Cregyn Gleision mewn Cwrw Cymreig

I ddathlu ein Bwyd Môr Cymreig gwych a’ch helpu i greu bwyd blasus yn y gegin i chi a’ch teulu, beth am roi cynnig ar y rysáit wych hon o Gregyn Gleision Cymreig mewn Cwrw Cymreig.

Dyma ganllaw cam-wrth-gam i baratoi a choginio’r saig Bwyd Môr wych hon:

Cynhwysion

  • 75g o fenyn
  • 2 Foronen (wedi’u torri yn giwbiau mân iawn, sef brunoise)
  • 3 goesyn Seleri (wedi’u torri yn giwbiau mân iawn, sef brunoise)
  • 1/2 Cenhinen (wedi’i dorri’n fân)
  • 3 Sialotsyn (wedi’u torri’n giwbiau mân)
  • 2 ewin Garlleg (wedi’u malu)
  • 1kg o Gregyn Gleision Gŵyr
  • 300g o Hufen dwbl
  • Cennin syfi, Persli, Gorthyfail (wedi’u torri’n fân)
  • 10g o Olew had rêp Cymreig
  • 250g o gwrw iawn Cymreig

Torth Surdoes (dewisol)

Paratoi a Choginio eich Cregyn Gleision:

  1. I ddechrau, golchwch a glanhewch y cregyn gleision trwy redeg dŵr oer o dap drostynt a defnyddiwch lwy i dynnu’r cudynnau. Ar ôl tynnu’r cudynnau, bydd angen i chi grafu unrhyw gregyn llong i ffwrdd, rhoi dŵr drostynt yna’u rhoi mewn powlen lân. Ailadroddwch hyn nes bod pob cragen las yn lân.
  2. Ar gyfer y saws sylfaenol, bydd angen i chi doddi’r menyn mewn sosban a ffrio’r sialóts, y garlleg, y moron, y seleri a’r cennin yn ysgafn nes eu bod wedi coginio heb unrhyw liw. (cofiwch gymryd eich amser â’r llysiau brunoise a gwneud yn siŵr bod pob darn yn 2mm wrth 2mm, bydd hyn yn gwella eich sgiliau cyllell)
  3. Pan fydd y llysiau wedi’u coginio, tynnwch nhw o’r badell a’u rhoi i’r ochr i’w defnyddio yn nes ymlaen.
  4. Gan ddefnyddio’r un badell, rhowch yr olew had rêp ynddi a’i wresogi nes ei fod yn fyglyd.
  5. Pan fydd yr olew yn boeth, ychwanegwch y cregyn gleision a rhowch y caead ar y badell a’i hysgwyd i symud y cregyn gleision o gwmpas
  6. Parhewch i goginio nes bod y cregyn gleision yn dechrau agor ac yna tynnwch y caead
  7. Nesaf, arllwyswch y cwrw i mewn a’i dewychu nes ei fod wedi haneru, gan adael i’r alcohol goginio a gwella’r blas â sudd naturiol y cregyn gleision
  8. Ar ôl ei dewychu, ychwanegwch y llysiau gwnaethoch eu paratoi yn gynharach a throi’r cymysgedd
  9. Ychwanegwch yr hufen dwbl a’i dewychu nes ei fod yn drwchus wrth barhau i droi’r cregyn gleision
  10. Pan fydd yr hylif coginio wedi tewychu, tynnwch y badell oddi ar y gwres ac ychwanegwch y perlysiau wedi’u torri’n fân, ynghyd â halen a phupur at eich dant
  11. Yn olaf, gweinwch y saig mewn powlen â’r holl sudd coginio a chyda bara surdoes ffres i amsugno’r sudd coginio hwnnw

Gair i gall – Cofiwch ddefnyddio’r holl sudd coginio naturiol wrth goginio â physgod cregyn oherwydd dyma brofiad ni allwch ei brynu nid ydych chi eisiau colli allan ar y blas

Gair i gall – defnyddiwch win gwyn yn lle’r Cwrw Iawn Cymreig a gwnewch saig Ffrengig glasurol i’ch hun Moules Marinières

Mae paratoi a choginio Bwyd Môr yn datblygu sgiliau y bydd prentisiaid yn eu dysgu wrth weithio tuag at Brentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol a Cuisine Crefftus Lefel 2 ac mae’n cwmpasu paratoi a choginio amrywiaeth o Fwyd Môr. I gael mwy o wybodaeth am Brentisiaethau cysylltwch â Chwmni Hyfforddiant Cambrian yn cambriantraining.com neu ffoniwch: 01938 555893.