Cafodd cyflawniadau prentisiaid, cyflogwyr, ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith o ledled Cymru eu dathlu mewn seremoni wobrwyo yng Nghanolbarth Cymru.
Cystadlodd 27 unigolyn am y Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, darparwr mwyaf blaenllaw dysgu seiliedig ar waith yng Nghymru. Roedd y gwobrau mawreddog, a gynhelir yn y Metropole Hotel & Spa, Llandrindod, yn gydnabod cyflogwyr, dysgwyr ac ymarferwyr sydd wedi rhagori yn eu rhaglenni prentisiaethau a darperir gan y cwmni sydd wedi’i leoli yn y Trallwng a’i isgontractwyr. Un enillydd poblogaidd oedd prentis awtistaidd Aaron Jones, gweinydd ym Mhenycae Inn, Penycae, ger Abertawe, a derbyniodd cymeradwyaeth mawr ar ôl derbyn Gwobr Cydnabydd.
“Wrth dderbyn y wobr arbennig hon, rwy’n hynod o falch ac am ddiolch i bob unigolyn yn y gynulleidfa ond uwchlaw pob dim i’n cydweithwyr ym Mhenycae Inn, a’r rheiny sydd ag awtistiaeth ac anghenion dysgu dwys,” meddai wrth y gynulleidfa.
“Fel person gydag awtistiaeth sy’n gweithio yn y diwydiant lletygarwch, mae’r wobr hwn yn golygu cymaint i mi. Dylai unrhyw un sydd ag anabledd dysgu neu gorfforol sy’n ystyried gwneud prentisiaeth cer amdani.”
Fe ganmolodd swyddog hyfforddi lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian Andrew Addis-Fuller a Leah Williams am eu cymorth a’u hanogaeth i gyflawni ei nodau, sy’n gynnwys cwblhau ei Brentisiaeth Arwain a Goruchwylio Lletygarwch yn gynnar blwyddyn nesaf.
Prentis Sylfaen y Flwyddyn oedd Cameron Long, Gweithiwr Gwasanaethau Cymorth Glanhau yn Elite Clothing Solutions, Glynebwy, sydd wedi cwblhau Prentisiaeth a Rennir â Chymorth gyda chefnogaeth gan ELITE Supported Employment.
Prentis y Flwyddyn oedd Cai Watkins, Pennaeth yr Uned Busnes: Rheolwr Contractau yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, y Trallwng, ac aeth y wobr Prentis Uwch y Flwyddyn i Matthew Verallo, rheolwr gweithrediadau yn Nhŷ Milford Waterfront y Celtic Collection, Aberdaugleddau.
Cafod y wobr i gyflogwyr eu cystadlu’n frwd. Cyflogwr Bach y Flwyddyn oedd Silver Assist Homecare, Llangorse, Aberhonddu. Casglodd Filco Markets, Llanilltud Fawr, gwobr Cyflogwr Canolig y Flwyddyn a enwyd Achieve Together, Caerdydd, yn Gyflogwr Mawr y Flwyddyn.
Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn oedd Denise Hodson, gweithiwr chwarae yn Little Disciples Childcare, Penymynydd, Sir y Fflint, a Llysgennad Cymraeg y Flwyddyn oedd Phoebe Wilson, prif swyddog hyfforddi yng Nghlybiau Plant Cymru Kids’ Club, Caerdydd.
Ymarferydd y Flwyddyn oedd Elfed Wood, o Portal Training, Caerdydd. Aeth y Gydnabyddiaeth Arbennig i Gyflogwr i’r Grove, Arberth, a chydnabuwyd Kepak, Merthyr Tudful am ei Gyfraniad Rhagorol i Brentisiaethau.
“Ymhlith ein henillwyr a’r unigolion a gyrhaeddodd y rownd derfynol mae straeon ysbrydoledig o dwf personol a datblygu proffesiynol,” meddi Faith O’Brien, rheolwr cyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian.
Roedd y seremoni wobrwyo eleni yn dyst i ymroddiad, angerdd a gwaith caled ein prentisiaid, cyflogwyr a chefnogwyr. O wobrau Prentis y Flwyddyn i gydnabyddiaeth cyflogwyr ac unigolion rhagorol, mae pob gwobr yn adlewyrchu pŵer trawsnewidiol prentisiaethau wrth lunio gyrfaoedd a chymunedau.
“Gadewch i ni barhau i gefnogi a hyrwyddo addysg alwedigaethol. Gyda’n gilydd, gallwn greu dyfodol lle mae gan bob unigolyn y cyfle i ffynnu trwy ddysgu a datblygu.”
Yr unigolion arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol oedd:
Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Josh Williams, derbynnydd yn Whitbread Premier Inn, Bangor, a Leanne Barratt, cogydd ym Mitchells & Butlers’ Miller & Carter, Cilâ.
Prentis y Flwyddyn: Deanne Rance, rheolwr ardal ym McDonalds Lonetree, Casnewydd, a Jodie Bowater, rheolwr gwesty Whitbread Premier Inn, Bangor. Prentis Uwch y Flwyddyn: Ashley Richards; rheolwr cyffredinol yn Peppermint Caerdydd, a Keri-Ann Evans, prif gogydd yn Bluestone, Arberth.
Unigolyn Rhagorol y Flwyddyn: Rachael Bowls, arweinydd tîm yr ystafell cyfuno yn Hilltop Honey, y Drenewydd, ac Aaron Jones, gweinydd ym Mhenycae Inn, Penycae, ger Abertawe.
Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Nazareth House, Caerdydd, a Interplay, Penlan, Abertawe.
Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: Voco St David’s Caerdydd, a’r Grove, Arberth. Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Kepak, Merthyr Tudful, ac Urdd Gobaith Cymru.
Lysgennad Cymraeg y Flwyddyn: Catherine Smith, Swyddog Hyfforddi yng Nghlybiau Plan Cymru Kids’ Club, a Samantha James, rheolwr bwyty ym Millie & Sid’s, Tywyn.
Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith: Sean Williams o Sirius Skills Consulting, Aberpennar, a Sarah Bird o Glybiau Plant Cymru Kids’ Club, Caerdydd.
Disgrifiad llun: Enillwyr y Gwobrau Prentisiaethau, Cyflogaeth a Sgiliau a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian.