5 Adduned Blwyddyn Newydd i helpu’ch Iechyd Meddwl

Wrth i ni fwrw i mewn i’r Flwyddyn Newydd, mae’n amser delfrydol i stopio am ennyd a dechrau 2020 gyda meddylfryd iach.

Dyma rai cynghorion ar sut gallwch ganolbwyntio ar eich lles seicolegol.

1. Cadw diet iach. Mae bwydydd sy’n gyfoethog mewn fitaminau a maetholion yn wych i’ch corff ond maen nhw’n cael effeithiau cadarnhaol ar eich lles meddyliol hefyd. Mae’r ymchwil hyd yn oed yn awgrymu y gall bwydydd gyda lefelau uchel o asid ffolig (sbigoglys ac afocado) wella’ch hwyliau a gostwng gorbryder.

2. Mae’n syml, ond cysgwch ddigon. Mae cysgu cyn bwysiced i’n corff â bwyta, yfed ac anadlu, mae’n eich galluogi i wella o flinder corfforol. Ceisiwch gyfyngu ar gaffein, siwgr ac alcohol, yn enwedig cyn gwely, gan fod y sylweddau hyn yn eich gwneud chi’n bryderus, ac yn y pen draw yn eich atal rhag mynd i gysgu.

3. Gwnewch ymarfer corff yn rheolaidd. Mae ymarfer corff yn rhoi hwb i'r “cemegau hapus” yn yr ymennydd, sy’n cael eu hadnabod fel endorffinau. Nid oes rhaid i chi wneud oriau yn y gampfa, dim ond gwneud ymdrech i gymryd rhan mewn rhyw fath o ymarfer corff bob dydd, hyd yn oed os mai dim ond cerdded y ci ydyw!

4. Peidiwch â chael eich tynnu i lawr gan ‘Ddiflastod Mis Ionawr’. Chwiliwch am ffyrdd o ymladd yn erbyn diflastod nosweithiau tywyll y gaeaf, a all wneud ichi deimlo fel gaeafgysgu yn eich cartref ac ynysu’ch hun. Ewch allan…p’un ai i ymuno â chlwb chwaraeon neu er mwyn dal i fyny gyda’ch ffrindiau bob wythnos!

5. Gwnewch amser i ofalu am eich hun. Neilltuwch amser bob wythnos neu bob dydd i fwynhau ychydig o amser i chi’ch hun. O bobi, i ddarllen…i hyd yn oed cymryd munud neu ddau i leithio bob nos, caiff ymlacio a chydbwysedd eu hanghofio’n gyflym pan fydd bywyd yn brysur.

Os ydych chi’n cael trafferth gyda phroblem iechyd meddwl, dyma ddolen i ambell sefydliad a gwasanaeth sy’n cynnig help a chymorth uniongyrchol: https://www.mentalhealth.org.uk/your-
mental-health/getting-help