Cafodd cerrig filltir yn nheithiau dysgu mwy na 100 o brentisiaid Cymreig eu dathlu mewn seremoni graddio prentisiaethau yng Nghanolbarth Cymru.
Teithiodd prentisiaid o ledled Cymru i fynychu’r seremoni raddio chwe-misol a drefnwyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’i isgontractwyr ar Faes y Sioe Frenhinol, Llanelwedd.
Fe wnaeth rheolwr cyfarwyddwr Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Faith O’Brien, llongyfarch y rhai a raddiodd, ond pwysleisiodd: “Cofiwch y diwrnod hwn fel carreg filltir, ond nid y gyrchfan. Mae’r sgiliau rydych wedi’u hennill trwy eich prentisiaeth yn offer; sut byddwch yn eu defnyddio, eu siapio, ac arloesi gyda nhw yn dibynnu arnoch chi.
“Wrth i chi symud ymlaen, cadwch ysbryd dysgu yn fyw, croesawu heriau, a chofiwch fod pob profiad, da neu ddrwg, yn gam agosach at yr unigolyn proffesiynol rydych am fod.
“Mae prentisiaethau’n agor drysau i bawb, gan ganiatáu i unigolion cael mynediad at yrfaoedd maen nhw’n eu dymuno. Maent hefyd yn helpu busnesau i adeiladu’r gweithlu medrus maen nhw angen, gan brofi nad yw dysgu wedi’i gyfyngu i ystafelloedd dosbarth yn unig – mae’n ymwneud ag ennill profiad o’r byd go iawn.
“Mae pob prentis unigol wedi profi y gall unrhyw un greu eu llwybr eu hunain at lwyddiant, gyda phenderfyniad, dyhead a’r arweiniad cywir. Rydym am floeddio eich cyflawniadau o’r to.”
Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn un o ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith mwyaf blaenllaw yng Nghymru, gan ddarparu prentisiaethau ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mae’r sectorau a weithredir ynddi gan y cwmni a’i bartneriaid yn cynnwys lletygarwch, gweithgynhyrchu bwyd a diod, arwain a rheoli, rheoli adnoddau cynaliadwy, iechyd a gofal cymdeithasol a thrin gwallt.
Datgelodd Faith fod mwy na 480 o ddysgwyr y cwmni wedi cwblhau eu fframweithiau yn llwyddiannus dros y chwe mis diwethaf.
Fe wnaeth hi ddiolch yr hyfforddwyr a mentoriaid a oedd wedi cyfrannu at lwyddiant y dysgwyr graddedig, a phartneriaid, rhanddeiliaid a chyflogwyr y cwmni am eu “cefnogaeth ddiysgog”.
“Mae eich cymorth a’ch arbenigedd wedi bod yn gonglfaen o lwyddiant y prentisiaid hyn,” meddai. “Nid yn unig ydych chi wedi rhannu eich gwybodaeth ond hefyd wedi cryfhau hyder a chred ym mhob prentis.
“Mae ein cydweithrediad yn sicrhau bod y sgiliau y mae ein prentisiaid yn eu hennill yn berthnasol ac yn union yr hyn sydd ei hangen ar ein diwydiannau sy’n datblygu.”
Un o’r graddedigion eleni oedd Lowri Milson, 23, o Benclawdd. Gan weithio gyda Chwmni Hyfforddiant Cambrian ac Elite, hi oedd un o’u dysgwyr cyntaf i gwblhau Prentisiaeth Sylfaen mewn Gwasanaethau Lletygarwch ar y rhaglen Prentisiaethau a Rennir â Chymorth, a grëwyd ar gyfer prentisiaid sydd ag anghenion dysgu.
Mae Lowri, sy’n gwirfoddoli mewn caffis ym Mhenlle’r-gaer a Dyfnant, yn awyddus i sicrhau swydd yn gweithio mewn bar. Cafodd gefnogaeth i gyflawni ei phrentisiaeth gan swyddog hyfforddi lletygarwch Cwmni Hyfforddiant Cambrian, Andrew Addis-Fuller, sydd wedi dweud ei fod yn falch o’i gyflawniadau.
“Mae Lowri yn unigolyn nodedig a oedd yn swil iawn pan gwrddais â hi am y tro cyntaf,” meddai. “Datblygodd ei hyder mor gyflym fel ei bod yn fuan yn gallu gweithio ar ei phen ei hun yn ystod cyfnodau prysur. Rwy’n mor falch ohoni.”
Dywedodd Lowri: “Mae graddio heddiw yn golygu fy mod wedi cyflawni rhywbeth arbennig yn fy mywyd ac rwyf am barhau i ddysgu. Rwyf am ddychwelyd i waith bar yn y dyfodol oherwydd rwyf yn mwynhau cwrdd â phobl newydd a rhyngweithio â chwsmeriaid.
Cambrian Training Company Graduations June 2025.
Picture by Phil Blagg Photography.
PB084-2025
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Alison Collingridge, Pennaeth Marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffon: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, Ymgynghorydd Cysylltiadau Cyhoeddus, ar Ffon: 01686 650818.