Dylan ben ac ysgwyddau uwchlaw’r gweddill yn rhagbrawf cystadleuaeth cigyddiaeth Worldskills UK yn Iwerddon

Dylan Gillespie o Clougher enillodd rhagbrawf Gogledd Iwerddon o Gystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth yr wythnos diwethaf.

Cafodd Dylan, 19 oed, ac sy’n gweithio i Clougher Valley Meats, Clougher, Tyrone, y gorau ar ei bedwar cystadleuydd yn y rhagbrawf a brofodd yn ornest agos ac a gynhaliwyd gan Southern Regional College, Newry ar ddydd Iau, 18 Mehefin.

Rhaid iddo ef a chigyddion eraill Iwerddon a Chymru aros yn nerfus nawr tan fis Awst, yn dilyn rhagbrawf Lloegr yng Ngholeg Dinas Leeds ar 9 Gorffennaf i ddarganfod ydyn nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Bydd y chwe chigydd uchaf eu sgôr o ragbrofion cyfunol Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr yn cymhwyso am y rownd derfynol yn y Sioe Sgiliau, a gynhelir yn yr NEC Birmingham o 19 i 21 Tachwedd. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

“Roeddwn yn falch o ennill y rhagbrawf oherwydd dyma oedd fy nghystadleuaeth gyntaf,” meddai Dylan, cyn brentis cigyddiaeth a ddechreuodd yn y diwydiant dair blynedd yn ôl. “Roeddwn i wedi bod yn ymarfer ers ambell i fis ac aeth popeth yn iawn yn y rhagbrawf oherwydd roeddwn yn gwybod beth roeddwn yn ei wneud.

“Hoffwn fynd drwodd i’r rownd derfynol oherwydd mwynheais y gystadleuaeth, ond bydd rhaid i mi aros tan ar ôl rhagbrawf Lloegr i weld ai fi yw un o’r chwe chigyddion uchaf eu sgr. Byddai’n braf mynd trwyddo ac ennill y rownd derfynol, ond allwch chi ddim meddwl ymlaen gormod.”

Dywedodd Dylan, sy’n dod o deulu sy’n ffermio yn Ballygawley, iddo fwynhau gwylio cigyddion wrth eu gwaith, a’i hanogodd i chwilio am yrfa yn y diwydiant.

Dywedodd enillydd yr ail safle, sef Diane Watt, 18 oed, o Downeys Butcher, Newry, a’r unig ferch yn y gystadleuaeth: “Rwy’n credu ei bod hi’n wych i mi allu cynrychioli merched a dangos y gallwn ni fod yn gigyddion” meddai.

“Rwy’n byw ar y fferm deuluol a dyna a wthiodd fi tuag at fynd yn gigydd. Pan fydd anifail yn gadael ein fferm, rydw i bellach yn gwybod y broses gyfan o ran beth sy’n digwydd iddo. Rydw i wir yn mwynhau bod yn gigydd ac yn teimlo bod y gwaith yn ddiddorol iawn.”

Dywedodd iddi baratoi am ryw bum mis am y gystadleuaeth ac, er nad aeth rhai pethau’n unol â’r cynllun, roedd hi’n hapus â’r canlyniad. “Dyma oedd fy nghystadleuaeth gyntaf a buodd yn brofiad gwirioneddol dda,” ychwanegodd.

Mae hithau a’r tri chigydd arall yn y rhagbrawf – James Gracey, 20 oed, o Dromore, Caoimhin Leonard, 18 oed, o Lurgan ac Adam Spence, 18 oed, o Lisburn – yn fyfyrwyr yn y Southern Regional College, Newry.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd ymgynghorydd y diwydiant cig, Viv Harvey a phennaeth y cwricwlwm ar gyfer cynhyrchu bwyd o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Chris Jones.

Llongyfarchodd Mr Jones pob un o’r pump ifanc yn y rownd derfynol am safon uchel eu gwaith. “Roedd y safon yn wirioneddol dda o ystyried pa mor ifanc ydyn nhw ac roedd ganddyn nhw rai syniadau da iawn,” meddai. “Dyma oedd y gystadleuaeth gyntaf i bob cigydd a byddant wedi dysgu llawer i adeiladu arno ar gyfer y flwyddyn nesaf.”

Penodwyd y darparwr hyfforddiant arobryn o’r Trallwng, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran Worldskills UK. Noddwyd y rhagbrofion gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig a PBEX.

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills UK i wella rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant a gwella a chymell sgiliau yn y diwydiant. Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael ei chynnwys yn y cystadlaethau eleni.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dwyn ynghyd y prif chwaraewyr yn y diwydiant cig er mwyn ffurfio gr?p llywio i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth newydd.

Mae’r partneriaid yn cynnwys Pearsons, Scottish Federation of Meat Traders, Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig, Eblex, Dunbia Ltd, Bwydydd Castell Howell, Coleg Dinas Leeds, Improve – The National Skills Academy for Food & Drink, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, Randall Parker Foods a Mr Harvey.

Ar ôl mynd â phrentisiaid cigyddiaeth i arddangos eu sgiliau yn y Sioe Sgiliau bob blwyddyn er 2011, roedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i ychwanegu’r alwedigaeth at y gystadleuaeth sgiliau er mwyn codi proffil cigyddion medrus ar draws y Deyrnas Unedig.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar y Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818