Chwe chigydd yn cyrraedd y safon ar gyfer rhagbrawf Cymru cystadleuaeth gigyddiaeth gyntaf Worldskills UK

Bydd chwe chigydd o Gymru’n anelu at arddangos eu bod nhw ben ag ysgwyddau uwchlaw’r gweddill pan fyddant yn cystadlu yn rhagbrawf Cymru Cystadleuaeth Genedlaethol WorldSkills UK mewn Cigyddiaeth y penwythnos nesaf.

Mae’r darparwr hyfforddiant arobryn o’r Trallwng, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, a benodwyd i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran WorldSkills UK, wrth ei fodd â nifer ac ansawdd y ceisiadau gan gigyddion ar hyd a lled Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Mae tri rhagbrawf rhanbarthol wedi’u trefnu, gan ddechrau gyda rhagbrawf Cymru yn Randall Parker Foods, Dolwen, Llanidloes ar ddydd Sul, 17 Mai. Bydd rhagbrawf Gogledd Iwerddon yn cael ei gynnal yn y Southern Regional College, Newry ar 18 Mehefin a rhagbrawf Lloegr yng Ngholeg Dinas Leeds ar 9 Gorffennaf.

Noddir y rhagbrawf hwn gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig, PBEX a Randall Parker Foods.

Bydd y chwe chigydd uchaf eu sgôr o’r tri rhagbrawf cyfunol yn cymhwyso am y rownd derfynol yn y Sioe Sgiliau, a gynhelir yn yr NEC Birmingham o 19 i 21 Tachwedd. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills UK i wella rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant a gwella a chymell sgiliau yn y diwydiant. Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael ei chynnwys yn y cystadlaethau eleni.

Dyma’r cystadleuwyr ar gyfer rhagbrawf Cymru: Tomi Jones, 24 oed, o Jones Brothers, Wrecsam, Daniel John Allen-Raftery, 31 oed, o Randall Parker, Llanidloes, Matthew Edwards, 23 oed, o Vaughan’s Family Butchers, Penyffordd, Peter Rushforth, 19 oed, o Swans Farm Shop, Yr Wyddgrug, Dafydd Jenkins, 21 oed, o Cigyddion Ken Davies, Crymych a Clinton Roberts, 58 oed, o Ponty Butchers, Pontardawe.

Mae’n addo bod yn ornest agos gan mai Rushforth yw cyn bencampwr Cystadleuaeth Cigydd Ifanc Cymru, teitl y mae Jones ac Edwards wedi’i ennill yn y gorffennol. Llynedd, cynrychiolodd Edwards Brydain Fawr mewn cystadleuaeth cigyddiaeth Ewropeaidd a bydd Rushforth yn dilyn ôl ei draed yn nes ymlaen eleni.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dwyn ynghyd y prif chwaraewyr yn y diwydiant cig er mwyn ffurfio gr?p llywio i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth newydd.

Mae’r partneriaid yn cynnwys Pearsons, Scottish Federation of Meat Traders, Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig, Eblex, Dunbia Ltd, Bwydydd Castell Howell, Coleg Dinas Leeds, Improve – The National Skills Academy for Food & Drink, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, Randall Parker Foods ac ymgynghorydd y diwydiant cig, Viv Harvey.

Ar ôl mynd â phrentisiaid cigyddiaeth i ddangos eu sgiliau yn y Sioe Sgiliau bob blwyddyn er 2011, roedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i ychwanegu’r alwedigaeth at y gystadleuaeth sgiliau er mwyn codi proffil cigyddion medrus ar draws y DU.

“Rydym wrth ein boddau fod cynifer o gigyddion dawnus ar hyd a lled y Deyrnas Unedig wedi rhoi cynnig ar y gystadleuaeth newydd hon, a fydd yn arddangos cyfoeth y sgiliau cigyddiaeth rydym yn meddu arnynt ar yr ynysoedd hyn,” meddai Chris Jones, pennaeth cwricwlwm cynhyrchu bwyd Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Mae’n gam enfawr ymlaen i gigyddiaeth gael ei chynrychioli fel sgil yn WorldSkills UK, oherwydd credwn fod angen meincnodi’r grefft a’i hyrwyddo. Mae ei chynnwys am y tro cyntaf yn arf wych i godi safonau a phroffil y diwydiant ymhellach.”

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818