Dathlu datblygiad sgiliau rhagorol wrth i 37 gyrraedd rownd derfynol gwobrau

Bydd cyfle i edmygu rhagoriaeth dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr dysgu ym maes datblygu sgiliau wrth i 37 o unigolion a sefydliadau gystadlu am wobrau mewn dwsin o ddosbarthiadau yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru eleni.

Mae’r 37 wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn gornest a ddenodd fwy o gystadleuwyr nag erioed. Bydd y dysgwyr, y cyflogwyr a’r darparwyr dysgu sy’n rhan o raglenni dysgu llwyddiannus ledled Cymru yn dod i seremoni wobrwyo fawreddog yn y Celtic Manor, Casnewydd ar nos Iau, 29 Hydref.

Mae’r gwobrau uchel eu parch yn dathlu llwyddiant eithriadol rhai sydd wedi rhagori ar ddisgwyliadau gan ddangos agwedd ddeinamig at hyfforddiant. Byddant hefyd wedi dangos brwdfrydedd a menter, dyfeisgarwch a chreadigrwydd, ac ymrwymiad i wella sgiliau er budd economi Cymru.

Trefnir y gwobrau ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW) ac fe’u noddir gan Pearson PLC. Media Wales yw’r partner yn y cyfryngau. Caiff y Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymroi i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu seiliedig ar waith eraill sy’n cefnogi eu gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant.

Canmolodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, Julie James, bawb oedd wedi ymgeisio a llongyfarchodd y 37 sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dywedodd ei bod yn edrych ymlaen at gyfarfod â nhw a dathlu eu llwyddiant yn y seremoni wobrwyo.

“Rwy’n clywed bod safon y gystadleuaeth yn uwch nag erioed eleni ac mae hynny’n dangos bod rhaglenni dysgu Llywodraeth Cymru yn dal i lwyddo,” meddai. “Gallwn ymfalchïo ein bod yn cynnig un o’r rhaglenni prentisiaethau mwyaf llwyddiannus yn Ewrop gyda chyfraddau llwyddiant ymhell dros 80%.

“Mae meithrin pobl ifanc fedrus yn hanfodol er mwyn ein heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynlluniau hyfforddi fel prentisiaethau ond mae gofyn i’r sector addysg, busnesau ac unigolion rannu’r cyfrifoldeb am y buddsoddiad.

“Mae gennym brentisiaid gwirioneddol eithriadol yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn gyfle delfrydol i ni ddathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau. Mae’r darparwyr hyfforddiant a’r cyflogwyr sydd wedi mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig.”

Mae 12 dosbarth eleni, yn cynnwys dwy wobr newydd ar gyfer darparwyr dysgu. Cwmni Hyfforddiant Cambrian o’r Trallwng ac ACT Limited o Gaerdydd, sydd wedi ennill gwobrau o’r blaen, sydd yn rownd derfynol y wobr i ddarparwyr am weithio mewn partneriaeth.

Mae pedwar o bobl yn rownd derfynol y wobr newydd ar gyfer ymarferwr dysgu seiliedig ar waith: Chris Hughes a Louisa Gregory o ACT Limited, Caerdydd; Steven Manning o Goleg y Cymoedd, Ystrad Mynach a Sue Jeffries o Cyfle, Caerdydd.

Hefyd yn y rownd derfynol mae: Macro-gyflogwr y flwyddyn (5,000+ o weithwyr) BT, Caerdyddf; EE Ltd, Merthyr Tudful a Lloyds Banking Group, Caerdydd. Cyflogwr mawr y flwyddyn (250-4,999): Celtic Manor Resort, Casnewydd; Mitel, Porth Sgiwed a Cyfoeth Naturiol Cymru, Bangor. Cyflogwr canolig y flwyddyn (50-249): Little Inspirations Ltd, Llantrisant; Randall Parker Foods Ltd, Dolwen, Llanidloes a Thorncliffe Abergele, Abergele. Cyflogwr bach y flwyddyn (1-49): Bridge Dental Care, Trecelyn, Caerffili; Destek Accessible Technology Solutions, Port Talbot a Nemein Ltd, Pîl, Pen-y-bont ar Ogwr.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Janet Bevan, Treorci sy’n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Llantrisant; Simon Cuff, Hwlffordd sy’n gweithio i Marlowe, St David’s, Hwlffordd a Steve Bergiers, Cydweli sy’n gweithio i Heddlu Dyfed Powys, Caerfyrddin. Prentis y Flwyddyn: Drew Barrett, y Rh?s sy’n gweithio i Openreach, Caerdydd; Liam Gill, Pentrechwyth, Abertawe sy’n gweithio i’r Ford Motor Company, Pen-y-bont ar Ogwr; Megan Wilkins, Casnewydd sy’n gweithio i Cwmnofydd Farm, Machen a Zoe Batten, Pontypridd sy’n gweithio i British Airways Avionics Engineering, Pontyclun. Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Dylan Jones, Glantwymyn, Machynlleth sy’n gweithio i RWE Innogy Ltd, Llanidloes; Lloyd Price, Merthyr Tudful sy’n gweithio i EE, Merthyr Tudful a Sean Williams, Llanelwy, sy’n gweithio i Thorncliffe Abergele.

Yn rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn Twf Swyddi Cymru: Corey McDevitt, 22, Trelái, Caerdydd; Lisamarie Jones, 19, Llanishen, Caerdydd a Rhys Lloyd, 24, Hengoed, Caerffili, sydd i gyd yn ddysgwyr gydag Itec Training Ltd, Caerdydd. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Ymgysylltu): Jac Ellis, 18, Caernarfon o Gr?p Llandrillo Menai, Llangefni; Saffron Tinnuche, 18, Pontarddulais, Abertawe o Goleg Sir Gâr, Llanelli a Tamsin Austen, 18, Llangefni o Gr?p Llandrillo Menai, Llangefni. Dysgwr y Flwyddyn – Hyfforddeiaethau (Lefel 1): Cory Rowlands, 18, y Barri o ACT Training, Caerdydd; Elliot Stephens, 17, Cwmbrân o Coleg QS, Cwmbrân a Louis Bowen, 17, Sain Tathan, y Barri o’r Coleg Paratoi Milwrol, Pen-y-bont ar Ogwr.