Mae darparwr dysgu seiliedig ar waith blaenllaw, Cwmni Hyfforddiant Cambrian, yn dathlu Diwrnod Shwmae drwy dynnu sylw at ei ymrwymiad i ddwyieithrwydd a phŵer trawsnewidiol prentisiaethau.
Mae’r cwmni o’r Trallwng yn defnyddio Diwrnod Shwmae, sy’n dathlu ac yn hyrwyddo’r Gymraeg, ar 15 Hydref i dynnu sylw at daith ddysgu un o’i weithwyr, Manon Rosser, swyddog cymorth y Gymraeg a chyfathrebu.
Mae taith Manon yn dyst i sut y gall angerdd, cyfle, a dysgu seiliedig ar waith ddod at ei gilydd i lunio gyrfa ystyrlon.
Wedi’i magu mewn gartref Saesneg ei iaith, Manon a’i brawd a’i chwaer oedd yr unig siaradwyr Cymraeg yn eu teulu, diolch i addysg cyfrwng Cymraeg a sbardunodd gysylltiad gydol oes â’r iaith.
Fe wnaeth y cysylltiad hwnnw dyfnhau yn ystod ei hastudiaethau prifysgol mewn Gwleidyddiaeth a Hanes, a gwblhaodd yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ar ôl graddio, dechreuodd Manon weithio mewn caffi lleol, lle datblygodd hyder a sgiliau cyfathrebu a fyddai’n amhrisiadwy yn ddiweddarach.
Ymunodd â Hyfforddiant Cambrian mewn rôl gymorth, gan fewnbynnu data a chynnal dyletswyddau’r dderbynfa. “Roedd yn un o’r ffyrdd gorau i mi ddechrau dysgu beth mae’r cwmni yn ei wneud,” meddai.
Daeth ei rhuglder yn y Gymraeg yn ased allweddol yn gyflym. Pan ofynnwyd i gynorthwyo gyda thasgau cyfieithu, daeth yn amlwg bod ganddi ddawn naturiol – un a’i harweiniodd at ddilyn Prentisiaeth Cyfieithu Lefel 4 Agored Cymru gyda Choleg Gwyr Abertawe.
Cambrian Training Company 30th Anniversary Celebrations in Welshpool.
Picture by Phil Blagg Photography.
PB148-2025
“Roedd y brentisiaeth yn agoriad llygad i mi,” meddai Manon. “Roedd yn gynnwys popeth o foeseg i amrywiad iaith i reoli comisiynau cyfieithu a gwella perfformiad.”
Esblygodd rôl Manon yn gyflym iawn. Ymunodd â’r tîm marchnata, lle dysgodd sgiliau dylunio a dechreuodd hyrwyddo mentrau Cymraeg. Yn ddiweddarach, daeth yn Hyrwyddwr Iechyd Meddwl ac enillodd ei thystysgrif Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl.
Gan ei bod yn siaradwr Cymraeg rhugl, mae hi’n deall sut y gall iaith cynorthwyo neu rwystro trafodaethau am iechyd meddwl. Defnyddiodd ei sgiliau a’i gwybodaeth newydd i greu adnoddau dwyieithog sy’n cefnogi lles dysgwyr.
Yn ei rôl, mae Manon bellach yn arwain cyfraniadau dwyieithog Hyfforddiant Cambrian. Mae ei gwaith yn cynnwys: cynhyrchu cylchlythyr chwarterol Cymraeg; darparu hyfforddiant i annog dysgu Cymraeg ar draws y busnes; creu adnoddau dwyieithog; hyrwyddo gwobr llysgennad Cymraeg CHC, a gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf yn y cwmni ar gyfer cefnogaeth Gymraeg.
Mae Manon hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i annog dysgwyr i ddod yn llysgenhadon Cymraeg. Arweiniodd ei phrofiad ei hun fel Llysgennad Prentisiaethau at gydnabyddiaeth genedlaethol, gan gynnwys ymddangos ar Brynhawn Da ar S4C yn ystod Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau.
“Mae astudio a chwblhau fy Mhrentisiaeth Uwch (Lefel 4) yn llwyddiannus wedi agor cymaint o ddrysau i mi,” meddai Manon. “Mae wedi rhoi hwb i’m hyder ac wedi helpu mi i wneud effaith go iawn yn fy swydd.”
Yn falch o hyrwyddo dwyieithrwydd yn y gweithle, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn parhau i gefnogi dysgwyr a staff i ddatblygu sgiliau Cymraeg. Trwy hyn anelwn at gryfhau cymunedau a chyfrannu at nod Llywodraeth Gymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 20250.
Gan nodi Diwrnod Shwmae, dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Hyfforddiant Cambrian, Faith O’Brien: “Rydym yn falch o hyrwyddo’r Gymraeg ar draws ein sefydliad – o fewn ein gweithlu, gyda’n dysgwyr, ac mewn partneriaeth â chyflogwyr.
“Trwy greu cyfleoedd ystyrlon i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg, rydym yn cefnogi datblygiad unigolion, yn cryfhau diwylliant yn y gweithle, ac yn cyfrannu at Gymru sy’n wirioneddol ddwyieithog. Mae iaith yn rym pwerus ar gyfer cynhwysiant, hunaniaeth, a chymuned, ac rydym wedi ymrwymo i’w gwneud yn weladwy, yn hygyrch, ac wedi’i ddathlu ym mhob rhan o’n gwaith.”
Ar Ddiwrnod Shwmae, mae’r cwmni’n gwahodd pawb i ddweud “Shwmae!” a dathlu cyfoeth y Gymraeg oherwydd mae pob gair yn cyfrif wrth adeiladu Cymru ddwyieithog.
I gael rhagor o wybodaeth am fentrau Cymraeg neu gyfleoedd prentisiaethau yn Hyfforddiant Cambrian, ewch i www.cambriantraining.com neu ffoniwch 01938 555 893.