Gweinyddwr Busnes dros dro

Gweinyddiaeth
Welshpool
Posted 2 days ago

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn chwilio am Weinyddwr Busnes proffesiynol i’w leoli yn ein prif swyddfa yn y Trallwng

Mae’r rôl hwn yn dros dro i gwmpasu absenoldeb mamolaeth am gyfnod tymor penodol o 12 mis

(Llawn Amser 37 awr yr wythnos, er y byddai oriau rhan amser yn cael eu hystyried)

Ystod Gyflog: £24,242.40 y flwyddyn

Ein Stori

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn Ddarparwr Prentisiaethau Dysgu Seiliedig ar Waith blaenllaw sydd wedi darparu prentisiaethau o ansawdd uchel ledled Cymru ers dros 30 mlynedd. Rydym wedi dod yn Gwmni sy’n eiddo i’r gweithwyr yn ddiweddar, sy’n golygu bod gan y gweithwyr gyfran yn llwyddiant y busnes. Ein nod yw ymgysylltu â holl bobl ifanc, dysgwyr a chyflogwr trwy ddatblygu sgiliau unigolion trwy ddysgu a ffynnu trwy hyfforddiant a datblygu. Rydym wedi ennill enw da ledled Cymru am ddarparu rhaglenni hyfforddiant a datblygu o ansawdd uchel.

YR HYN RYDYM YN CHWILIO AMDANO:

Rydym yn chwilio am Weinyddwr Busnes medrus i ddarparu safon uchel o sicrwydd a chymorth gweinyddol i alluogi prosesu cymwysterau. Bod yn gyfrifol am weinyddu cymwysterau dysgwyr gan gynnwys y broses gofrestru, gwneud cais am gymwysterau procsi blaenorol, dilysu, ac ardystio.

Cyfrifoldebau:

  • Yn gyfrifol am sicrhau cofrestru dysgwyr mewnol a dysgwyr ein hisgontractwyr yn amserol, ar y cyd â’r Cyfarwyddwr Ansawdd a Thimau Gweithredol.
  • Yn gyfrifol am dracio a chofnodi mewnol y broses dilysu ar gyfer cymwysterau dysgwyr.
  • Yn gyfrifol am dderbyn a gwneud cais am gymwysterau dysgwyr.
  • Yn gyfrifol am sicrhau a phrosesu’r holl gymwysterau ar draws y contract gan gynnwys unrhyw atebion digidol a weithredir.
  • Sicrhau hawlio cymwysterau a fframweithiau perthnasol yn amserol ac yn gywir, gan sicrhau cydweithrediad effeithiol â chyrff dyfarnu.
  • Nodi a datrys unrhyw anghysondebau data a gwaith papur gyda’r unigolyn priodol.
  • Cydlynu a chysylltu â’r unigolion perthnasol a chynnal perthnasoedd gweithio cadarnhaol â’r unedau darparu gweithredol.
  • Gweithio â’r unedau darparu gweithredol i gynnal a gwella ansawdd a chydymffurfiaeth gwaith papur yn barhaus.
  • Cydweithio â’r unedau darparu gweithredol i ddosbarthu tystysgrifau a chydlynu postio yn ôl yr angen.
  • Gweithio â’r unedau darparu gweithredol.
  • Cynorthwyo’r datblygiad o aelodau staff newydd i gefnogi’r adran weinyddol yn ôl yr angen.
  • Cwblhau dyletswyddau gweinyddu cyffredinol i gefnogi’r adran gweinyddu yn ôl yr angen.
  • Unrhyw ddyletswyddau eraill y gofynnir amdanynt gan y PUB – Cydymffurfiaeth Data a Llywodraethu

Dyletswyddau Cyffredinol:

  • Gweithio’n ddiogel, ystyried diogelwch eraill a gweithio o fewn y canllawiau a nodir ym Mholisi Iechyd a Diogelwch y Cwmni.
  • Sicrhau diogelwch holl asedau a data’r Cwmni.
  • Gweithio’n hyblyg i gymhwyso ar gyfer amrywiadau wrth brosesu data.
  • Datrys problemau arferol sy’n codi, gan geisio cefnogaeth ac arweiniad gan y rheolwr llinell yn ôl yr angen a dangos ymateb cadarnhaol at ddatrys problemau.
  • Sicrhau bod yr holl systemau prosesu a gweinyddu data yn cael eu cynnal yn unol â pholisïau a gweithdrefnau ISMS y Cwmni.
  • Cydymffurfio â pholisïau Diogelu’r Cwmni ar bob adeg.
  • Cydymffurfio â pholisïau a deddfwriaeth Cydraddoldeb y Cwmni.
  • Cefnogi gwerthoedd craidd y sefydliad.
  • Mynychu unrhyw hyfforddiant / rhaglenni datblygiad personol priodol.

Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i amrywio neu ddiwygio dyletswyddau a chyfrifoldebau deiliad y swydd ar unrhyw adeg yn ôl anghenion busnes y Cwmni.

Gwybodaeth, sgiliau a galluoedd:

  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig a llafar rhagorol gan gynnwys y gallu i gyfathrebu’n effeithiol dros y ffôn.
  • Datblygiad ac asesiad parhaus yn erbyn y safonau proffesiynol.
  • Y gallu i weithio’n annibynnol a hefyd yn effeithiol gydag eraill fel aelod tîm cymwys.
  • Sgiliau llythrennedd digidol rhagorol.
  • Sylw rhagorol i fanylion.
  • Y gallu i fodloni dyddiadau cau tynn.
  • Sgiliau trefnu cryf.
  • Hyblygrwydd, cyfrinachedd a thact.
  • Sgiliau gwrando da yn hanfodol.

 

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, yn y lle cyntaf, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu pam rydych eisiau’r swydd a pham rydych yn teimlo eich bod yn ymgeisydd addas i:

Stephen Bound (Rheolwr Cyffredinol) i’r e-bost canlynol:

stephen@cambriantraining.com Ffôn: 01938 555 893

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gyflogwr cyfle cyfartal a hyderus o ran anabledd.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Gwener 16eg o Ionawr 2025.

Mae’r cwmni’n cadw’r hawl i gau’r swydd ar unrhyw adeg os ydym yn derbyn nifer fawr o geisiadau addas. Felly, rydym yn annog ceisiadau cynnar i sicrhau eich ystyriaeth ar gyfer y swydd.

Job CategoryHyfforddiant Cambrian -ymunwch â'n tîm!
email address
stephen@cambriantraining.com