Dathlodd Farmers Pantry Butchers sydd wedi’i lleoli yn Llanilltud Fawr lwyddiant yng Ngwobrau Cigyddiaeth Prydain cyntaf yn ddiweddar.
Mae’r cwmni sy’n tyfu, a enillodd Gwobr Busnes Cigyddiaeth Fawr Gorau yng Nghymru, yn gweithredu tair siop annibynnol – gydag un arall i agor yn fuan – a phedwar lleoliad masnachfraint o fewn canolfannau garddio ledled De Cymru. Mae’r cwmni hefyd yn rheoli siop ar-lein, busnesau arlwyo digwyddiadau, a chyfanwerthu.
Noddwyd y categorïau Cymru gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian sydd wedi’i lleoli yn y Trallwng. Maent yn un o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith mwyaf blaenllaw yng Nghymru sy’n darparu prentisiaethau cigyddiaeth, gweithgynhyrchu bwyd a diod, lletygarwch, a rheoli.
Cafwyd y Farmers Pantry Butchers ei sefydlu yn 2012, ac maent wedi ymrwymo at ddarparu cig o ansawdd uchel sy’n gynaliadwy ac olrheiniadwy, ac yn hyrwyddwyr brwd dros arferion ffermio moesegol.
Mae’r cwmni’n ymfalchïo mewn cynhyrchu bwyd iach, naturiol sy’n warchod yr amgylchedd cyfagos ar hyd arfordir prydferth Bro Morgannwg. Wrth i’r galw am gynnyrch cynaliadwy, eithriadol cynyddu, mae’r cwmni wedi datblygu partneriaethau llwyddiannus gyda ffermwyr a chyflenwyr o’r un anian sy’n rhannu eu gwerthoedd.
Symudodd perchnogion y Farmers Pantry, Rhodri a Gaynor Davies, i Rosedew Farm, Llanilltud Fawr ym 1995, pan oedd y prif ffocws ar wartheg, llysiau, a chynnyrch âr.
Dros y blynyddoedd, mae’r fferm wedi esblygu i fod yn enghraifft bennaf o amrywiaeth, gan ymestyn i’r sectorau twristiaeth, priodas, ac ailgylchu/biomas.
Mae’r cwpl yn parhau â’u gwreiddiau cadarn mewn treftadaeth ffermio ac mae’r fferm yn cynhyrchu amrywiaeth o gynnyrch, gan gynnwys tatws, betysen porthiant a gwenith, sy’n hanfodol ar gyfer maethu ei wartheg a’i defaid.
Mae Farmers Pantry Butchers hefyd wedi ymrwymo i hyfforddi a datblygu eu gweithlu drwy brentisiaethau, a darperir gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.
Mae’r cwmni bellach ag wyth dysgwr – pump sy’n gweithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Hyfedredd mewn Cigyddiaeth a Phrosesu Cig gyda’r swyddog hyfforddi Craig Holly, dau sy’n ceisio Prentisiaeth Uwch (Lefel 4) mewn Rheoli ac un yn ceisio Prentisiaeth (Lefel 3) mewn Rheoli, a ddarperir gan y swyddog hyfforddi Dee Rogers.
Wrth ymateb i’r wobr, dywedodd Rhodri Davies, perchennog a sefydlwr Farmers Pantry:
“Mae’r wobr hwn wedi dod ar adeg wych i ni, gan ein bod ar fin agor ein wythfed lleoliad Farmers Pantry, gan gynnwys pedwar o fewn canolfannau garddio.”
“Rydym hefyd yn dathlu 30 mlynedd ers i Gaynor a minnau symud i Lanilltud Fawr ym 1995 i ddechrau ein taith yn Rosedew Farm. Mae’n dyst i’r gwaith caled a chyfraniad aelodau ein tîm dros y blynyddoedd.”
Dywedodd Dawie Beyers, Rheolwr Gweithrediadau:
“Fel tîm, rydym wedi gweithio’n anhygoel o galed dros y 14 mlynedd diwethaf i ddarparu profiad siop cigydd gwych a hyrwyddo cynnyrch lleol.”
“Wrth weithio yn Rosedew Farm, rydym wedi gallu harneisio ein gwybodaeth o gig a’n hangerdd dros fagu cynaliadwyedd, anifeiliaid sy’n cael gofal da, ac rydym wedi bod yn ffodus i rannu hyn gyda phobl De Cymru.”
“Ein nod oedd rhoi cynnyrch Cymreig ar blatiau ein cymunedau lleol, a bydd hyn pob amser ein nod. Mae ennill y wobr hon yn dilysu’r gwaith caled hwnnw. Diolch i’r tîm sydd wedi gweithio mor galed i gyflawni hyn.”
Wrth sôn am y cyfraniad a wnaed gan brentisiaid i’r busnes, dywedodd: “Mae’n hanfodol i ni fel busnes fuddsoddi yn ein staff, yn enwedig trwy brentisiaethau sy’n cryfhau eu dysgu a’u sgiliau, a helpu i sicrhau dyfodol a thwf Farmers Pantry.”
“Mae Hyfforddiant Cambrian wedi ein cefnogi drwy gydol y broses hon ac edrychwn ymlaen at weithio gyda’n gilydd dros y blynyddoedd sydd i ddod.”
Y cigyddion eraill o Gymru a gydnabuwyd fel Cigyddion Mawr Gymru a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Neil Powell Master Butchers, sydd â chwe siop ar draws Sir Fynwy a Swydd Henffordd, a Prendergast Butchers, Hwlffordd.
Enillydd Gwobr Cigydd Bach oedd F. E. Richards, Crucywel, a’r siop cigydd a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd Tuckers Butchers, Y Mwmbwls.
Cyflwynwyd y gwobrau Cigyddiaeth Cymru gan Mark Hughes, pennaeth yr uned fusnes gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian.
“Cawsom y fraint o noddi categorïau Cymru yng Ngwobrau Cigyddiaeth Prydain gyntaf, ac mae’n braf i weld cigyddion o Gymru yn cael eu cydnabod am eu crefft fedrus,” meddai.
“Mae’n arbennig o braf i nodi ein bod yn darparu prentisiaethau i bawb ond un o’r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol, ac rydym yn gobeithio bod hyn wedi cyfrannu at eu llwyddiant. Llongyfarchiadau i’r holl fusnesau a gyrhaeddodd y rownd derfynol, ond yn enwedig i Farmers Pantry Butchers a F. E. Richards am eu gwobrau.”
Mark Hughes o’r noddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian (chwith) gyda Rhodri Davies a Dawie Beyers o Farmers Pantry Butchers, enillwyr Gwobr Busnes Cigyddiaeth Fawr Gorau yng Nghymru a Phil Vickery, MBE.
Mark Hughes o’r noddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian (chwith) gyda Jason Young, Louise Maxwell-Young, a Lee Naylor o F. E. Richards, Crucywel, enillwyr Gwobr Busnes Cigyddiaeth Fach Gorau yng Nghymru a phil Vickery, MBE.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, pennaeth marchnata yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 578531, Dawie Beyers, rheolwr gweithrediadau yn Farmers Pantry Butchers, ar Ffôn: 01446 790559, neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818 neu 07779 785451