Bydd Tom yn gwneud hanes yn y digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru

Bydd Tom Cave yn teithio ychydig filltiroedd i lawr yr arfordir o’i dref enedigol Aberdyfi y penwythnos hwn i dref glan môr fwy deheuol Aberystwyth ar gyfer Rali Bae Ceredigion Get Connected cyntaf ar ddydd Sul (Medi 8).

Y digwyddiad hwn yw’r rali gyntaf erioed i’w chynnal ar ffyrdd cyhoeddus caeedig yng Nghymru ac felly, oherwydd bod Tom a’i gyd-yrrwr Dale Bowen o Hirwaun gael eu
dosbarthu’n rhif un, byddant yn creu hanes trwy fod y cyntaf i gystadlu mewn rali o’r math hwn yn eu mamwlad.

Mae’r digwyddiad yn cynnwys llwybr sy’n mynd trwy olygfeydd godidog ym Mynyddoedd Cambria, dros ffyrdd sydd ag enw da am eu hapêl yrru a’u natur ymdrechgar.

“O’r hyn dwi wedi’i glywed, mae’r camau yn dechnegol iawn, felly bydd yn ddiddorol gweld sut mae’r ffyrdd ar gyflymder cystadleuol”, meddai Tom. “Gan fy mod mor lleol, roeddwn i wir eisiau cymryd rhan yn y digwyddiad a chefnogi’ tîm sy’n trefnu, sydd, mi wn, wedi gweithio’n galed dros ben i wneud iddo ddigwydd.”

Bydd Tom a Dale yn herio 44 o filltiroedd cystadleuol yn y digwyddiad mewn Hyundai i20 R5 tebyg i’r un buont yn cystadlu’n llwyddiannus ynddo ym Mhencampwriaeth Rali Prydain eleni.

Bydd car Tom – fel y mae wedi bod drwy’r tymor – yn cael ei ddarparu gan yr arbenigwyr paratoi rali blaenllaw PCRS, y mae eu proffesiynoldeb a’u berfformiad wedi gweld y tîm yn dod yn weithredwyr uchel eu parch o fewn y gamp.

“Mae’na ambell i griw mewn ceir R5 a WRC y penwythnos yma, felly dylai fod brwydr dda rhyngom ac, oherwydd dyma’r tro cyntaf i’r rali gael ei chynnal, bydd yn lefelu’r cae chwarae. Mae yna gyffro go iawn o amgylch y digwyddiad, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr ato.”

Mae’r rali wedi’i lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n gartref i bencadlys y digwyddiad, y man cychwyn, y man gorffen a’r ardal wasanaethu. Bydd Tom yn arwain y 120 o geir dros y llinell gychwyn y tu allan i Lyfrgell Genedlaethol Cymru am 9.30 am, ar ôl brwydro yn ystod dolen o bedwar cam yn y bore, bydd yn dychwelyd i’r campws ar gyfer yr arosfan gwasanaethu amser cinio.

Yna, ar ôl ail-gynnal pedwar cam y bore, bydd y criwiau’n dychwelyd i’r Llyfrgell Genedlaethol i orffen o 3.30 pm.

Mae’r canlynol yn cefnogi Tom: Trailhead Fine Foods a’i frand byrbryd Get Jerky, Hyfforddiant Cambrian, Michelin Motorsport, Ponsse DU, Go Fetch Cyf, Intervino, Atech Racing, Hyundai Motorsport Customer Racing a Shukers Hyundai, sydd yn y dref lle cynhelir y rali, Aberystwyth.