Prentisiaethau’n cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn i economi Cymru

Mae prentisiaethau yng Nghymru’n cyfrannu dros £1 biliwn y flwyddyn at economi’r wlad ac mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru ynddynt yn talu ar ei ganfed, yn ôl adroddiad newydd pwysig.

Mae Prentisiaethau Sylfaen (Lefel 2) yn cynhyrchu tua £510 miliwn y flwyddyn ac mae Prentisiaethau (Lefel 3) yn cyfrannu £500 miliwn at economi Cymru yn ôl ‘Gwerth Prentisiaethau i Gymru’, adroddiad a gomisiynwyd gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW).

Mae tystiolaeth newydd gan Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu y gallai pob punt o arian cyhoeddus sy’n cael ei buddsoddi mewn Prentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth esgor ar hyd at £26 a £28 yn y drefn honno.

Cymherir enillion ar fuddsoddiad rhwng Prentisiaethau a chyrsiau Addysg Uwch hefyd. Mae ymchwil arall, sy’n defnyddio methodoleg wahanol, yn dangos enillion o £74 am bob punt a fuddsoddir mewn Prentisiaeth o’i gymharu â £57 am radd arferol. Yr unig raddau i esgor ar enillion gwell na Phrentisiaeth yw meddygaeth a pheirianneg.

Mae’r adroddiad yn dangos bod cost arferol gradd gyntaf yn £27,000, o leiaf, o’i gymharu â rhwng £4,000 ac £16,000 ar gyfer Prentisiaeth.

Mae cyfradd lwyddo gyffredinol Prentisiaethau yng Nghymru yn 84 y cant o’i gymharu â 68.9 y cant yn Lloegr.

O ystyried enillion oes, cyfrifir bod Prentisiaeth Sylfaen yn werth rhwng £48,000 a £74,000 i unigolion, a bod y sawl sy’n dilyn Prentisiaeth ar eu hennill o rhwng £77,000 a £117,000.

Mae’r adroddiad, a fydd yn cael ei lansio mewn derbyniad arbennig yn y Senedd yng Nghaerdydd heno (nos Fercher, Medi 16), wedi cael ei lunio gan Ymchwil Arad mewn partneriaeth â chwmni ymgynghori Deryn.

Gofynnodd yr NTfW, sy’n cynrychioli darparwyr hyfforddiant seiliedig ar waith sy’n darparu Prentisiaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru, i’r ymchwilwyr wneud dadansoddiad cynhwysfawr, am y tro cyntaf, o werth Prentisiaethau i economi, busnesau ac unigolion Cymru.

Bydd Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru, Aelodau Cynulliad, darparwyr hyfforddiant, busnesau a phrentisiaid o Gymru yn bresennol yn y derbyniad yn y Senedd er mwyn cael gwybod am ganlyniadau’r ymchwil.

Mae’r adroddiad yn cymeradwyo buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn Prentisiaethau ac yn dweud bod hon yn un o’u rhaglenni mwyaf blaenllaw.

Roedd 51,550 o brentisiaid yng Nghymru yn 2013-14, gyda 25,335 ohonynt yn dilyn Prentisiaeth Sylfaen, 20,860 yn dilyn Prentisiaeth a 5,355 yn dilyn Prentisiaeth Uwch. Roedd 29,710 o brentisiaid benywaidd a 21,840 o rai gwrywaidd, sydd wedi bod yn duedd cyson dros y degawd diwethaf.

Mae darganfyddiadau allweddol eraill yn cynnwys:

