a chynnal cymwysiadau gwe fewnol y cwmni.
  • Sicrhau bod arferion gorau yn cael eu defnyddio ar gyfer datblygu meddalwedd er mwyn creu cymwysiadau gwe ddibynadwy, ddiogel, effeithlon, sy’n gallu cael eu cynnal.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill a gofynnwyd amdanynt gan y Dadansoddwr Gwybodaeth Technoleg a Rheoli Gwybodaeth.
  • Cydweithio â rhanddeiliaid busnes i gasglu gofynion gweithredol a dyluniad systemau.

Cyffredinol:

  • Gweithio’n ddiogel, ystyried diogelwch eraill a gweithio o fewn y canllawiau a nodir ym Mholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
  • Sicrhau diogelwch holl asedau a data’r Cwmni.
  • Gweithio’n hyblyg i gymhwyso amrywiadau wrth brosesu data.
  • Cynrychioli Hyfforddiant Cambrian ar lefel leol a chenedlaethol i sicrhau hyder y cyhoedd/darparwyr a chynnal enw da a chydnabyddiaeth broffesiynol.
  • Cyflwyno gwybodaeth i gefnogi’r gwaith o baratoi adroddiadau a dogfennau briffio i’r bwrdd a chyrff llywodraethu eraill.
  • Cydymffurfio â pholisïau Diogelu’r Cwmni ar bob adeg.
  • Cydymffurfio â pholisïau a deddfwriaeth Cydraddoldeb y Cwmni.
  • Cefnogi gwerthoedd craidd y sefydliad.
  • Mynychu unrhyw hyfforddiant / rhaglenni datblygiad personol priodol.

Gwybodaeth, sgiliau a galluoedd:

Hanfodol:

  • Gradd mewn Cyfrifiadureg neu radd debyg.
  • Cymhwysedd gyda PHP, HTML, a CSS
  • Dealltwriaeth o gronfeydd MySQL neu MS SQL ac ymholiadau SQL
  • Sgiliau datrys problemau rhagorol gyda sylw i fanylion.
  • Parodrwydd i ddysgu teclynnau digidol newydd a datblygu sgiliau personol.

Delfrydol:

  • Profiad o ddosbarthu rhaglenni gwe gyda AWS
  • Profiad gyda rhyngwyneb llinell orchymyn terfynell Linux
  • Dealltwriaeth o API RESTful ac ôl-datblygu.
  • Hyfedredd mewn JavaScript a fframweithiau modern (React, Vue, neu fframweithiau tebyg).
  • Byddai trwydded yrru DU ddilys yn fanteisiol ond nid yn hanfodol.

Manteision Allweddol:

Cyflog hyd at £30,000.00 y flwyddyn yn dibynnu ar wybodaeth, sgiliau a chymwysterau

  • Hawliau gwyliau blynyddol hael o 25 diwrnod y flwyddyn yn y flwyddyn gyntaf o gyflogaeth, yn cynyddu i 28 diwrnod y flwyddyn ar ôl 12 mis o gyflogaeth, ynghyd â hawliau gwyliau banc ychwanegol.
  • Cynllun Tâl Salwch y Cwmni ar ddiwedd eich cyfnod prawf.
  • Cymorth lles ac iechyd meddwl.
  • Cyfleoedd DPP parhaus.
  • Cynllun pensiwn y cwmni.
  • Darperir gliniadur a gwisg staff.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, yn y lle cyntaf, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam rydych chi eisiau’r swydd a pham rydych chi’n teimlo y byddech chi’n ymgeisydd addas at:

Stephen Bound (Rheolwr Cyffredinol) i’r e-bost canlynol:

stephen@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555 893

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Iau 30ain Ebrill 2026.

Disgwylir i gynnal cyfweliadau ym mis Mai 2026.

Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i gau’r swydd ar unrhyw adeg os ydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau eich ystyriaeth ar gyfer y swydd.

 

Apply
stephen@cambriantraining.com