5 Prif Awgrym ar gyfer Aros yn Ddiogel Ar-lein

 

1. Cyfyngwch eich gwybodaeth bersonol. – Byddwch yn ofalus ynghylch yr hyn rydych chi’n ei bostio, oherwydd gallech fod yn datgelu manylion personol pwysig amdanoch chi eich hun, a allai gael eu camddefnyddio gan sgamwyr.

2. Gwiriwch eich gosodiadau preifatrwydd yn rheolaidd, gan nad oes angen i ddarpar Gyflogwyr neu Gwsmeriaid wybod eich statws perthynas bersonol na’ch cyfeiriad cartref! Cofio… allwch chi byth fod yn siŵr ynghylch pwy rydych chi’n cwrdd â nhw ar-lein.

3. Byddwch yn ofalus wrth agor negeseuon e-byst ac wrth glicio ar ddolenni gan sefydliadau dydych chi ddim wedi cysylltu â nhw eich hunan. – Ewch yn ôl i borwyr rhyngrwyd adnabyddus fel Google os ydych chi’n chwilio am wefan. Os ydych chi’n siopa ar y rhyngrwyd, chwiliwch am y symbol clo clap wrth ymyl cyfeiriad y wefan. Cofiwch logio allan pan fyddwch chi wedi gorffen.

4. Defnyddiwch gyfrineiriau cryf. Mae pobl yn tueddu defnyddio cyfrineiriau sy’n hawdd eu cofio, e.e. “123456” neu “gyfrinair” sy’n hawdd i seiberladron ei ddyfalu. Dylai cyfrinair cryf fod yn unigryw ac yn gymhleth. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn awgrymu defnyddio tri gair ar hap wedi’u rhoi at ei gilydd e.e. wallbananapen.

5. Byddwch yn ymwybodol o “newyddion ffug”. – Bydd rhai safleoedd yn hyrwyddo newyddion ffug yn rheolaidd gyda bwriadau negyddol e.e. i radicalaleiddio pobl. Radicaleiddio yw’r broses lle mae rhywun yn dechrau cael safbwyntiau gwleidyddol, cymdeithasol neu grefyddol eithafol.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ynghylch aros yn ddiogel ar-lein yma: https://www.ncsc.gov.uk/