Yng Nghwmni Hyfforddi Cambrian rydym yn falch o gefnogi prentisiaid o bob cefndir; gan gynnwys y rhai sy’n dychwelyd i astudio ar ôl nifer o flynyddoedd, dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau a’r rhai sydd â chefndir ieithyddol amrywiol.
Rydym yn dechrau trwy ddeall profiad blaenorol, modd dysgu a nodau gyrfa pob prentis. Rhan o fy rôl swydd fel Cydlynydd ADY, yw cael sgwrs agored gyda’r prentis pan fyddant yn dechrau eu taith gyda ni – nid yn unig am eu heriau unigol, ond am eu cryfderau, eu dewisiadau a’u nodau.
Yn CHC, rydym yn defnyddio dull sy’n canolbwyntio ar unigolion, sy’n golygu bod y prentis wrth wraidd y cynllun cymorth sy’n cael ei greu ar eu cyfer. Rydyn ni’n gwrando’n ofalus ar sut maen nhw’n dysgu orau, pa gefnogaeth sydd wedi gweithio yn y gorffennol, a’r hyn maen nhw eisiau ei gyflawni. Mae’r broses hon yn caniatáu inni deilwra’r gefnogaeth i’w hanghenion unigol ac yn caniatáu inni ysgrifennu ‘cynllun anghenion dysgu ychwanegol’ sy’n amlinellu eu dewisiadau penodol a’r strategaethau mwyaf llwyddiannus i’w defnyddio gyda’r prentis.
Mae’r gefnogaeth i brentis yn dechrau o’r diwrnod cyntaf, gan fod y swyddogion hyfforddi a’r tiwtoriaid yn CHC yn fedrus mewn defnyddio strategaethau a dulliau addysgu cynhwysol ac maent yn addasu eu harddull i ddiwallu anghenion y dysgwr. Er enghraifft, defnyddio offer fel technoleg gynorthwyol, dulliau dysgu amlfodd neu amser ychwanegol pan fo angen. Mae hyn, ynghyd â gwiriadau rheolaidd, yn helpu’r prentisiaid i symud ymlaen yn hyderus yn ystod eu cymhwyster.
Yn ogystal, mae’r tîm hyfforddi yn cydweithio’n agos â’u cyflogwr, i sicrhau bod y gefnogaeth yn gysylltiedig a’n gyson, yn y gweithle ac yn ystod y sesiynau hyfforddi.
Yn y pen draw, ein nod yw grymuso pob prentis sy’n oedolion i ffynnu – nid yn unig yn eu hyfforddiant, ond yn eu gyrfaoedd. Trwy gwrdd â nhw lle maen nhw a’u cefnogi bob cam o’r ffordd, rydym yn helpu i adeiladu gweithwyr proffesiynol medrus a hyderus ar gyfer y dyfodol.
Debbie Lovatt
Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)