Cogyddion uchelgeisiol yn godi i her gweithdy risotto yn Ysgol Uwchradd y Trallwng

Mae cogyddion uchelgeisiol yn Ysgol Uwchradd y Trallwng wedi bod yn rhoi eu sgiliau coginio ar waith gydag arweiniad y prif ddarparwr hyfforddiant annibynnol y diwydiant lletygarwch yng Nghymru.

 

Heriwyd myfyrwyr blwyddyn 10 ac 11 (CABC Gwobr Alwedigaethol Arlwyo a Lletygarwch Lefel ½) i goginio risotto perffaith mewn dau weithdy celfyddydau coginio a gynhaliwyd yn yr ysgol ar ddydd Llun gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, sydd a’i bencadlys yn y Trallwng.

Roedd swyddogion hyfforddi Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Andy Addis-Fuller a Jobe Davies, ar gael i gynnig hyfforddiant arbenigol a chafodd y myfyrwyr eu canmol am wynebu’r her goginio.

“Roedd y gweithdai yn gyfle i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o addysg
alwedigaethol, prentisiaethau dysgu seiliedig ar waith a llwybrau sgiliau gyrfa ymhlith
myfyrwyr ysgol, rhieni a’r gymuned ehangach,” meddai Andy.

”Marciau llawn i’r myfyrwyr am wrando ar ein hawgrymiadau a’n cyngor, wrth iddynt
gynhyrchu rhai prydau risotto ardderchog. Gobeithio y bydd rhai ohonynt yn dewis
dod yn gogyddion yn y diwydiant lletygarwch yng Nghymru a dilyn llwybr
prentisiaeth.”

“Fe wnaeth y disgyblion fwynhau’r gweithdai yn fawr, ac mae’n wych gallu gweithio
gydag asiantaethau yn y gymuned leol a gweithwyr proffesiynol o’r gymuned, gan
ddangos y posibiliadau sydd ar gael iddyn nhw yn y dyfodol. Diwrnod llwyddiannus a
chynhyrchiol, da iawn a diolch i bawb a gymerodd rhan,” meddai Rachel Lewis,
Pennaeth Dylunio a Thechnoleg yn Ysgol Uwchradd y Trallwng.

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi dewis Medi – a’i ben-blwydd yn 30 oed – i lansio cystadleuaeth newydd ar gyfer myfyrwyr ysgol, blynyddoedd 10 ac 11, ym Mhowys a phrentisiaid celfyddydau coginio’r cwmni.

Cynhelir dwy rownd derfynol ym Mhafiliwn Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar Faes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd ar ail ddiwrnod y Ffair Aeaf ar 25ain Tachwedd. Mae’r rowndiau terfynol yn cyd-fynd â diwrnod cyntaf rowndiau terfynol WorldSkills y DU a gynhelir gan Gymru am y tro cyntaf, a diwrnod cyntaf cofrestriadau.

Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2025/26.

“Rydym yn gobeithio bod y gystadleuaeth newydd hwn a rowndiau terfynol
WorldSkills yn annog mwy o brentisiaid dysgu seiliedig ar waith o Gwmni
Hyfforddiant Cambrian i gystadlu yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru 2026,” meddai
Faith O’brien, Rheolwr Gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Yr wythnos diwethaf, cynrychiolodd cyn-brentis Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Gabi Wilson, Tîm y DU mewn cystadlaethau coginio yn EuroSkills yn Nenmarc. Yn wreiddiol o Raeadr Gwy mae hi bellach yn gweithio yn Chapters, bwyty seren Michelin gwyrdd yn y Gelli Gandryll. Mae hi’n gobeithio myn ymlaen i ennill lle yn Dîm y DU yn WorldSkills Shanghai 2026.

Risotto challenge

Ends
I gael ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, Pennaeth Marchnata
Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555893 neu Duncan Foulkes,
cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818