Dathlu 13 mlynedd o Bartneriaeth gyda Sirius Skills

Sirius Skills

Mae Sirius Skills yn falch o gynnal partneriaeth hirsefydlog ac agos â Chwmni Hyfforddiant Cambrian (CHC). Ers 1af Awst 2012, mae’r cwmni wedi cydweithio â CHC fel is-gontractwr dibynadwy, gan ddarparu cymwysterau pwrpasol sy’n grymuso unigolion ac yn cefnogi cyflogwyr ar draws y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Gofal Plant, a Rheoli.

Mae’r cydweithrediad wedi’i adeiladu ar werthoedd a rennir, rhannu adnoddau, ac ymrwymiad i’r safonau uchaf o ganlyniadau dysgu. Trwy weithio law yn llaw â CHC, mae Sirius Skills yn gallu darparu rhaglenni prentisiaeth wedi’u teilwra sy’n diwallu anghenion dysgwyr a diwydiannau sy’n esblygu.

Fel rhan o’r bartneriaeth hon, mae Sirius Skills yn cyfrannu at gynnal a gwella’r safonau o ansawdd uchel y mae dysgwyr, cyflogwyr, a rhanddeiliaid yn eu disgwyl. Mae’r ymrwymiad hwn yn sicrhau bod datblygiad proffesiynol yn parhau, yn ystyrlon, ac yn effeithiol.

Hyfforddiant Prentisiaethau a Ddarperir gan Sirius Skills

Mae Sirius Skills yn falch o ddarparu ystod eang o gymwysterau City & Guilds, gan gefnogi dysgwyr ar bob cam o’u taith broffesiynol:

  • Gofal, Chwarae a Datblygiad Plant (Lefelau 2 – 5)
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion, Plant, a Phobl Ifanc) (Lefelau 2 – 5)
  • Arwain a Rheoli mewn Gofal (Lefelau 4 – 5)

Mae’r rhaglenni hwn wedi’u cynllunio i feithrin talent, ysbrydoli twf, a chreu effaith wirioneddol i ddysgwyr a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. 

Partneriaeth Ddibynadwy

“Ers 13 mlynedd, mae Sirius Skills wedi bod yn falch o weithio mewn partneriaeth â Hyfforddiant Cambrian. Rydym wedi adeiladu perthynas cydweithredol a dibynadwy gyda’n gilydd, sy’n ymroddedig at ddatblygu sgiliau, ysbrydoli dysgu, a chyflawni llwyddiant parhaol. Dyma cyfle i ddathlu 30 mlynedd o ragoriaeth Hyfforddiant Cambrian a’r effaith rydym wedi’i chreu ochr yn ochr â nhw,” meddai Tina Barry, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau. 

“Edrychwn ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd o gydweithio, gan barhau i yrru datblygiad proffesiynol a rhagoriaeth ymlaen ar draws y sectorau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”