Agwedd “ysbrydoledig” cwmni ailgylchu tuag at gyflogaeth a hyfforddiant

Mae agwedd unigryw tuag at gyflogaeth a hyfforddiant gan gwmni llwyddiannus, sy’n rhedeg safle gwastraff ac ailgylchu llwyddiannus yng Ngogledd Cymru, wedi cael ei disgrifio gan ddarparwr hyfforddiant fel un “ysbrydoledig”.

Bellach, gallai Thorncliffe Abergele, cwmni teulu a sefydlwyd yn Abergele ym 1987, ennill gwobr flaenllaw yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru 2015.

Mae’r cwmni yn un o dri ar y rhestr fer yng nghategori Cyflogwr Canolig ei Faint y Flwyddyn yn y seremoni wobrwyo proffil uchel a gynhelir yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd ar ddydd Iau, 29 Hydref.

Mae’r gwobrau blaenllaw yn dathlu cyflawniadau eithriadol y rheiny sydd wedi mynd y tu hwnt i’r disgwyliadau, wedi dangos ymagwedd ddeinamig tuag at yr hyfforddiant ac wedi dangos ysgogiad, menter, arloesedd, dawn greadigol ac ymrwymiad i wella sgiliau ar gyfer economi Cymru.

Caiff y gwobrau, a drefnir ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTfW), eu noddi gan Pearson PLC a phartner y cyfryngau yw Media Wales. Ariennir y Rhaglen Brentisiaeth yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Mae Thorncliffe Abergele wedi lleihau’r gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi o 8,384 o dunelli yn 2013 i 887 o dunelli’r llynedd ac yn anelu at ddim gwastraff o gwbl. Mae’r cwmni, sydd â gweithlu o 52, wedi buddsoddi mewn offer o’r radd flaenaf, yn cynnwys gwaith prosesu tanwydd o sbwriel, sy’n bwndelu gwastraff.

Er mwyn cyflawni ei nodau, lansiodd Thorncliffe Abergele raglen Brentisiaeth, yn gweithio’n agos gyda Chwmni Cambrian Training, dair blynedd yn ôl. Mae’r cwmni wedi recriwtio 28 o brentisiaid ers i’r rhaglen ddechrau ac mae ganddo saith ar hyn o bryd yn gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen a Phrentisiaeth yn Rheoli Adnoddau Cynaliadwy.

Gan weithio gyda’r Gwasanaeth Prawf, mae’r cwmni’n darparu cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant i gyn-droseddwyr, rhaglen a enillodd Wobr prosiect gorau Inspire! am ei effaith gadarnhaol yn y gymuned leol.

Mae rheolwr y safle, Steve Harper, hefyd wedi ei enwebu am wobr Comisiynydd Troseddu’r Heddlu am ei waith gyda chyn-droseddwyr. “Mae’r prosiect yn rhoi cyfleoedd cyflogaeth sy’n galluogi pobl i drawsnewid eu bywydau, cael hyfforddiant a sgiliau newydd a darparu dyfodol cynaliadwy ar eu cyfer nhw eu hunain a’u teuluoedd.”

Disgrifiodd Heather Martin, o Gwmni Cambrian Training, ymrwymiad Thorncliffe Abergele i roi ail gyfle i droseddwyr fel “agwedd gwirioneddol ysbrydoledig at gyflogaeth a hyfforddiant.”

Llongyfarchodd Julie James, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg Thorncliffe Abergele a’r 36 arall ddaeth i’r brig. “Mae gennym brentisiaid eithriadol yma yng Nghymru ac mae Gwobrau Prentisiaethau Cymru yn llwyfan perffaith i ni ddathlu eu gwaith caled a’u cyflawniadau,” dywedodd.

“Mae darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr sy’n mynd yr ail filltir i gefnogi eu prentisiaid yr un mor bwysig. Mae datblygu pobl ifanc medrus yn hanfodol i’n heconomi.  Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i raglenni hyfforddiant fel Prentisiaethau ond mae’n rhaid i fuddsoddiad fod yn gyfrifoldeb a rennir gyda’r sector addysg, busnesau ac unigolion.”

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Duncan Foulkes ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451 neu e-bost: duncan.foulkes@btinternet.com neu Karen Smith, rheolwr cyfathrebu a marchnata NTfW, ar Ffôn: 02920 495861