Jordan Davies – Ei daith hyd yn hyn…
Mae Jordan, sy’n byw yn Aberpennar, yn gweithio yn Newis ym Mhontypridd ac mae’n rhan o’r llwybr Prentisiaethau a Rennir â Chymorth. Mae’n ymgymryd â Phrentisiaeth Lefel 2 mewn Gweinyddu Busnes. Cafodd ddiagnosis o Syndrom Asperger pan oedd yn bedair mlwydd oed. Mae’n mwynhau ei swydd gan ei fod yn dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd ar yr un pryd. Dywedodd bod ei gydweithwyr yn gefnogol ac amyneddgar iawn pan oedd yn newydd i’r rôl ac yn dysgu beth oedd angen iddo ei wneud.
Dywedodd Jade Jones, rheolwr llinell Jordan: “Daeth Jordan i Dewis Centre for Independent Living drwy’r rhaglen ‘Prentisiaethau a Rennir â Chymorth’. Mae Jordan yn aelod o staff positif, cwrtais a chymwynasgar ac mae wedi goresgyn ei bryderon cychwynnol am ei rôl newydd trwy ddeall bod ei gydweithwyr yn hapus i’w gefnogi, os oes eu hangen arno. Mae wedi ymgartrefu’n dda iawn ac mae bellach yn gymwys yn y tasgau a ymddiriedwyd iddo ac mae ei hyder yn ei waith a gyda’i gydweithwyr wedi tyfu.”
Esboniodd Jordan: “Cymerodd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Debbie Lovatt) o Gwmni Hyfforddiant Cambrian a’r hyfforddwr swyddi (Lauren Harris) yn Elite yr amser i ddysgu amdanaf a beth oedd fy anghenion penodol yn ystod ac ar ôl cyfarfod. Maen nhw wedi dod o hyd i amrywiaeth o ddulliau sydd wedi helpu fi i lwyddo. Trafodais fod angen help wrth esbonio pynciau a thestunau penodol i mi, drwy esbonio mewn ffordd glir a chryno neu drwy ail-eirio. Wrth ateb cwestiynau benodol, efallai bod angen ychydig mwy o anogaeth er mwyn i mi ddeall beth mae’r cwestiwn yn ofyn. Soniais hefyd gallai fod angen llawer o amynedd os dw i ddim yn siŵr o rywbeth gan fy mod weithiau’n wedi fy rhwystro os dw i ddim yn deall. Yna datblygwyd ‘Cynllun Datblygu Personol’ (CDP) i helpu’r swyddogion hyfforddi i’m cefnogi.”
Aeth ymlaen i ddweud: “Rwy’n teimlo’n falch iawn ac yn falch o’r gefnogaeth a’r amynedd dwi wedi derbyn gan Swyddogion Hyfforddiant Cambrian (Jonathan Hewitt a Claire Morris) yr holl ffordd trwy fy astudiaethau prentisiaeth. Os dydw i ddim yn deall y cwestiwn neu’r pwnc, does dim unrhyw bwysau yn cael ei roi arnaf o gwbl. Efallai bydd yn cymryd sawl munud i mi ddeall pethau weithiau ond yn bendant mae yna lawer o amynedd ac egluro ynghlwm. Mae’r swyddogion hyfforddi yn egluro cwestiynau a phynciau penodol yn seiliedig ar eu gwybodaeth a’u profiad eu hunain, sy’n bendant yn helpu mi i ddeall yn well ac maen nhw’n gwneud hi’n ddiddorol iawn ac yn berthnasol i’r rôl rwy’n gwneud yn y swyddfa hefyd.”
Mae Jordan yn credu bod yr ymchwil y mae wedi bod yn ei wneud er mwyn cwblhau’r unedau prentisiaeth wedi rhoi mwy o wybodaeth a dealltwriaeth iddo wrth weithio o fewn yr amgylchedd busnes. Mae’n mynd ymlaen i ddweud:
“Ro’n i’n ansicr am lawer o bethau pan ddechreuais weithio yn ‘Dewis Independent Living’ am y tro cyntaf, ac erbyn hyn mae gen i ddealltwriaeth well o dasgau swyddfa benodol sydd wedi gwneud i mi deimlo’n fwy cyfforddus a brwdfrydig wrth weithio yn y swyddfa a rwy’n teimlo’n fwy hyderus wrth gwblhau mwy o dasgau.”
“Byddwn yn argymell llwybr prentisiaeth i unrhyw un ag anghenion dysgu neu anabledd gan fy mod wedi canfod bod CHC yn hynod gefnogol yn y gefnogaeth a’r arweiniad y maent yn eu rhoi ar waith i mi. Mae’n ffordd wych i bobl ddechrau gyrfa newydd. Hefyd, mae’n ffordd wych o adeiladu a datblygu sgiliau dysgu a hyder. Mae’r cymorth, y gefnogaeth, y ddealltwriaeth a’r hyfforddiant gan Aseswyr Hyfforddiant Cambrian a’r cydweithwyr a’r rheolwyr o Dewis yn sicr heb ei ail, – yn enwedig pan fyddant yn gweithio mor galed i gael cyflogwyr / dysgwyr i lwyddo. Rwyf hefyd yn teimlo bod gan bob un ohonynt wybodaeth, profiad a dealltwriaeth ragorol gydag unigolion sydd ag ystod o anghenion dysgu ychwanegol.”
Yn olaf, eglurodd y cyflogwr: “Hoffai Dewis fynegi pa mor falch ydym o gael y math hwn o raglen ar gael i ni gan ein bod yn gwerthfawrogi’r holl bobl rydym yn eu cyflogi, ond mae’n wych bod yn rhan o raglen sy’n helpu ac yn rhoi sgiliau newydd i bobl ag anableddau neu gyfyngiadau yn eu bywydau. Maent yn cael effaith fawr ar ein busnes yn ogystal â defnyddwyr ein gwasanaethau. Rydym yn gobeithio y gallwn barhau i weithio gyda’r rhaglen hon i roi’r un cyfleoedd i eraill.”