Darparwr hyfforddiant yn teithio 1,125 milltir ar gyfer Ymchwil Canser

Mae staff o un o brif ddarparwyr hyfforddiant Cymru wedi rhedeg, cerdded a beicio 1,225 o filltiroedd ers dechrau’r flwyddyn i godi arian at Ymchwil Canser.

Mae’r cwmni sydd wedi ennill gwobrau, sydd â swyddfeydd yn y Trallwng, Llanelli, Llanfair-ym-Muallt, Caergybi a Bae Colwyn wedi rhagori ar ei darged o deithio 1,000 o filltiroedd ond nid yw eto wedi ymweld â phob un o’r 22 sir yng Nghymru fel y bwriadwyd.

Ar hyn o bryd mae wedi codi £1,064.25 a gall unrhyw un sy’n dymuno helpu’r cwmni i gyrraedd ei darged o £1,500 ar gyfer Ymchwil Canser gyfrannu ar-lein yn: https://fundraise.cancerresearchuk.org/page/team-cambrian-challenge-2019

Bydd y gronfa’n cael hwb mawr pan fydd tîm o 10 o Hyfforddiant Cambrian, yn cynnwys staff a chyfeillion, yn mynd i’r afael â Hanner Marathon Caerdydd ddydd Sul, 6 Hydref.

Mae’r tîm yn cynnwys y prif swyddog gweithredol Faith O’Brien, rheolwr marchnata Katy Godsell, dadansoddwr gwybodaeth rheoli Alex Hogg, cynorthwy-ydd marchnata Kim Williams, swyddog cymorth uned weithredol Donna Heath,  cynorthwy-ydd personol i’r bwrdd Sarah Wilde, gweinyddwr data Hollie Bumford, tiwtor Sgiliau Hanfodol Tracey Dawson, Pennaeth Ysgol Uwchradd Caereinion Philip Jones a’r rheolwr ansawdd a chydymffurfiaeth prentisiaethau Grŵp Compass Barry Rotherham.

Mae’r tîm wedi bod yn hyfforddi’n galed ac wedi cwblhau cymysgedd o rasys ffordd, llwybr a mynydd yn ogystal â theithiau rhedeg hyfforddi sydd bellach wedi cyrraedd 10 milltir o hyd.

Rhoddodd y swyddog hyfforddiant Sarah Jones hwb i’r codi arian yr haf hwn trwy gwblhau’r ‘Across Wales Walk, a bu Donna Heath yn rhedeg Ultra Marathon Calon Cymru. Mae staff o bob rhan o’r cwmni wedi teithio gweddill y milltiroedd caled ar deithiau rhedeg hyfforddi a rasys.

Mae staff yn pwysleisio bod amser o hyd ar gyfer prentisiaid a chyflogwyr, y mae’r cwmni’n gweithio â nhw ledled Cymru, i ymuno yn yr her codi arian. Ymhlith y siroedd sydd eto i’w hymweld mae Merthyr, Sir Fynwy, Abertawe, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili a Phen-y-bont ar Ogwr.

Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i’r cwmni fabwysiadu Ymchwil Canser fel ei elusen, ar ôl codi £855 yn 2018.

“Rydym wedi cyfrifo bod angen i ni deithio 45.5 milltir ym mhob sir yng Nghymru i gyrraedd ein targed yn ystod 2019,” dywedodd Katy Godsell. “Hoffem gynnwys yr holl siroedd i ddarlunio bod Hyfforddiant Cambrian yn darparu prentisiaethau ledled Cymru.

“Rydyn ni’n codi arian ar gyfer yr elusen wych hon oherwydd bod canser wedi cyffwrdd â chymaint o’n bywydau. Gyda’n gilydd rydyn ni eisiau curo canser.”

Mae Hyfforddiant Cambrian yn arbenigo mewn darparu prentisiaethau a chyfleoedd cyflogadwyedd ar draws amrywiaeth o ddiwydiannau ar draws Cymru gyfan. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu’r Rhaglen Brentisiaethau yng Nghymru â chefnogaeth oddi wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop.

Capsiwn y llun:

Yn paratoi i redeg Hanner Marathon Caerdydd ar gyfer Ymchwil Canser y mae Sarah Wilde, Katy Godsell, Philip Jones, Alex Hogg a Donna Heath.

Diwedd

I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â Katy Godsell, rheolwr marchnata Cwmni Hyfforddiant Cambrian, ar Ffôn: 01938 555 893 neu Duncan Foulkes, cynghorydd cysylltiadau cyhoeddus, ar Ffôn: 01686 650818.