Category: Archif 2015

Llwyddodd CHRIS RILEY a PETER RUSHFORTH, oedd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig (DU) yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol, i godi eu gêm a’u henw da yn erbyn cystadleuaeth gryfach nag erioed yn Utrecht, Yr Iseldiroedd yn gynharach yr wythnos hon. Profodd y digwyddiad chwe chategori, deuddydd o hyd a gynhaliwyd ar y cyd â Slavakto… Read more »

Mae agwedd unigryw tuag at gyflogaeth a hyfforddiant gan gwmni llwyddiannus, sy’n rhedeg safle gwastraff ac ailgylchu llwyddiannus yng Ngogledd Cymru, wedi cael ei disgrifio gan ddarparwr hyfforddiant fel un “ysbrydoledig”. Bellach, gallai Thorncliffe Abergele, cwmni teulu a sefydlwyd yn Abergele ym 1987, ennill gwobr flaenllaw yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015. Mae’r cwmni yn un… Read more »

Mae prentisiaethau yng Nghymru’n cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn at economi’r wlad ac mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru ynddynt yn talu ar ei ganfed, yn ôl adroddiad newydd pwysig. Mae Prentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) yn cynhyrchu tua £510 miliwn y flwyddyn ac mae Prentisiaethau (Lefel 3) yn cyfrannu £500 miliwn at economi Cymru yn ôl… Read more »

Mae gan ladd-dy yng Nghanolbarth Cymru, sy’n defnyddio Prentisiaethau i ddatblygu a gwella gweithlu hyderus, medrus ac ymroddedig, gyfle i ennill gwobr flaenllaw yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015. Mae Randall Parker Foods, Dolwen, Llanidloes, yn un o’r ymgeiswyr ar y rhestr fer yng nghategori Cyflogwr Canolig ei Faint y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo proffil… Read more »

Mae gan ddyn sydd wedi croesawu ail gyfle i drawsnewid ei fywyd a gosod sylfeini gyrfa i gefnogi ei deulu, gyfle i ennill gwobr flaenllaw yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015. Mae Sean Williams yn 27 oed, yn byw yn Llanelwy, ac yn un o dri sydd wedi eu rhoi ar restr fer yng nghategori Prentis… Read more »

Dewiswyd CHRIS RILEY a PETER RUSHFORTH i gynrychioli’r Deyrnas Unedig (DU) yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol (CCIRh) a gynhelir yn yr Iseldiroedd yn nes ymlaen y mis hwn. Mae’r Rheolwr Cynorthwyol, Chris, dau ddeg dau oed sy’n gweithio i WALTER SMITH yng Nghanolfan Wyevale yn Huntingdon, Swydd Gaergrawnt a Peter, ugain oed o SWANS… Read more »

Bydd cigyddion dawnus o Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn ceisio cael y gorau ar eu gelynion yn rownd derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth ym mis Tachwedd. Cyhoeddir chwe chigydd uchaf eu sgôr o’r rowndiau rhagbrofol cyfunol yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr heddiw a nhw nawr fydd yn profi eu sgiliau yn… Read more »

Bydd cyfle i edmygu rhagoriaeth dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu ym maes datblygu sgiliau wrth i 37 o unigolion a sefydliadau gystadlu am wobrau mewn dwsin o ddosbarthiadau yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni. Mae’r 37 wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn gornest a ddenodd fwy o gystadleuwyr nag erioed. Bydd y dysgwyr, y cyflogwyr a’r… Read more »

Cigyddion canolbarth Lloegr yn fuddugoliaethus yn rhagbrawf Lloegr cystadleuaeth WorldSkills UK. Mae cigyddion o Lwydlo a Willenhall yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yn gobeithio cipio lle yn rownd derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth ym mis Tachwedd ar ôl ennill y rhagbrofion rhanbarthol ar gyfer Lloegr. Enillodd John Brereton, 40 oed, rheolwr cigyddiaeth yn y… Read more »

Lucy Crawshaw o Taylor’s Farm Shop yn Lathom, Sir Gaerhirfryn yw Cigydd Ifanc gorau Prydain, gan ennill y teitl PRIF GIGYDD IFANC 2015 ar ôl curo chwe chigydd prentis arall yn rowndiau terfynol CYSTADLEUAETH Y PRIF GIGYDD IFANC a drefnwyd gan y Ffederasiwn Cenedlaethol Masnachwyr Cig a Bwyd yn arddangosfa MEATUP yn y Ganolfan Arddangos… Read more »