  • Mae unigolion sydd â Phrentisiaeth yn ennill £392 yr wythnos ar gyfartaledd, o’i gymharu â £319 yr wythnos i rai sydd â chymwysterau Fframwaith Cymwysterau Cenedlaethol Lefel 3.
  • Mae Prentisiaeth yn cynyddu cynhyrchiant prentis arferol £214 yr wythnos, gan godi i £414 yr wythnos yn y sector peirianneg a gweithgynhyrchu.
  • Dywedodd 86% o brentisiaid fod eu Prentisiaeth wedi gwella’u hunan-hyder a dywedodd 70% ei bod yn berthnasol iawn i’w gobeithion gyrfa tymor hir.
  • Yn 2014, roedd 15% o gyflogwyr yng Nghymru’n cynnig prentisiaethau ffurfiol a 21% arall yn dweud eu bod yn bwriadu eu cynnig yn y dyfodol.
  • Ar gyfartaledd, mae’r fantais net i gyflogwyr sy’n cyflogi prentis yn y Deyrnas Unedig yn £1,670, gan godi i £10,961 ar gyfer Arweinwyr Tîm a Rheolwyr.
  • Mae Prentisiaethau’n diwallu amrywiaeth eang o anghenion cyflogwyr ym meysydd sgiliau a busnes.
  • Mae Prentisiaethau’n codi hunan-hyder prentisiaid, yn gwella eu sgiliau ac yn eu gwneud yn fwy cyflogadwy.
  • Y sector Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd â’r nifer uchaf o raglenni Prentisiaeth yng Nghymru yn 2013-14.
  • Mae’r ymchwil yn pwysleisio pwysigrwydd Prentisiaethau yn y sector cynhyrchu a phrosesu bwyd a diod yng Nghymru lle nad oes gan un rhan o bump o’r gweithlu gymwysterau o gwbl ac nad yw bron i hanner y cyflogwyr yn darparu hyfforddiant.

Meddai Peter Rees, cadeirydd NTfW: “Rydyn ni’n credu bod yr adroddiad hwn yn gyfraniad pwysig i’r trafodaethau cyfredol yngl?n â chefnogi twf economaidd, gwella sgiliau gweithlu Cymru, blaenoriaethau buddsoddi cyhoeddus a sicrhau bod pob person ifanc yn cyrraedd ei lawn botensial.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â’r holl randdeiliaid i sicrhau bod gan Gymru weledigaeth gadarn a strategol ar gyfer Prentisiaethau yn y dyfodol, gan adeiladu ar lwyddiant y gorffennol. Rhaid inni sicrhau bod rhagor o bobl ifanc a chyflogwyr yn fwy ymwybodol o Brentisiaethau, ac yn gallu cael mynediad atynt, wrth i ni yng Nghymru barhau i ddarparu ein rhaglen Brentisiaethau sydd gyda’r gorau yn y byd.

“Mae’r NTfW yn credu’n gryf bod Prentisiaethau wedi bod yn cael eu gweld yn israddol i’r llwybr academaidd traddodiadol am lawer gormod o amser, ac mae’r dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn mynd i’r afael â pheth o’r wybodaeth anghywir a’r camdybiaethau sy’n bodoli.

“Mae angen gwneud rhagor i bwysleisio fod Prentisiaethau yr un mor addas i’r bobl fwyaf abl a dawnus ac i dynnu sylw at y ffaith fod posib ennill cymwysterau addysg uwch drwy ddilyn llwybr Prentisiaeth.

“Mae’r adroddiad hwn, ac adroddiadau eraill a seiliwyd ar dystiolaeth o Loegr, yn awgrymu bod dilyn llwybr Prentisiaeth i addysg uwch yn rhoi gwell ad-daliad i’r Llywodraeth, cyflogwyr a dysgwyr am eu buddsoddiad.

“Rydyn ni’n credu bod y dystiolaeth a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cymeradwyo’r ymrwymiad parhaus i Brentisiaethau yng Nghymru. Ar adeg o bwysau ar arian cyhoeddus, rydyn ni’n deall ei bod yn rhaid i’r llywodraeth wynebu penderfyniadau cyllidebol anodd, ac mae’r wybodaeth yn pwyleisio nid yn unig y buddiannau i unigolion, cyflogwyr, yr economi a’r gymdeithas ond hefyd yn cymeradwyo’r penderfyniadau hanesyddol i flaenoriaethu gwario yn y maes hwn.

“Edrychwn ymlaen at weld yr adroddiad hwn yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru fel rhan o drafodaethau cyllidebol yn y dyfodol. Mae’n glir hefyd fod buddsoddi mewn Prentisiaethau yn sicrhau y gweithredir ar flaenoriaethau a thargedau allweddol eraill y llywodraeth, fel llenwi’r bwlch sgiliau a mynd i’r afael â’r nifer o bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.”