Matthew yn fuddugol yn rhagbrawf Cymru cystadleuaeth cigyddiaeth Worldskills UK

Ar ddydd Sul, enillwyd rhagbrawf Cymru Cystadleuaeth Genedlaethol Worldskills UK mewn Cigyddiaeth gan y cigydd, Matthew Edwards, o Ogledd Cymru.

Roedd Matthew, 23 oed, o Vaughan’s Family Butchers, Penyffordd, ger Caer, ben ac ysgwyddau uwchlaw’r tri chystadleuydd yn yr ornest agos a gynhaliwyd gan Randall Parker Foods yn Nolwen, Llanidloes ar ddydd Sul.

Rhaid iddo ef a chigyddion eraill Cymru nawr aros yn nerfus tan fis Awst, ar ôl rhagbrawf Gogledd Iwerddon yn y Southern Regional College yn Newry ar 18 Mehefin a rhagbrawf Lloegr yng Ngholeg Dinas Leeds ar 9 Gorffennaf i ddarganfod ydyn nhw wedi cyrraedd y rownd derfynol.

Bydd y chwe chigydd uchaf eu sgôr o’r rhagbrofion cyfunol yn cymhwyso am y rownd derfynol yn y Sioe Sgiliau, a gynhelir yn yr NEC Birmingham o 19 i 21 Tachwedd. Y Sioe Sgiliau yw digwyddiad sgiliau a gyrfaoedd mwyaf y wlad ac mae’n helpu ffurfio dyfodol y genhedlaeth nesaf.

“Roeddwn i’n synnu o ennill y rhagbrawf a dweud y gwir oherwydd roedd lefel y sgiliau’n uchel iawn,” meddai Matthew, cyn bencampwr Cigydd Ifanc Cymru a gynrychiolodd Prydain Fawr mewn cystadleuaeth gigyddiaeth Ewropeaidd yn y Swistir llynedd. Mae ennill rhagbrawf Worldskills UK yn rhyfeddol.

“Rwy’n croesi ‘mysedd y gallaf gyrraedd y rownd derfynol a gobeithio mynd ymlaen i ennill honno. Heddiw oedd y gorau y mae fy arddangosfa cig wedi edrych, felly roeddwn i’n hapus iawn â’r ffordd aeth pethau.

“Ond nid dim ond yr arddangos sy’n bwysig yn y gystadleuaeth. Mae’r beirniaid yn chwilio am eich sgiliau cyllell, iechyd a diogelwch, glanweithdra a gwastraff.”

Gobaith Matthew, sy’n gweithio tuag at ei brentisiaeth, yw symud ymlaen i Uwch Brentisiaeth mewn rhagoriaeth cynhyrchu bwyd er mwyn cefnogi ei uchelgais o redeg y siop y mae’n gweithio ynddi un diwrnod. Diolchodd i’w gyflogwyr, Steve a Helen Vaughan, am eu cefnogaeth barhaus.

Yn ail roedd Daniel John Allen-Raftery, 31 oed o Randall Parker, Llanidloes, yn drydydd roedd Peter Rushforth, 19 oed o Swans Farm Shop, Yr Wyddgrug ac yn bedwerydd roedd Dafydd Jenkins, 21 oed o Cigyddion Ken Davies, Crymych.

Dywedodd Daniel, sydd fel Dafydd yn cystadlu am y tro cyntaf, ei fod wrth ei fodd o ddod yn ail. “Anghofiais i ambell i beth, ond fel arall aeth popeth yn dda ac rwy’n hapus i ddod yn ail,” meddai.

Beirniaid y gystadleuaeth oedd ymgynghorydd y diwydiant cig, Viv Harvey a phennaeth y cwricwlwm ar gyfer cynhyrchu bwyd o Gwmni Hyfforddiant Cambrian, Chris Jones.

Llongyfarchodd Mr Harvey’r pedwar yn y rownd derfynol am safon uchel eu gwaith. “Roedd hi’n gystadleuaeth dda iawn a dim ond 10 pwynt oedd rhwng y lle cyntaf a’r ail a dim ond tri phwynt rhwng y trydydd a’r pedwerydd,” meddai.

“Mae gennym 28 o gystadleuwyr eraill o hyd i’w barnau cyn i ni ddewis y chwech gorau ar gyfer y rownd derfynol, ond gobeithio bod o leiaf un ohonoch wedi gwneud digon i fynd trwodd i’r rownd derfynol.”

Crëwyd argraff ar Dale Williams, rheolwr cyffredinol gwaith Dolwen Randall Parker Foods, gan y sgiliau cigyddiaeth a ddangoswyd. “Mae’n chwa o awyr iach gweld cigyddion dawnus mor awyddus a chyda chymaint o ymroddiad i symud ymlaen yn y diwydiant hwn,” meddai.

Penodwyd y darparwr hyfforddiant arobryn o’r Trallwng, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth ar ran Worldskills UK. Noddwyd y rhagbrofion gan Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig a PBEX.

Dyluniwyd Cystadlaethau Sgiliau Cenedlaethol WorldSkills UK i wella rhaglenni prentisiaeth a hyfforddiant a gwella a chymell sgiliau yn y diwydiant. Mae cigyddiaeth yn un o dros 60 o sgiliau i gael ei chynnwys yn y cystadlaethau eleni.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dwyn ynghyd y prif chwaraewyr yn y diwydiant cig er mwyn ffurfio gr?p llywio i drefnu’r gystadleuaeth gigyddiaeth newydd.

Mae’r partneriaid yn cynnwys Pearsons, Scottish Federation of Meat Traders, Ffederasiwn Cenedlaethol y Masnachwyr Cig a Bwyd, y Sefydliad Cig, Eblex, Dunbia Ltd, Bwydydd Castell Howell, Coleg Dinas Leeds, Improve – The National Skills Academy for Food & Drink, Hybu Cig Cymru – Meat Promotion Wales, Randall Parker Foods a Mr Harvey.

Ar ôl mynd â phrentisiaid cigyddiaeth i ddangos eu sgiliau yn y Sioe Sgiliau bob blwyddyn er 2011, roedd Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn awyddus i ychwanegu’r alwedigaeth at y gystadleuaeth sgiliau er mwyn codi proffil cigyddion medrus ar draws y DU.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, Rheolwr Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Ffôn: 01938 555893 e-bost: katy@cambriantraining.com neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar 01686 650818