Polisi Preifatrwydd

Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn ymroi i ddiogelu a pharchu’ch preifatrwydd.

Mae’r polisi hwn yn nodi i ba sail y byddwn yn prosesu unrhyw ddata personol a gasglwn gennych, neu a ddarparwch i ni. Darllenwch y canlynol yn ofalus er mwyn deall ein safbwyntiau a’n harferion mewn perthynas â’ch data personol a sut byddwn yn ei drin. Cadwn rywfaint o wybodaeth sylfaenol pan fyddwch yn troi at ein gwefan a chydnabyddwn bwysigrwydd cadw’r wybodaeth honno’n ddiogel a rhoi gwybod i chi beth fyddwn yn ei wneud gyda hi.

At ddiben Deddf Diogelu Data’r DU 1998 (y Ddeddf) a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yr UE, y rheolwr data yw Cwmni Hyfforddiant Cambrian o Tŷ Cambrian, Uned 10 Parc Busnes Clawdd Offa, Fisher Road, Buttington, Y Trallwng, SY21 8JF (rhif cofrestru 3102054).

Mae’r polisi hwn ond yn berthnasol i’n safle ni. Os gadewch chi’n safle trwy ddolen gyswllt neu fel arall, byddwch chi’n destun polisi darparwr y wefan honno. Nid oes gennym reolaeth dros y polisi hwnnw na thelerau’r wefan a dylech wirio’u polisi nhw cyn mynd ati i droi at y safle.

GWYBODAETH Y GALLEM EI CHASGLU GENNYCH

Gallwn gasglu a phrosesu’r data canlynol amdanoch chi:

  • Gwybodaeth a ddarparwch trwy lenwi ffurflenni ar ein safle, cambriantraining.com (ein safle). Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth a ddarparwyd adeg cofrestru i ddefnyddio’n safle, i danysgrifio i’n gwasanaeth neu i ofyn am wasanaethau pellach. Hwyrach y gallem ofyn i chi hefyd am wybodaeth pan fyddwch yn rhoi gwybod am broblem gyda’n safle.
  • Os cysylltwch chi â ni, gallem gadw cofnod o’r ohebiaeth honno.
  • Gallem ofyn i chi hefyd lenwi arolygon a ddefnyddiwn at ddibenion ymchwil, ond nid oes rhaid i chi ymateb iddynt.
  • Manylion eich ymweliadau â’n safle gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddata traffig, data lleoliad, gweflogiau, system weithredu, defnydd porwr a data cyfathrebu arall, p’un a oes angen hyn at ein dibenion anfon biliau ein hunain neu fel arall, a’r adnoddau y trowch atynt.

CYFEIRIADAU PROTOCOL Y RHYNGRWYD (IP) A CHWCIS

Gallwn gasglu gwybodaeth am eich cyfrifiadur, sy’n cynnwys eich cyfeiriad IP lle mae ar gael, system weithredu a math o borwr, er mwyn gweinyddu systemau ac i adrodd ar wybodaeth grynswth i’n hysbysebwyr. Data ystadegol yw hwn ar weithredoedd a phatrymau pori ein defnyddwyr ac nid yw’n adnabod unrhyw unigolyn ac ni fyddwn yn casglu gwybodaeth bersonol yn y ffordd hon.

Gallwn gael gwybodaeth am eich defnydd cyffredinol o’r rhyngrwyd gan ddefnyddio ffeil cwci sy’n cael ei storio ar yriant caled eich cyfrifiadur. Mae cwcis yn cynnwys gwybodaeth a drosglwyddir i yriant caled eich cyfrifiadur. Maen nhw’n ein helpu ni i wella’n safle ac i gyflawni gwasanaeth gwell a mwy personol. Maen nhw’n ein galluogi ni i wneud y canlynol:

  • Amcangyfrif maint ein cynulleidfa a phatrwm defnydd.
  • Storio gwybodaeth am eich dewisiadau, ac felly ein galluogi ni i addasu’n safle yn unol â’n diddordebau unigol.
  • Cyflymu’ch chwiliadau.
  • Eich adnabod chi pan fyddwch yn dychwelyd i’n safle.

Gallech wrthod derbyn cwcis trwy actifadu’r gosodiad ar eich porwr sy’n eich galluogi chi i wrthod gosod cwcis. Fodd bynnag, os dewiswch y gosodiad hwn, hwyrach na allwch fynd at rai rhannau o’n safle. Oni y byddwch wedi addasu gosodiad eich porwr er mwyn iddo wrthod cwcis, bydd ein system yn cyhoeddi cwcis pan fyddwch yn mewngofnodi i’n safle.

LLE’R YDYM YN STORIO’CH DATA PERSONOL

Gallai’r data a gasglwn gennych gael ei drosglwyddo i gyrchfan y tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (“AEE”) a chael ei storio yno. Gallai hefyd gael ei brosesu gan staff sy’n gweithredu y tu allan i’r AEE sy’n gweithio i ni ar gyfer un o’n cyflenwyr. Gallai’r staff hynny fod yn cymryd rhan, ymhlith pethau eraill, wrth ddiwallu’ch archeb, prosesu’ch manylion talu a darparu gwasanaethau cymorth. Trwy gyflwyno’ch data personol, rydych chi’n cytuno’r gwaith hwn o drosglwyddo, storio neu brosesu. Byddwn yn cymryd pob cam rhesymol angenrheidiol i sicrhau y caiff eich data ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r polisi preifatrwydd hwn.

Caiff yr holl wybodaeth a ddarparwch i ni ei storio ar ein gweinyddion diogel. Bydd unrhyw drafodion talu’n cael eu hamgryptio. Lle’r ydym wedi rhoi (neu lle’r ydych chi wedi dewis) cyfrinair sy’n eich galluogi chi i droi at rai rhannau o’n safle, rydych chi’n gyfrifol am gadw’r cyfrinair hwn yn gyfrinachol. Gofynnwn i chi beidio â rhannu cyfrinair gyda neb.

