Cystadleuwyr Rhyngwladol y Deyrnas Unedig 2015

Dewiswyd CHRIS RILEY a PETER RUSHFORTH i gynrychioli’r Deyrnas Unedig (DU) yng Nghystadleuaeth y Cigydd Ifanc Rhyngwladol (CCIRh) a gynhelir yn yr Iseldiroedd yn nes ymlaen y mis hwn.

Mae’r Rheolwr Cynorthwyol, Chris, dau ddeg dau oed sy’n gweithio i WALTER SMITH yng Nghanolfan Wyevale yn Huntingdon, Swydd Gaergrawnt a Peter, ugain oed o SWANS FARM SHOP yn yr Wyddgrug, Sir y Fflint, wedi cystadlu gyda’i gilydd o’r blaen. Digwyddodd hyn yn 2014, pan enillodd Chris y teitl a daeth Peter yn agos at y brig yng Nghystadleuaeth y Prif Gigydd Ifanc yn yr NEC, Birmingham ym mis Mawrth y llynedd.

Cydnabyddir digwyddiad chwe chategori CCIRh ar hyd a lled y byd fel y brif gystadleuaeth i brentisiaid cigyddiaeth 18-23 oed yn Ewrop. Mae’r digwyddiad deuddydd o hyd yn Utrecht eleni’n addo’r frwydr fwyaf heriol a ffyrnig eto gyda chategori ‘annisgwyl’ yn cael ei gyflwyno am y tro cyntaf yn hanes y gystadleuaeth rhwng y timau elitaidd sy’n cynrychioli Awstria, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Lwcsembwrg, y Swistir a’r Deyrnas Unedig.

Mae Chris a Peter, ynghyd â thrydydd aelod o dîm y Deyrnas Unedig, GEORGE PARKER o Frank Parker Butchers yn Nuneaton, Swydd Warwig, wedi bod yn mynd trwy hyfforddiant dwys i baratoi ar gyfer y gystadleuaeth mewn cynhyrchion Parod i’w Bwyta, Cigyddiaeth ar hyd yr Uniad (Seam Butchery), Parod i’r Barbeciw ac i’r Gegin er mis Mawrth gyda gwersi oddi wrth Hyfforddwr Tîm y DU, ac ymgynghorydd y diwydiant Viv Harvey, gyda chymorth yr ‘Orange Butcher’ Marco Peerdeman.

Bydd y tîm yn teithio i’r gystadleuaeth a gynhelir ar 21 a 22 Medi gyda Viv a Beirniad y DU, sef Rheolwr Datblygu Cigyddiaeth (Porc) AHDB a Phrif Weithredwr y Sefydliad Cig, Keith Fisher.

Daeth y cyhoeddiad ar ddiwedd sesiwn hyfforddiant derfynol o ddeuddydd a gynhaliwyd yng Ngholeg Dinas Leeds (Campws Print Works) pan ymunodd Prif Gigydd Ifanc 2015, Lucy Crawshaw o Taylors Farm Shop yn Lathom, Sir Gaerhirfryn a’r Ail Brif Gigydd Ifanc eleni, sef Joe Smith o Lishman’s of Ilkley, Swydd Efrog â’r tîm a fydd yn hyfforddi gyda George ar gyfer y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf.

Noddir Tîm Cigydd Ifanc Rhyngwladol y DU a drefnir gan NFMFT gan ABP (UK), AHDB Beef & Lamb, AHDB Pork, DALZIEL, y SEFYDLIAD CIG, COLEG DINAS LEEDS, ORANGE BUTCHER, RAPS (UK), WEDDEL SWIFT a’r WORSHIPFUL COMPANY OF BUTCHERS.