Y Prentis Cyntaf yng Nghymru i gyflawni ei Phrentisiaeth Lletygarwch Trwyddedig

Mae Jo Trow yn farforwyn yn y Buck Inn yn y Drenewydd ym Mhowys, tafarn tenantiaeth Marston sydd yn nwylo ei chwaer Emma Rees. Mae Jo wedi bod yn gweithio’n rhan-amser mewn tafarndai ers iddi fod yn 14 oed, gan gasglu gwydrau, gweini bwyd a gweithio y tu ôl i’r bar. Ar ôl dechrau ei gyrfa yn y sector gofal, sylweddolodd yn 2013 nad dyna beth oedd hi eisiau ei wneud, a phan gynigiodd ei chwaer swydd amser llawn yn y Buck iddi, manteisiodd ar y cyfle. Yn ddiweddar, cwblhaodd ei Phrentisiaeth Lefel 2 BIIAB mewn Lletygarwch Trwyddedig gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian, ac yn sgil hynny, hi oedd prentis cyntaf yr hyfforddwr i gyflawni’r cymhwyster.

“Rydw i wedi hoffi gweithio ym musnes tafarndai erioed,” meddai Trow, a esboniodd mai dim ond am ddeufis y bu hi’n gweithio’n amser llawn yn y Buck pan awgrymodd Helen Davies o Hyfforddiant Cambrian y brentisiaeth iddi hi a’i chwaer, Emma. “Buom yn sgwrsio ynghylch sut carwn i gael fy nhafarn fy hun un diwrnod, a chafodd y cwrs hwn ei grybwyll. Rwy’n briod gyda dau blentyn ifanc, felly mae’r oriau y gallaf eu gweithio a faint gallaf ei wneud yn weddol gyfyngedig, ond roedd i weld yn ffordd wirioneddol dda o ddysgu mwy r?an, ennill rhai cymwysterau ac yna, wrth i’r plant fynd yn h?n, gallaf wneud cynnydd.”

Esboniodd fod cwblhau’r cymhwyster yn y gweithle gyda chefnogaeth ei chyflogwr ac aseswr Cambrian wedi golygu “nad iddo erioed ymddangos fel gwaith caled” ac mae hi bellach yn falch iawn iddi gyflawni’r cymhwyster oherwydd mae wedi rhoi hwb i’w hyder.

“Rydw i wrth fy modd yn y fy ngwaith. Nid oes yr un dau ddiwrnod yr un fath ac rydych chi’n cael cyfle i gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl,” meddai Trow, sy’n dechrau ei diwrnod gwaith yn glanhau. “Ymfalchïwn ein bod yn cadw’r dafarn fel pin mewn papur. Mae pobl yn aml yn sôn am hynny.”

A’r sylwadau cadarnhaol hyn gan y cwsmeriaid a’r cyfathrebu gyda nhw sy’n gwneud i Jo eisiau aros yn y busnes tafarndai. “Yr hyn rwy’n ei garu yw fy mod i wedi dod i adnabod y cwsmeriaid cyson yn dda iawn, a phan ddaw un ohonynt i mewn, rwy’n gwybod a fyddan nhw’n mwynhau sgwrs wrth y bar neu a fyddai’n well ganddynt fynd â’u peint a mynd i eistedd i lawr yn dawel!

“Rwy’n hoffi meddwl os bydd pobl yn gweld ein bod ni’n dafarn gyfeillgar iawn, sy’n lân ac yn gwneud peint da, byddan nhw’n debygol o eisiau dod yn ôl. Rwy’n eithaf siaradus, a phan fydda i’n mynd i dafarndai eraill, rwy’n gwerthfawrogi staff bar sy’n cyfathrebu – ni allaf feddwl am ddim byd gwaeth na chael rhywun y tu ôl i’r bar sydd prin yn yngan gair. Mae’n gwneud i mi eisiau mynd rhywle arall a pheidio dod nôl.”

Ac er gwaetha’r cyfrifoldeb ychwanegol o’r holl waith cwrs, y gwnaed y rhan fwyaf ohono yn ystod ei diwrnod gwaith gyda’r aseswr yn dod i mewn i’r dafarn i’w harsylwi, a rhywfaint gartref, teimla fod cael cymhwyster BIIAB wedi bod yn werth chweil.

“Mae wedi rhoi mwy o hyder i mi. Doeddwn i ddim yn sylweddoli cymaint oeddwn i’n ei wybod hyd nes i mi ddechrau’r cwrs. Pan fyddwch yn gwneud rhywbeth drwy’r amser, dydych chi ddim yn gwerthfawrogi ei werth, ond pan fyddwch yn dysgu eich bod chi’n gwneud pethau’r ffordd iawn ac yn sylweddoli cymaint rydych chi wedi’i ddysgu o weithio yn y busnes, mae’n deimlad gwych. Rydw i wedi dysgu llawer o bethau newydd hefyd, er enghraifft, doeddwn i byth wedi glanhau pibelli o’r blaen ac rwy’n gallu erbyn hyn. Heb os, mae bod yn fwy deallus yn atgyfnerthu fy hyder.

“Mae dysgu mwy am reoli gwrthdaro wedi bod yn ddefnyddiol iawn hefyd, yn enwedig ar nos Sadwrn brysur pan dueddwn i weld cwsmeriaid gwahanol yn dod i mewn. Nid yw pobl yn sylweddoli bod mwy i’r gwaith hwn na dim ond gweini diodydd.”

Ar hyn o bryd, gan fod ei phlant yn dal i fod yn yr ysgol, dywed Trow ei bod hi’n hapus yn gwneud yr hyn mae hi’n ei wneud r?an. Ond ychwanega: “Hoffwn gael fy nhafarn fach fy hun un diwrnod – mae cyfathrebu gyda phobl yn rhywbeth rydw i wir yn ei fwynhau. Rwy’n berson pobl. Mae’n fy ngwneud i’n hapus o wybod fod rhywun wedi cael gwasanaeth da ac wedi mwynhau eu profiad yn y dafarn.”

Bodloni’r gofynion: Jo Trow (top du) a’i swyddog hyfforddi o Hyfforddiant Cambrian, Helen Davies