Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar frig tablau llwyddiant prentisiaethau cenedlaethol

Mae darparwr dysgu seiliedig ar waith Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi mynegi balchder mewn cyrraedd brig y siartiau ar gyfer llwyddiant fframwaith prentisiaethau yng Nghymru, yn enwedig gan ei fod yn gweithio yn rhai o sectorau mwyaf heriol y wlad.

Mae’r gymeradwyaeth gadarnhaol i’r busnes yn y Trallwng, sy’n cefnogi dysgwyr a chyflogwyr ledled Cymru o’i rwydwaith o bum swyddfa, yn cael eu datgelu mewn adroddiad newydd gan Medr, y Comisiwn dros Addysg Drydyddol ac Ymchwil yng Nghymru.

Mae’r adroddiad Mesurau Deilliannau Dysgwyr ar gyfer Prentisiaethau, Awst 2024 – Gorffennaf 2025 yn dangos bod Cwmni Hyfforddiant Cambrian ar frig y siartiau gyda chyfradd llwyddiant fframwaith o 81% – i fyny o 67% yn 2022 – 2023 a 74% yn 2023 – 2024.

Yn bwysig, cyflawnwyd y llwyddiant hwn wrth weithio yn rhai o’r sectorau mwyaf heriol yng Nghymru heddiw. Mae hyn yn gynnwys lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod.

Dywed Cwmni Hyfforddiant Cambrian fod cynnal y safonau uchel yn yr amgylcheddau hyn yn gofyn am wydnwch eithriadol, ac mae’r canlyniadau’n dyst i ymroddiad dysgwyr a chyflogwyr sy’n gweithio gyda’r cwmni i gynnal rhagoriaeth o ran darparu a chyflawni.

Daeth y cwmni i’r brig ar gyfer Prentisiaethau Sylfaen (lefel 2) a Phrentisiaethau (lefel 3). O’r 580 o ddysgwyr cofrestredig, cyflawnodd 481 – neu 83% – eu Prentisiaeth Sylfaen, tra bod 479 o’r 570 o ddysgwyr – neu 84% – wedi cyflawni eu Prentisiaeth. Y cyfartaledd cenedlaethol ar gyfer y ddau oedd 78%.

Ar ôl dathlu ei ben-blwydd yn 30 oed y llynedd, cyflawnodd y cwmni’r cyfartaledd cenedlaethol o 72% ar gyfer Prentisiaethau Uwch (lefelau 4 a 5), gyda 216 o 330 o ddysgwyr yn cyflawni eu fframweithiau.

Wedi ymrwymo i ddarparu rhagoriaeth, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian wedi arloesi hyfforddiant yn y diwydiannau lletygarwch a gweithgynhyrchu bwyd a diod, wrth hefyd ehangu i ddiwydiannau arwain a rheoli, manwerthu, ac iechyd a gofal cymdeithasol.

Gan drosglwyddo i ymddiriedaeth sy’n 100% yn eiddo i’r gweithwyr y llynedd, mae gan y cwmni bellach 63 o weithwyr a naw is-gontractwr sy’n gweithio gyda mwy na 850 o gyflogwyr ledled Cymru.

“Rwy’n hynod falch bod y cwmni ar frig y tabl gyda chyfartaledd llwyddiant fframwaith rhagorol o 81% ar gyfer 2024-25,” meddai Faith O’Brien, rheolwr gyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

“Mae hwn yn gyflawniad eithriadol ac yn adlewyrchiad gwirioneddol o ymroddiad, arbenigedd, ymrwymiad a gwaith caled diwyro ein staff a’n partneriaid sy’n gweithio gyda’i gilydd fel un tîm

“Mae’r canlyniad hwn yn bwysig iawn oherwydd ei fod yn cynrychioli bywydau, gyrfaoedd, a llwyddiant dysgwyr Hyfforddiant Cambrian ledled Cymru yn y dyfodol.”

O lansio canolfannau rhagoriaeth i ddod yn gontractwr uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, mae’r cwmni’n parhau i ganolbwyntio ar rymuso unigolion, cefnogi cymunedau a gyrru addysg alwedigaethol, gynhwysol o ansawdd uchel ledled Cymru.

Mae adroddiad Medr yn dilyn canmoliaeth gan arolygwyr Estyn, a ganmolodd Gwmni Hyfforddiant Cambrian ar ei “ymgysylltiad cryf ac agos â chyflogwyr”.