Sean yn benderfynol o gael ail gyfle i newid ei fywyd

Mae gan ddyn sydd wedi croesawu ail gyfle i drawsnewid ei fywyd a gosod sylfeini gyrfa i gefnogi ei deulu, gyfle i ennill gwobr flaenllaw yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Mae Sean Williams yn 27 oed, yn byw yn Llanelwy, ac yn un o dri sydd wedi eu rhoi ar restr fer yng nghategori Prentis Sylfaen y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo proffil uchel a gynhelir yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd, ar ddydd Iau, 29 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau, wedi dangos ymagwedd ddeinamig tuag at yr hyfforddiant ac wedi dangos ysgogiad, menter, arloesedd, dawn greadigol ac ymrwymiad i wella sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Caiff y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), eu noddi gan Pearson PLC a phartner y cyfryngau yw Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Sean yn oruchwylydd i Thorncliffe Abergele, busnes ailgylchu gwastraff yn Abergele, lle mae wedi cyflawni Prentisiaeth Sylfaen mewn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy. Mae bellach yn gweithio tuag at Brentisiaeth gyda’r darparwr dysgu Cwmni Hyfforddiant Cambrian ac mae’n gobeithio datblygu i wneud Prentisiaeth Uwch.

Cafodd ei dderbyn ar ôl cael ei gyflwyno i’r cwmni gan raglen y Gwasanaeth Prawf, “8 ffordd o newid eich bywyd” a chafodd gynnig profiad gwaith. Ar ôl cael ei ryddhau o’r carchar, bu’n ddi-waith am chwe mis ac roedd yn poeni nad oedd llawer o obaith ganddo gael gwaith oherwydd ei gofnod troseddol.

Ond, rhoddodd Thorncliffe Abergele gyfle iddo ac mae wedi gwobrwyo’r cwmni trwy weithio’n galed a dangos parodrwydd i ddysgu sut i redeg a chynnal a chadw peirianwaith newydd i fwndelu gwastraff i gael ei ddefnyddio fel tanwydd sy’n deillio o sbwriel.

“Rwyf wedi herio fy hun i newid fy mywyd i un sy’n canolbwyntio ar fy nheulu a darparu ar eu cyfer yn hytrach na bywyd o droseddu,” dywedodd Sean. “Roeddwn wedi gweld ffrindiau o’r ysgol yn tyfu i fyny ac yn cyflawni ond roedd bob amser yn teimlo allan o’m gafael i tan nawr.

“Mae’r hyn yr wyf wedi ei ddysgu wedi effeithio ar fy mywyd bob dydd, wedi gwella fy hyder, fy sgiliau trefnu, rheoli amser a’r agwedd i’w throsglwyddo i fy merch y gallwch lwyddo trwy weithio’n galed.

“Ers dechrau Prentisiaeth Sylfaen rwyf wedi achub ar bob cyfle i wneud cynnydd a chreu gyrfa i mi fy hun ac rwyf wedi gweld bod addysg a hyfforddiant yn rhan fawr o hyn. Bydd o gymorth i mi ddatblygu yn bersonol, yn helpu’r busnes yr wyf yn gweithio iddo i dyfu, yn ogystal â chreu dyfodol cynaliadwy i’m teulu ifanc.”

Dywedodd Steve harper, rheolwr safle Thorncliffe Abergele: “Mae Sean yn unigolyn gweithgar a phenderfynol sy’n esiampl wych i eraill sydd wedi gwneud rhai penderfyniadau anghywir, sy’n dangos iddynt ei fod yn bosibl trawsnewid eu bywydau.”

Mae’r gwobrau’n cydnabod cyflogwyr sy’n ymrwymo i ddatblygu eu gweithlu trwy brentisiaethau a rhaglenni dysgu yn y gwaith eraill, sy’n cefnogi gweithwyr yn ystod eu hyfforddiant. Maent hefyd yn ffordd wych o werthuso hyfforddiant a datblygiad, yn ogystal â bod yn elfen ysgogol wych i unrhyw weithlu neu ddysgwr.

Llongyfarchodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Sean a’r 36 arall ddaeth i’r brig. “Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” dywedodd.

“Mae darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddiant fel Prentisiaethau ond mae’n rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb a rennir gyda’r sector addysg, busnesau ac unigolion.”