O’r Ysgol i Yrfa: Ysbrydoli’r genhedlaeth Nesaf o Dalent Lletygarwch yng Nghymru

Andy Addis Fuller and Jobe at Caereinion HS

Yng Nghwmni Hyfforddiant Cambrian, rydym wedi ymrwymo i helpu pobl ifanc ledled Cymru i ddarganfod llwybrau gyrfa ystyrlon trwy brofiadau dysgu ymarferol a diddorol.

Fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru, cyflwynodd ein tîm hyfforddi lletygarwch weithdai coginio rhyngweithiol yn Ysgol Bro Caereinion Cyfnod Uwchradd. Roedd yn gyfle i ddisgyblion oed 13-16 i ddatblygu sgiliau cegin go iawn ac archwilio byd ehangach gyrfaoedd lletygarwch.

Cyflwynodd y sesiynau prydau Cymreig fel bara soda, cawl llysiau a Chaws Pob Cymreig. Ond yn bwysicach fyth, roedden nhw’n rhoi mewnwelediad i ddiogelwch bwyd, technegau paratoi, gwaith tîm a’r safonau proffesiynol a ddisgwylir yn y diwydiant.

Dyluniwyd y gweithdai nid yn unig fel arddangosiadau coginio, ond fel cyswllt rhwng addysg a chyflogaeth, gan helpu disgyblion i ddeall sut y gall pynciau a astudiwyd yn yr ysgol trosglwyddo i yrfaoedd gwerth chweil.

Mae lletygarwch yn un o ddiwydiannau mwyaf bywiog a hygyrch yng Nghymru, gan gynnig llwybrau prentisiaeth strwythuredig, cymwysterau a gydnabyddir yn genedlaethol a chynnydd hir dymor i rolau goruchwylio a rheoli. I lawer o bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n ffynnu mewn amgylcheddau ymarferol, gall y llwybr hwn rhoi hyder, annibyniaeth a chyfeiriad clir ar ôl gadael yr ysgol.

Er mwyn ymestyn effaith y gweithdai y tu hwnt i un ysgol, mae’r sesiynau wedi’u ffilmio’n broffesiynol a bydd yn cael eu datblygu i greu adnoddau dysgu a fydd yn cael ei rannu ag ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Bydd y fideo sgiliau coginio hwn yn cefnogi Technoleg Bwyd ac addysg am yrfaoedd, gan gynnig ffordd ddifyr i athrawon gyflwyno prentisiaethau lletygarwch a chyfleoedd hyfforddiant galwedigaethol i’w disgyblion.

Trwy sicrhau bod yr adnodd hwn ar gael yn eang, nod Cwmni Hyfforddiant Cambrian yw cefnogi ysgolion i gryfhau eu darpariaeth gyrfaoedd galwedigaethol wrth sicrhau bod dysgwyr a rhieni yn derbyn gwybodaeth ddigonol am opsiynau prentisiaethau yng Nghymru.

I rieni sy’n ystyried llwybrau ôl-16 gyda’u plant, mae prentisiaethau mewn lletygarwch yn rhoi cyfle i ennill cyflog wrth ddysgu, ennill profiad yn y diwydiant, cymryd y cam cyntaf ar yr ysgol yrfa, a chyflawni cymwysterau cydnabyddedig. Gyda phartneriaethau cryf â chyflogwyr ledled Cymru, mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn gweithio’n agos gyda busnesau i sicrhau bod prentisiaid yn derbyn hyfforddiant o ansawdd uchel sy’n cyd-fynd â disgwyliadau gwirioneddol yn y gweithle.

Rydym yn gwahodd ysgolion uwchradd, addysgwyr a theuluoedd a hoffai gwybod mwy am brentisiaethau dysgu seiliedig ar waith ym maes lletygarwch ar draws Cymru i gysylltu â Chwmni Hyfforddiant Cambrian. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn barhau i ysbrydoli cenhedlaeth nesaf Cymru o gogyddion, gweithwyr proffesiynol lletygarwch ac arweinwyr y diwydiant.