Yn anffodus, nid yw trosglwyddo gwybodaeth trwy’r rhyngrwyd yn hollol ddiogel. Er y byddwn yn gwneud ein gorau i ddiogelu’ch data personol, ni allwn sicrhau diogelwch eich data a drosglwyddir i’n safle ni; gwneir unrhyw drosglwyddiad ar eich menter chi. Ar ôl i ni dderbyn eich gwybodaeth, byddwn yn defnyddio gweithdrefnau a nodweddion diogelwch llym i geisio atal mynediad anawdurdodedig.

DEFNYDD A WNEIR O’R WYBODAETH

Defnyddiwn wybodaeth a ddelir amdanoch yn y ffyrdd canlynol:

  • Er mwyn sicrhau bod cynnwys o’n safle’n cael ei gyflwyno yn y ffordd fwyaf effeithiol i chi ac i’ch cyfrifiadur.
  • Darparu’r wybodaeth, y cynhyrchion neu’r gwasanaethau y gofynnwch amdanynt gennym ni neu y teimlwn y gallent fod o ddiddordeb i chi lle’r ydych chi wedi caniatáu i ni gysylltu â chi at y fath ddibenion.
  • Cyflawni’n rhwymedigaethau sy’n codi o unrhyw gontractau a ddechreuir rhyngoch chi a ni.
  • Eich galluogi i gymryd rhan yn nodweddion rhyngweithiol ein gwasanaeth, pan ddewiswch wneud hynny.
  • Rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth.

Gallwn hefyd ddefnyddio’ch data, neu ganiatáu i drydydd partïon dethol ddefnyddio’ch data, er mwyn rhoi gwybodaeth i chi am nwyddau a gwsanaethau a allai fod o ddiddordeb i chi ac mae’n bosibl y byddwn ni neu nhw’n cysylltu â chi am y rhain dros [y post neu’r ffôn].
Os nad ydych chi am i ni ddefnyddio’ch data fel hyn, neu drosglwyddo’ch manylion i drydydd partïon at ddibenion marchnata, ticiwch y blwch perthnasol ar y ffurflen y casglwn eich data ohoni.

DATGELU’CH GWYBODAETH

Gallwn ddatgelu’ch gwybodaeth bersonol i drydydd partïon:

  • Os byddwn yn prynu neu’n gwerthu unrhyw fusnes neu asedau, hwyrach y byddwn yn datgelu’ch data personol i’r darpar werthwr neu brynwr y busnes neu’r asedau yn yr achos hwnnw.
  • Os oes dyletswydd arnom i ddatgelu neu rannu’ch data personol er mwyn cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol, ein cwsmeriaid, neu bobl eraill. Mae hyn yn cynnwys cyfnewid gwybodaeth gyda chwmnïau a sefydliadau eraill at ddibenion diogelu rhag twyll a lleihau risgiau credyd.

EICH HAWLIAU

Mae gennych yr hawl i ofyn i ni beidio â phrosesu’ch data personol at ddibenion marchnata. Fel rheol, byddwn yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu’ch data) os bwriadwn ddefnyddio’ch data at y dibenion hynny neu os bwriadwn ddatgelu’ch gwybodaeth i unrhyw drydydd parti ar gyfer y fath ddibenion. Gallwch ddefnyddio’ch hawl i atal y fath brosesu trwy dicio rhai blychau ar y ffurflenni a ddefnyddiwn i gasglu’ch data neu, os dymunwch wneud cais am Fynediad Pwnc i gael copi o’ch data gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian, cysylltwch â ni yn Tŷ Cambrian, Uned 10 Parc Busnes Clawdd Offa, Fisher Road, Buttington, Y Trallwng, SY21 8JF neu drwy e-bost; info@cambriantraining.com.

Gallai ein safle gynnwys dolenni o bryd i’w gilydd i wefannau’n rhwydweithiau partner, hysbysebwyr a chymdeithion neu oddi wrthynt. Os dilynwch ddolen i unrhyw un o’r gwefannau hyn, sylwch fod gan y gwefannau hyn eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac na dderbyniwn unrhyw gyfrifoldeb na rhwymedigaeth am y polisïau hyn. Archwiliwch y polisïau hyn cyn i chi gyflwyno unrhyw ddata personol i’r gwefannau hyn.

MYNEDIAD I WYBODAETH

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r hawl i chi droi at wybodaeth a ddelir amdanoch. Gellir defnyddio’ch hawl i fynediad yn unol â’r Ddeddf. Gallai unrhyw gais am fynediad fod yn destun ffi o £10 i dalu’n costau wrth roi i chi fanylion y wybodaeth a ddaliwn amdanoch.

NEWIDIADAU I’N POLISI PREIFATRWYDD

Bydd unrhyw newidiadau a wnawn i’n polisi preifatrwydd i’r dyfodol yn cael eu postio ar y dudalen hon, a lle bo’n briodol, yn cael eu hysbysu i chi trwy e-bost. Fodd bynnag, fe’ch cynghorwn ni chi i wirio’r dudalen hon yn gyson i gadw i fyny gydag unrhyw newidiadau angenrheidiol.

CYSWLLT

Caiff cwestiynau, sylwadau a cheisiadau mewn perthynas â’r polisi preifatrwydd hwn eu croesawu a dylid eu cyfeirio at, Tŷ Cambrian, Uned 10 Parc Busnes Clawdd Offa, Fisher Road, Buttington, Y Trallwng, SY21 8JF neu drwy e-bost; info@cambriantraining.com