Gofalu am eich Iechyd Meddwl: Covid-19

Gall yr ansicrwydd a’r anniddigrwydd o ganlyniad i bandemig Coronafeirws gael effaith sylweddol ar eich Iechyd Meddwl. Dyma rai ffyrdd y gallwch geisio cynnal ymdeimlad o reolaeth rhoi tawelwch meddwl i’ch gofidiau:

  1. Peidi wch ag ymgolli yn y Newyddion – Mae’n hawdd rhoi’r newyddion ymlaen a gwrando ar y sylw diddiwedd yn y cyfryngau yn ystod adeg fel hyn, ond gall y math hwn o weithgaredd ddwysau teimladau o ofid a thrallod. Cymerwch egwyl o edrych yn gyson ar y Newyddion, y Peiriannau Chwilio a’r Cyfryngau Cymdeithasol.
  2. Peidiwch ag anghofio gofalu am eich hun – Gall ansicrwydd y byd tu allan ar hyn o bryd ddod â llawer o deimladau o anniddigrwydd i chi. Canolbwyntiwch ar y pethau y gallwch eu rheoli (e.e. golchi’ch dwylo, dim ond mynd allan os oes rhaid), yn hytrach na phethau na allwch eu stopio (e.e. gwella’r firws).
  3. Estynnwch allan a pharhau i gefnogi pobl eraill – Er na allwch eu gweld nhw, mae’n bwysig iawn cadw mewn cysylltiad gyda’ch rhwydwaith…ac yn ffodus, mae cymaint o ffyrdd o wneud hynny’r dyddiau hyn e.e. Ffôn, Galwad Fideo, y Cyfryngau Cymdeithasol, Negeseuon Testun ac ati. Gall trafod trwy’ch pryderon a’ch teimladau eich helpu chi i ddod o hyd i ffyrdd o ddelio â heriau. Gall helpu pobl eraill yn ystod eu cyfnod o angen fod o fantais feddyliol i’r unigolyn sy’n cael y gefnogaeth ac i’r helpwr hefyd.
  4. Canolbwyntiwch ar y pethau cadarnhaol – Cymerwch yr amser ychwanegol hwn yn eich cartref i wneud y pethau dydych chi erioed wedi cael amser i’w gwneud… peintiwch yr ystafell wely sbâr, gwnewch ymarfer corff neu beth am ddysgu sgil newydd hyd yn oed? Mae gennym ddigon o ryseitiau ar ein blog er mwyn i chi wella’ch sgiliau coginio: https://www.cambriantraining.com/wp/cy/newyddion/
  5. Gofynnwch am help proffesiynol – Os na fydd hyn i gyd yn helpu, ystyriwch estyn allan at weithiwr proffesiynol am gefnogaeth. Dyma restr o Linellau Cymorth Iechyd Meddwl: https://www.nhs.uk/conditions/stress-anxiety-depression/mental-health-helplines/

Ffynhonnell: https://www.mhe-sme.org/covid-19/