Cigyddion canolbarth Lloegr yn fuddugol yn rhagbrawf Lloegr cystadleuaeth WorldSkills UK

Cigyddion canolbarth Lloegr yn fuddugoliaethus yn rhagbrawf Lloegr cystadleuaeth WorldSkills UK.

Mae cigyddion o Lwydlo a Willenhall yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr yn gobeithio cipio lle yn rownd derfynol Cystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth ym mis Tachwedd ar ôl ennill y rhagbrofion rhanbarthol ar gyfer Lloegr.

Enillodd John Brereton, 40 oed, rheolwr cigyddiaeth yn y Ludlow Food Centre arobryn yn Llwydlo rhagbrawf y prynhawn tra bu Matthew Parkes, 21 oed, rheolwr cynorthwyol yn Walter Smith Fine Foods yn Willenhall yn fuddugol yn rhagbrawf y bore.

Cynhaliwyd rhagbrawf Lloegr gan Goleg Dinas Leeds a chanmolodd y beirniaid y safonau uchel iawn a gyflawnwyd gan y naw cigydd. Nesaf at y brig yn y rhagbrofion oedd Nathan Moore, 21 oed, a George Scott, 19 oed, y ddau’n cael eu cyflogi gan Walter Smith Fine Foods.

Rhaid i’r cigyddion nawr aros yn bryderus tan fis nesaf i ddarganfod a ydyn nhw ymhlith y chwe chigydd uchaf eu sgôr o ragbrofion cyfunol Cymru, Gogledd Iwerddon a Lloegr i gymhwyso am y rownd derfynol a gynhelir yn y Sioe Sgiliau a fydd yn cael ei chynnal yn yr NEC Birmingham o 19 i 21 Tachwedd. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

Dywedodd John, sy’n arwain tîm o brentisiaid yn y Ludlow Food Centre: “Roedd hi’n ornest eithaf anodd ac roedd llawer o dalent i’w weld. Er fy mod i’n falch â’m gwaith fy hun, roedd fy nghalon yn carlamu tan iddynt gyhoeddi canlyniad y rhagbrawf ac roeddwn i ar ben fy nigon pan enillais i.

“Rwy’n gobeithio bod ennill fy rhagbrawf yn ddigon i gymhwyso am rownd derfynol Worldskills, sy’n edrych fel digwyddiad enfawr a heriol. Nid dim ond y cystadlu sy’n bwysig, ond mae’r gystadleuaeth hefyd yn gwneud i chi feddwl y tu hwnt i’r hyn sydd o’ch amgylch a bod yn fwy creadigol.”

Roedd Matthew, sydd wedi bod yn gweithio gyda chigyddion ers oedd yn 15 oed, wrth ei fodd hefyd o ennill ei ragbrawf ond yn synnu â’r canlyniad oherwydd safon y gigyddiaeth oedd i’w gweld.

“Roeddwn i’n hapus iawn i ennill y rhagbrawf oherwydd roedd cigyddion dawnus iawn yn cystadlu yn fy erbyn,” meddai. Mae’n golygu tipyn i mi. Mae fy nghyflogwr yn ymfalchïo mewn cynhyrchu cynhyrchion a chigyddion arobryn ac roedd hi’n braf gweld y bechgyn eraill o’r cwmni’n gwneud yn dda.

“Rwy’n dal i feddwl y gallwn i fod wedi gwneud rhai pethau ychydig yn well ac, os af i drwodd i’r rownd derfynol, rwy’n gwybod y bydd fy rheolwr yn fy ngwthio mwy a mwy. Rwy’n ymfalchïo yn fy ngwaith a theimlaf y gallwn wthio fy hun i’r eithaf i ennill y gystadleuaeth.”

Ymhlith y cigyddion eraill yn cystadlu yn rhagbrofion Lloegr oedd : George Brown, Coleg Dinas Leeds, Kevin Reid, Luke Brink a Jack Fisher, Walter Smith Fine Foods a Ben Powell, Coleg Reaseheath. Y beirniaid oedd Viv Harvey, Roger Kelsey a Keith Fisher.

Penodwyd y darparwr hyfforddiant arobryn o’r Trallwng, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran WorldSkills UK a noddwyd y rhagbrofion gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig a PBEX.

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills UK i wella rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant a gwella a chymell sgiliau yn y diwydiant. Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael eu cynnwys yn y cystadlaethau eleni.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dwyn ynghyd y prif chwaraewyr yn y diwydiant cig i ffurfio gr?p llywio i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth newydd.

Mae’r partneriaid yn cynnwys Pearsons, Scottish Federation of Meat Traders, Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig, Eblex, Dunbia Ltd, Bwydydd Castell Howell, Coleg Dinas Leeds, Improve – The National Skills Academy for Food & Drink, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, Randall Parker Foods a Mr Harvey.

Ar ôl mynd â phrentisiaid cigyddiaeth i ddangos eu sgiliau yn y Sioe Sgiliau bob blwyddyn er 2011, roedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i ychwanegu’r alwedigaeth at y gystadleuaeth sgiliau er mwyn codi proffil cigyddion medrus ar draws y DU.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818