Category: Archif 2015

Dylan Gillespie o Clougher enillodd rhagbrawf Gogledd Iwerddon o Gystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth yr wythnos diwethaf. Cafodd Dylan, 19 oed, ac sy’n gweithio i Clougher Valley Meats, Clougher, Tyrone, y gorau ar ei bedwar cystadleuydd yn y rhagbrawf a brofodd yn ornest agos ac a gynhaliwyd gan Southern Regional College, Newry ar ddydd Iau, 18 Mehefin.… Read more »

Mae prosiect yng Ngogledd Cymru sy’n helpu cael cyn-droseddwyr i waith wedi ennill gwobr ddysgu fawr. Cipiodd menter Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru 8 Ffordd o Newid Eich Bywyd (8 Ways to Change Your Life) y wobr prosiect yng Ngwobrau Ysbrydoli! fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion 2015. Trwy’r prosiect, cynigir profiad… Read more »

Mae wedi bod yn flwyddyn gofiadwy i’r cigydd ifanc o Gymru, Matthew Edwards, ers iddo gyrraedd rownd derfynol y Gwobrau Cymwysterau Galwedigaethol (VQ) yng Nghymru yn 2014. Mae Matthew, 23 oed, sy’n gweithio i S. A. Vaughan Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn cystadleuaeth sgiliau Ewropeaidd yn y Swistir ac wedi’i… Read more »

Ar ddydd Sul, enillwyd rhagbrawf Cymru Cystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth gan y cigydd, Matthew Edwards, o Ogledd Cymru. Roedd Matthew, 23 oed, o Vaughan’s Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, ben ac ysgwyddau uwchlaw’r tri chystadleuydd yn yr ornest agos a gynhaliwyd gan Randall Parker Foods yn Nolwen, Llanidloes ar ddydd Sul. Rhaid iddo… Read more »

Bydd chwe chigydd o Gymru’n anelu at arddangos eu bod nhw ben ag ysgwyddau uwchlaw’r gweddill pan fyddant yn cystadlu yn rhagbrawf Cymru Cystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK mewn Cigyddiaeth y penwythnos nesaf. Mae’r darparwr hyfforddiant arobryn o’r Trallwng, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a benodwyd i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran WorldSkills UK, wrth ei fodd â… Read more »

Mae Jo Trow yn farforwyn yn y Buck Inn yn y Drenewydd ym Mhowys, tafarn tenantiaeth Marston sydd yn nwylo ei chwaer Emma Rees. Mae Jo wedi bod yn gweithio’n rhan-amser mewn tafarndai ers iddi fod yn 14 oed, gan gasglu gwydrau, gweini bwyd a gweithio y tu ôl i’r bar. Ar ôl dechrau ei… Read more »

Mae Blas ar Gymru wedi penodi llywydd ac ysgrifennydd newydd i symud y sefydliad aelodaeth yn ei flaen. Mae Arwyn Watkins, rheolwr gyfarwyddwr a chadeirydd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn y Trallwng, yn cymryd drosodd fel llywydd gan olynu Colin Gray, rheolwr gyfarwyddwr Capital Cuisine, Bedwas, a fu yn y swydd am ddwy flynedd ac sydd… Read more »

Enwyd Parc Antur a Sw Fferm Ffoli yng Nghilgeti fel y Diwrnod Allan Gorau yng Nghymru 2015 yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Cymru. Roedd hi’n noson lwyddiannus hefyd i fusnesau eraill Gorllewin Cymru gyda Clydey Cottages ym Moncath yn cael ei enwi fel y Lle Gorau i Aros yn y categori hunanarlwyo a The Grove yn… Read more »

Mae’r cyflwynydd teledu a’r ffermwr o Suffolk, Jimmy Doherty o’r ‘Jimmy’s Farm’ enwog, wrth ei fodd y bydd cigyddion dawnus yn cael cyfle i gystadlu yn WorldSkills UK am y tro cyntaf eleni. Mae Doherty yn annog cigyddion i beidio â cholli’r dyddiad cau ar 20 Mawrth i gofrestru ar-lein er mwyn arddangos eu sgiliau… Read more »

Dychwelodd Matthew Edwards, Prentis Sylfaen y Flwyddyn 2014, i’w wreiddiau’r wythnos hon i ysbrydoli myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun yn Wrecsam. Mae Matthew yn rhan o dîm ‘Llysgenhadon Prentisiaeth’ sy’n gweithio gydag Adran Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i deithio’r wlad i annog pobl ifanc i ddilyn y llwybr prentisiaeth a chymryd un o’r… Read more »