Prentis Gweinyddol

Gweinyddiaeth
Wrecsam
Posted 5 days ago

Prentis Gweinyddol gyda H-Pack yn Wrecsam

H-Pack Packaging UK Ltd, Ystâd Ddiwydiannol Llai, Wrecsam, LL12 0PG

Amdanom ni

Mae H-Pack Packaging UK Ltd yn gwmni deunyddiau pacio bwyd enwog a sefydlwyd yn 2016, sy’n gwasanaethu’r Deyrnas Unedig ac Ewrop. Fel rhan o Hotpack Packaging Industries, a deilliodd o Dubai ym 1995, rydym yn arbenigo mewn gweithgynhyrchu, dosbarthu, a marchnata deunyddiau pacio bwyd a chynhyrchion cysylltiedig. H-Pack yw’r gwneuthurwr mwyaf o ddeunyddiau pacio bwyd. Rydym yn arbenigo mewn pacio bwyd gan ddefnyddio deunyddiau crai ardystiedig, gan sicrhau ein bod yn cynhyrchu cynhyrchion o ansawdd uchel. Mae ein ffatrïoedd gweithgynhyrchu o’r radd flaenaf yn meddu ar y gallu i gynhyrchu niferoedd mawr o ddeunyddiau pacio bwyd, gan ddiwallu gofynion ein cwsmeriaid.

Y rôl

Rydym yn chwilio am unigolyn trefnus a frwdfrydig i ymuno â’n tîm fel Prentis Gweinyddol. Mae’r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i ennill profiad ymarferol mewn gweinyddu swyddfa wrth weithio tuag at gymhwyster cydnabyddedig.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Darparu cymorth gweinyddol cyffredinol i’r tîm.
  • Helpu i fewnbynnu data, ffeilio, a rheoli dogfennau.
  • Cefnogi eraill wrth greu amserlennu, rheoli calendrau, a pharatoi cyfarfodydd.
  • Helpu i baratoi adroddiadau a chyflwyniadau yn ôl yr angen.
  • Cyfathrebu â thimau mewnol a chysylltiadau allanol yn broffesiynol.
  • Cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant a chwblhau aseiniadau prentisiaeth.

Amdanoch chi

  • Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da.
  • Trefnus, dibynadwy, ac yn fanwl gywir.
  • Gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm.
  • Parodrwydd i ddysgu systemau a phrosesau newydd

Manteisiol (nid yn hanfodol):

  • Sgiliau TG sylfaenol, gan gynnwys MS Office (Word, Excel, Outlook).
  • Profiad swyddfa flaenorol neu fod yn gyfarwydd â thasgau gweinyddol.

Gwybodaeth ychwanegol

Yr hyn rydyn ni’n ei gynnig:

  • Rhaglen prentisiaeth strwythuredig gyda mentora a hyfforddiant.
  • Profiad ymarferol mewn amgylchedd swyddfa ddeinamig.
  • Cyfle i symud ymlaen i rôl weinyddol barhaol ar ôl cwblhau’r brentisiaeth.
  • Parcio ar y safle.
  • Diodydd am ddim pob sifft.

Cymwysterau gofynnol: Safon dda o addysg gyffredinol. Mae TGAU Mathemateg a Saesneg gradd C neu gyfwerth yn ddymunol.

Gofynion y Gymraeg: Dim

Cwrs Prentisiaeth: Prentisiaeth Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes

Cyflog: Cyfraddau Prentisiaethau

Oriau: 09:00 – 17:30, 40 awr yr wythnos

Trefniadau cyfweliad: Cyfweliad wyneb yn wyneb yn H-Pack

Gwnewch gais: Anfonwch e-bost eglurhaol a’ch CV at hr@h-packglobal.com

Job CategoryH-Pack Packaging UK Ltd