TÎM Y DU YN CODI’I GÊM A’I ENW DA

Llwyddodd CHRIS RILEY a PETER RUSHFORTH, oedd yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig (DU) yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol, i godi eu gêm a’u henw da yn erbyn cystadleuaeth gryfach nag erioed yn Utrecht, Yr Iseldiroedd yn gynharach yr wythnos hon.

Profodd y digwyddiad chwe chategori, deuddydd o hyd a gynhaliwyd ar y cyd â Slavakto (21-22 Medi), ac a gydnabyddir fel y brif gystadleuaeth i brentisiaid cigyddiaeth 18 – 24 oed yn Ewrop, i fod yr ornest fwyaf heriol, ffyrnig ac agored yn hanes diweddaraf y gystadleuaeth rhwng timau elitaidd o Awstria, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Y Swistir a’r Deyrnas Unedig.

Gwnaeth Chris, dau ddeg dwy oed sy’n Rheolwr Cynorthwyol i WALTER SMITH ac yn dod o Huntingdon, Swydd Gaergrawnt a Peter, ugain oed o SWANS FARM SHOP, Yr Wyddgrug, SIR Y FFLINT ailddatgan ond hefyd cynyddu hygrededd y DU, gan fynd benben gyda phrentisiaid gorau eraill Ewrop mewn cystadleuaeth a welodd y cyn enillwyr am bedair blynedd yn olynol o 2011-2014, sef Yr Iseldiroedd, yn cael eu ‘bwrw oddi ar eu hechel’ gan golli’r teitl i Ffrainc a’r tlws tîm hynod ddymunol i ddwy ferch o’r Swistir!

Enillodd y ffefryn o’r Iseldiroedd i ennill y gystadleuaeth, Johan Augustinus, y categorïau ‘Cigyddiaeth ar hyd yr Uniad, Barbeciw a ‘Rhost’ Parod i’r Gegin’. Tra enillodd y Ffrancwr Lucas Beyle y categorïau ‘Ranbarthau Ewrop’ Parod i’w Bwyta, Prif Gwrs gyda Chig a’r categori ‘Annisgwyl’ a gyflwynwyd am y tro cyntaf, sef paratoi ystlys pedrain o gig llo, gan sgorio digon i gipio teitl y Cigydd Ifanc Rhyngwladol 2015. Collodd yr Iseldirwr Augustinus hefyd i Claudia Jaun a ddaeth yn Ail yn y gystadleuaeth a Luzia Mathys a ddaeth yn drydydd – y ddwy yn dangos ‘p?er y merched’ ac yn cipio tlws y tîm i’r Swistir!

Noddir Tîm Cigydd Ifanc Rhyngwladol y DU a drefnwyd gan Ffedersasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd (NFMFT) gan ABP (UK), AHDB Eidion ac Oen, AHDB Porc, DALZIEL, y SEFYDLIAD CIG (IoM), COLEG DINAS LEEDS, ORANGE BUTCHER, RAPS (UK), WEDDEL SWIFT a’r WORSHIPFUL COMPANY OF BUTCHERS.